Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dydau gwaith i gael eu cytuno)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC253-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w gadarnhau
- Tref
- I'w gadarnhau
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/09/2025
Teitl cyflogwr

Uwch-swyddog Gweinyddol
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r tîm Iechyd Galwedigaethol yn chwilio am Uwch-swyddog Gweinyddol profiadol.
Rydym yn chwilio am rywun a all weithio'n annibynnol yn ogystal ag yn rhan o dîm, ac sy'n meddu ar y gallu i gynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith i fodloni terfynau amser.
Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol a hyderus, a gellir ymddiried ynoch i ddelio â materion cyfrinachol o ddydd i ddydd. Byddwch yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol ac asiantaethau'r Bwrdd Iechyd.
Mae hon yn rôl gyffrous a fydd yn rhoi dirnadaeth ragorol i chi o'r modd y caiff y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol ei ddarparu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu llywio cronfa ddata electronig fawr, gan ddefnyddio sgiliau TG rhagorol i fewnbynnu gwybodaeth yn gywir, llunio adroddiadau a data, cyflawni gwaith clercol cyffredinol, megis llunio llythyrau a dogfennau'r tîm, a chymryd cofnodion.
Mae dyletswyddau eraill yn cynnwys y canlynol:
Gwneud ac ateb galwadau ffôn gan gyflogeion, rheolwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, defnyddio menter a barn o ran y camau gweithredu gofynnol a, lle bo angen, atgyfeirio at aelod priodol o staff.
Yn ôl y cyfarwyddyd, darparu cymorth ar gyfer trefnu cyfarfodydd a pharatoi adroddiadau a gohebiaeth arall.
Darparu hyfforddiant rheolaidd ar ddiweddariadau i systemau ar gyfer rhaglenni perthnasol.
Cyfathrebu'n effeithiol a sefydlu a chynnal perthnasoedd da â chyflogeion, rheolwyr ac aelodau'r Tîm Iechyd Galwedigaethol
Cymryd a thrawsgrifio cofnodion.
Blaenoriaethu gwaith dyddiol i gydymffurfio ag anghenion y tîm.
Rheoli eich llwyth gwaith eich hun heb fawr ddim goruchwyliaeth ac yn unol â chanllawiau y cytunwyd arnynt.
Cyfrannu at drafodaethau mewn cyfarfodydd staff adrannol ynghylch newidiadau arfaethedig.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 17/09/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu brofiad amlwg cyfatebol o wybodaeth a sgiliau gweinyddol/swyddfa
- Profiad o amrediad llawn o ddyletswyddau sy'n ymwneud â gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Gwybodaeth am derminoleg arbenigol y GIG/Sefydliadol
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ysgrifenyddol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Yn gyfarwydd â phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a PowerPoint, ac yn gymwys i'w defnyddio
- Profiad o sefydlu taenlenni a chronfeydd data
- Yn gyfarwydd â defnyddio system e-bost a chwilio'r Rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
Sgiliau laith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma Thomas
- Teitl y swydd
- Office Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03003039674
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector