Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Wroleg
- Gradd
- Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (10 sesiwn)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-PPH-138
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £110,240 - £160,951 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/04/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Wrolegydd Ymgynghorol
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Wrolegydd Ymgynghorol rhagweithiol ac ymroddedig i ymuno â'n tîm profiadol a chefnogol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hwn yn gyfle gwych i gyfrannu at ddarparu gofal wrolegol o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y claf ar draws rhanbarth mawr ac amrywiol, a’r gwasanaethau’n rhychwantu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Yn gweithio’n bennaf o Ysbytai Cyffredinol Glangwili a’r Tywysog Phillip, byddwch yn ymuno â grŵp sefydledig o gyd-weithwyr ymgynghorol sy'n darparu gwasanaethau wroleg cynhwysfawr ar draws nifer o safleoedd ysbyty. Byddwch yn cyfrannu at ehangder llawn ymarfer wroleg gyffredinol, yn cymryd rhan mewn rota 1:7 ar alwad gyda chefnogaeth gradd ganol, ac yn cymryd rhan weithredol yng nghyfarfodydd wythnosol y tîm amlddisgyblaethol. Mae'r swydd yn cynnwys cwmpas i ddatblygu neu atgyfnerthu diddordebau is-arbenigedd ac i gydweithio â phartneriaid rhanbarthol, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Rydym yn chwilio am gyd-weithiwr sy'n dod â brwdfrydedd, arweinyddiaeth glinigol gref, ac ymrwymiad i weithio amlddisgyblaethol. Fe’ch cefnogir gan ein Rhaglen Datblygu a Mentora Ymgynghorwyr gynhwysfawr, sydd wedi'i chynllunio i helpu ymgynghorwyr newydd i bontio’n hyderus i'w rôl a datblygu i fod yn arweinwyr y dyfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
A chithau’n Wrolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu gwasanaethau wroleg diogel, effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar draws ein safleoedd ysbytai. Bydd eich gwaith yn cwmpasu gofal cleifion allanol, diagnosteg, sesiynau theatr, rheoli cleifion mewnol, cyfranogi yn y tîm amlddisgyblaethol a chyfrifoldebau ar alwad, gyda chefnogaeth tîm amlddisgyblaethol medrus.
Byddwch yn darparu asesiadau, ymchwiliadau a thriniaeth arbenigol i gleifion ag ystod eang o gyflyrau wrolegol, gan sicrhau safonau clinigol uchel a chyfrannu at ddiwylliant o ddysgu, datblygu a gwella parhaus. Mae rhan graidd o'r rôl yn cynnwys cydweithio â chyd-weithwyr ymgynghorol, nyrsys arbenigol, meddygon iau a phartneriaid rhanbarthol i ddarparu llwybrau cleifion di-dor a chynnal trefniadau llywodraethu clinigol cadarn.
Yn ogystal â dyletswyddau clinigol uniongyrchol, byddwch yn cyfrannu at addysgu a goruchwyliaeth hyfforddeion meddygol a gweithwyr proffesiynol eraill, gan gefnogi ein diwylliant addysgu cryf a helpu i lunio'r genhedlaeth nesaf o glinigwyr. Byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan mewn gweithgareddau archwilio, datblygu gwasanaethau ac ymchwil, ac i ddefnyddio eich sgiliau arwain i helpu i lunio ac esblygu dyfodol gwasanaethau wroleg yn y Bwrdd Iechyd.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae BIP Hywel Dda yn cynnig amgylchedd gwaith unigryw a gwerth chweil. Gyda system iechyd integredig sydd â chysylltiadau academaidd cryf â Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd, rydym yn cefnogi addysgu clinigol, hyfforddiant ôl-raddedig, gweithgarwch ymchwil ac arloesi. Mae ein rhanbarth yn darparu ansawdd bywyd dymunol, gyda thirweddau naturiol eithriadol, cymunedau bywiog, ysgolion rhagorol a bywyd fforddiadwy.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- Yn glinigol hyderus, ac yn meddu ar brofiad eang ar draws wroleg gyffredinol
- Yn gydweithredol, gan weithio'n effeithiol yn rhan o dîm ehangach ledled nifer o safleoedd
- Yn hyblyg, ac yn gallu ymateb i anghenion gwasanaeth sy'n newid a llwybrau clinigol sy'n esblygu
- Wedi ymrwymo i ansawdd, gyda ffocws cryf ar ddiogelwch, llywodraethu a gofal seiliedig ar dystiolaeth
- Yn gefnogol a hygyrch, yn enwedig wrth oruchwylio a datblygu staff iau
- Yn frwd dros wella, ac yn awyddus i gyfrannu at ddatblygu gwasanaethau, archwilio ac arloesi
- Yn drefnus ac yn barod i siarad, yn gallu rheoli llwyth gwaith clinigol a chynnal cyfathrebu rhagorol â chleifion a chydweithwyr gofal sylfaenol
I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm.
Cynhelir trafodaethau ynghylch patrwm gweithio yn ystod y broses cynllunio swyddi gychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi cynhwysiant ac yn meithrin diwylliant yn y gweithle sy'n croesawu amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn tuag at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym yn ymrwymedig i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.
Hywel Dda 3 Sir -https://youtu.be/9wTeZD4cQOw
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
- Ar Gofrestr Arbenigol y GMC (gan gynnwys trwy Lwybr Portffolio (CESR)/Hawliau'r Gymuned Ewropeaidd) neu bydd disgwyl CCT o fewn chwe mis i ddyddiad y cyfweliad.
- Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys.
- Pan fo diddordeb is-arbenigedd yn ofynnol, dylai hyfforddiant is-arbenigedd fod i lefel sy'n briodol ar gyfer ymarfer ymgynghorol is-arbenigol y DU - cymrodoriaeth neu brofiad lefel gyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster(au) Uwch ychwanegol.
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
- Gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Profiad o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
- Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff.
- Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu.
Ymchwil ac Ysgolheictod
Meini prawf hanfodol
- Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
- Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
- Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
- Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
- Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
- Cyfranogiad mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol.
- Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Diogelu
Meini prawf hanfodol
- Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
- Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.
Arall
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio'n annibynnol a bod yn gyfrifol am gamau a gymerwyd.
- Gallu gweithio'n hyblyg.
- Gallu bod yn bwyllog wrth weithio o dan bwysau
- Ymgymryd â chyfrifoldeb am arwain a goruchwylio tîm
- Sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol rhagorol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Neil Griffiths
- Teitl y swydd
- Service Delivery Manager of Urology & Rheumatology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07530836463
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





