Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
Patrwm newid/rhan amser awr - i'w drafod
Cyfeirnod y swydd
100-AC001-0125-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Meddygfa'r Sarn
Tref
Pontiets
Cyflog
£23,970 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Derbynnydd - Meddygfa

Gradd 2

Trosolwg o'r swydd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am benodi Derbynnydd i weithio ar sail rota ym Meddygfa'r Sarn, Pontiets. O bryd i’w gilydd efallai y bydd gofyniad i gyflenwi ar draws practisau eraill a reolir yn y Bwrdd Iechyd.

Mae hon yn rôl amrywiol mewn meddygfa deulu brysur a diddorol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyfarch cleifion yn gwrtais a sicrhau bod y system apwyntiadau’n rhedeg yn effeithlon, monitro llif cleifion i'r ystafelloedd ymgynghori ac oddi yno, a rheoli ciwiau dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Mae'r feddygfa'n agored o ddydd Llun i ddydd Gwener, 08.00-18.30, ac mae'r oriau gwaith yn batrwm shifft dros yr wythnos. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Hwyluso cyfathrebu effeithiol rhwng cleifion, aelodau o'r tim gofal iechyd sylfaenol, gofal eilaidd ac asiantaethau gofal iechyd cysylltiedig eraill.

Cynnig cymorth cyffredinol i dim y feddygfa a chyfleu delwedd gadarnhaol a chyfeillgar i gleifion ac ymwelwyr eraill, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo o ran rhedeg y feddygfa mewn modd hwylus.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun.

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg a chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.  

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.  

 Cynhelir y cyfweliadau ar 21/05/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • NVQ lefel 2 neu brofiad cyfatebol perthnasol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn rol weinyddol
  • Y gallu i weithio yn rhan o dimau/mewn amgylcheddau amlddisgyblaethol
  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o'r modd y mae defnyddio pecynnau meddalwedd, gan gynnwys Word ac Excel

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Pamela Parker
Teitl y swydd
Service Delivery Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01269 860348
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Gemma Burrell - [email protected] - Dirprwy Reolwr Ymarfer

Rhian Williams - [email protected] - Goruchwyliwr Derbyn

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg