Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Cymunedol
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous a phrin wedi dod ar gael i Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd Cymunedol band 3 weithio yng Nghlinigau Cymunedol Sir Benfro, yn Ysbyty De Sir Benfro. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio mewn Clinigau Rheoli Wlserau Coesau, Coesau Iach, Cathetrau a Chwyr Clustiau. Swydd ran-amser yw hon, 30 awr yr wythnos, gan weithio rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 9am-5pm.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant sy'n meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac sy'n barod i weithio'n hyblyg a chefnogi'r gwasanaeth Clinigau Cymunedol. Os ydych yn teimlo'n angerddol dros ddarparu gofal o ansawdd uchel, yna dewch i ymuno â'n tîm o staff profiadol a chefnogol o'r un anian a chyfrannu at y gwasanaeth rhagorol yr ydym yn ei ddarparu i'n cleifion. Rydym yn rhoi gwerth ar ein staff ac yn deall yr angen am gymorth a bodlonrwydd swydd yn eich rôl. Profiad yn ddymunol ond bydd cwrs sefydlu a hyfforddiant llawn yn cael eu darparu i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 30/5/24
Prif ddyletswyddau'r swydd
A chithau'n uwch-weithiwr cymorth gofal iechyd, byddwch yn gwneud y canlynol:
Bod yn gyfrifol, yn rhan o dîm nyrsio, am ddarparu gofal nyrsio costeffeithiol o safon uchel, a hynny wrth gefnogi a than arweiniad a dirprwyaeth yr Uwch-brif Nyrs neu gynrychiolydd dynodedig.
Gofalu bod y cleifion/cleientiaid yn cael safonau gofal diogel, unigol eu gogwydd ac effeithiol, a hynny trwy ddilyn cynlluniau gofal ac ymyriadau triniaeth, fel y'u dirprwyir gan y nyrs gofrestredig, gan oresgyn rhwystrau i ddealltwriaeth wrth iddynt godi.
O dan ddirprwyaeth y nyrs â gofal am y llwyth achosion, gweithio mewn modd cymwys a heb oruchwyliaeth uniongyrchol yn unol â fframwaith y cytunwyd arno gan yr Uwch-brif Nyrs/Arweinydd y Tîm.
Wrth dderbyn gweithgareddau dirprwyedig, cyfrifoldeb deiliad y swydd yw sicrhau nad effeithir ar ddiogelwch y cleifion na'r cyhoedd.
Cyfathrebu â'r cleifion a'u gofalwyr mewn modd effeithiol bob amser, a hynny ar y cyd ag aelodau eraill o'r tîm, gan gyfrannu at athroniaeth y tîm, a'i chynnal.
Bod yn esiampl i weithwyr cymorth gofal iechyd eraill a myfyrwyr nyrsio.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu yn gweithio at hynny gyda lefel gyfwerth o brofiad.
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Meini prawf dymunol
- Profiad o arbenigedd.
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Welsh Speaker
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Batty
- Teitl y swydd
- Team Leader - Community Clinics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07790978722
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector