Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dieteteg
Gradd
Gradd 6
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (Cyfnod penydol tan 01.04.2025)
Oriau
Rhan-amser - 18.75 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP043-0324-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Iechyd Aberdaugleddau
Tref
Aberdaugleddau
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
28/05/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Dietegydd Cymunedol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS (01.04.25) OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON. 

A ydych yn Ddeietegydd brwdfrydig a dynamig sy'n meddu ar sgiliau rhagorol o ran gweithio mewn tîm? Mae cyfle wedi dod ar gael i ymuno â’n tîm cymunedol Deieteg blaengar a dynamig ledled Hywel Dda, a hynny er mwyn mynd i’r afael â diffyg maeth yn rhan o’n hachos busnes Diffyg Maeth. Mae’r gwasanaeth wedi cael buddsoddiad sylweddol i fynd i’r afael â diffyg maeth, ac, o ganlyniad, mae’r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i gydweithio â’r tîm cymunedol ehangach i ddelio â diffyg maeth yn y gymuned, yn ogystal â chefnogi gwaith prosiect cyffrous ac arloesol megis hunansgrinio ar gyfer diffyg maeth, clinigau rhithwir, llwyfannau digidol a ffyrdd newydd o weithio.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am lwyth achosion cymhleth o gleifion cymorth maethol cymunedol, a bydd hefyd yn ymgysylltu â chyfarfodydd tîm amlbroffesiynol dan arweiniad meddygon teulu i ymgorffori gofal maethol, ac yn darparu cyngor a chymorth maethol arbenigol i'r tîm ehangach o ran sgrinio maethol, llwybrau atgyfeirio a chynllunio gofal maethol. Bydd hyfforddiant ac addysg yn rhan allweddol o'r rôl hon. Mae'r swydd hon yn cynnig y gallu i weithio'n hyblyg gartref wedi'i gydbwyso â'r cyfle i gael eich lleoli ar y safle (o leiaf un diwrnod yr wythnos). Bydd deiliad y swydd yn cynnal ymweliadau cymunedol, yn mynychu cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol ac yn mynychu apwyntiadau 'Attend Anywhere' neu glinigau wyneb yn wyneb.

Rydym yn ymfalchïo yn y gwasanaeth ein bod yn dîm cefnogol, ac rydym yn croesawu ymgeiswyr sy'n dymuno trafod cyfleoedd ar gyfer gweithio'n hyblyg a gweithio o bell.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Lleolir y swydd yn Sir Benfro, sy'n ardal o harddwch naturiol eithriadol, wedi'i hamgylchynu gan arfordir syfrdanol, sy'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n hoff o weithgareddau awyr agored a gweithgareddau ar y môr. Mae gennym hefyd ein theatrau, ein sinemâu a'n bwytai gwych ein hunain ledled y Sir. Ar ôl i chi fyw yma ni fyddwch byth am adael!

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 28.05.2024

Manyleb y person

Amgylchiadau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd gydnabyddedig mewn Deieteg, ynghyd a chofrestriad proffesiynol
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (yr HCPC)
  • Tystiolaeth o bresenoldeb ar gyrsiau arbenigol achrededig a/neu gyrsiau hyfforddiant uwch mewn perthynas a deieteg, a hynny ar lefel diploma ol-raddedig
  • Yn amlygu gwybodaeth a sgiliau deieteg clinigol wedi'u cydgrynhoi ym maes dieteteg oedolion
  • Yn meddu ar wybodaeth arbenigol a amlygir gan gymhwyster deieteg a dysgu ffurfiol ychwanegol/ phrofiad amlwg ym maes deieteg acíwt ac yn y gymuned yn achos oedolion
  • Sgiliau o ran dulliau o ymdrin a newid ymddygiad, gan gynnwys cyf-weld ysgogiadol
  • Yn amlygu gwybodaeth dda am y sail dystiolaeth mewn perthynas ag ymarfer deietegol a datblygu ymarfer, ac yn gallu cymhwyso'r wybodaeth honno
  • Sgiliau arfarnu beirniadol: gwybodaeth am y sail dystiolaeth gyfredol a datblygol, ac am bolisïau, canllawiau ac arfer gorau cenedlaethol a phroffesiynol mewn perthynas â darparu a datblygu maes arbenigol gwaith deieteg
  • Sgiliau datrys problemau clinigol sefydledig
  • Yn amlygu sgiliau trefnu effeithiol, sy'n cynnwys blaenoriaethu'r llwyth gwaith a rheoli'r llwyth achosion mewn modd effeithiol
  • Sgiliau addysgu a chyflwyno sefydledig
Meini prawf dymunol
  • Wedi cwblhau hyfforddiant ar Sgiliau Goruchwylio Clinigol
  • Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd arall sy'n berthnasol i'r maes ymarfer deieteg clinigol
  • ECDL

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn amlygu profiad clinigol ym maes deieteg oedolion
  • Profiad o weithio mewn lleoliadau aciwt, yn y gymuned a chyda chleifion allanol i ddarparu gofal deietig
  • Profiad o ddarparu hyfforddiant a sesiynau addysgol i staff, yn ogystal ag addysg grwp i gleifion
  • Profiad o weithio mewn timau amlddisgyblaethol
  • Tystiolaeth o gymryd rhan mewn gwaith datblygu mewn gwasanaethau deieteg, e.e. archwilio, gweithredu newid mewn ymarfer, darparu ymyriad deietegol newydd
  • Profiad o archwiliad clinigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddirprwyo gwaith i weithwyr cymorth/fyfyrwyr/staff deietig iau, a'u cefnogi/goruchwylio
  • Profiad o newid gwasanaeth
  • Profiad o ymchwil
  • Profiad o gyflawni gwaith prosiect

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Elizabeth Green
Teitl y swydd
Clinical Lead Dietitian
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437 774356
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Paul Makin

07813 400372

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg