Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio Cymunedol
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR165-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty De Sir Benfro
Tref
Doc Penfro
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
14/06/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Gymunedol

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer Nyrs Gymunedol Band 5 yn y Tîm Gofal Canolraddol yn Sir Benfro.

Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi'r gwaith o reoli llwyth achosion dirprwyedig o fewn y Gwasanaeth Pontio Uwch fel rhan o'r Tîm Gartref yn Gyntaf. O dan oruchwyliaeth uwch-nyrs, bydd hyn yn cynnwys rheoli llwyth achosion, yn ogystal â darparu cymorth ac arweiniad i dîm o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd Cymunedol Band 2.

Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod gofal o safon uchel yn cael ei ddarparu i gleifion a'u teuluoedd/gofalwyr o fewn amgylchedd y cartref trwy sicrhau bod gofal yn cael ei asesu, ei gynllunio, ei weithredu a'i werthuso.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gysylltu â staff, cleifion/gofalwyr a’r tîm 
amlddisgyblaethol ehangach o fewn Gofal Brys a Gofal Canolraddol. Disgwylir y caiff dyletswyddau a strategaethau rheoli risg eu dirprwyo'n briodol er mwyn cynnal cyfathrebu effeithiol rhwng y rhai sy'n ymwneud â phecyn gofal y claf.

Mae gan Dimau Nyrsio Cymunedol Sir Benfro gymysgedd sgiliau nyrsio eang, ac maent yn ymfalchïo mewn cefnogi datblygiad proffesiynol a gwella safonau uchel o ymarfer cymunedol yn unol â gwerthoedd cyfredol y Bwrdd Iechyd.

Ar hyn o bryd mae un swydd barhaol lawn-amser ar gael, yn gweithio pum niwrnod dros gyfnod o saith niwrnod, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc. 

Bydd angen i ddeiliad y swydd allu teithio ledled safleoedd mewn modd amserol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 14/6/24

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig Lefel 1 (Oedolion)
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus a hyfforddiant statudol a gorfodol
  • Ymwybyddiaeth o bolisiau, gweithdrefnau a chanllawiau'r Bwrdd Iechyd
  • Y gallu i gysylltu theori ag ymarfer
  • Dealltwriaeth o waith gofal iechyd sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Profiad ol-gofrestru mewn gwasanaethau aciwt
  • Addysgu ac asesu
  • Dealltwriaeth o lywodraethu clinigol, iechyd a diogelwch ac ymwybyddiaeth o reoli risgiau
  • Profiad cymunedol
  • Parodrwydd i ymgymryd a hyfforddiant pellach, yn ol yr angen
  • Tystiolaeth o addysg ol-gofrestru – lefel Diploma/ Gradd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn o God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018)
  • Y gallu i roi theori ar waith trwy sgiliau myfyriol
Meini prawf dymunol
  • Profiad cymunedol perthnasol
  • Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am y gymuned

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Claire Grehan
Teitl y swydd
Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07800712162
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg