Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Band 9
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-PST100-0326
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w gadarnhau
Tref
I'w gadarnhau
Cyflog
£110,818 - £127,523 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/04/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cyfarwyddwr Clinigol Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau

Band 9

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn barod i bartneru ag arweinydd blaengar sy’n barod i ymgymryd â rôl ganolog wrth drawsnewid darpariaeth gofal fferyllol ledled ein Bwrdd Iechyd. Mae'r swydd hon yn gyfle gwerthfawr i weithiwr proffesiynol creadigol a dynamig sydd â hanes cryf o arloesi a chyflenwi gwasanaethau clinigol.
 
A chithau’n arweinydd strategol, clinigol a phroffesiynol ar gyfer fferylliaeth, byddwch yn llywio’r broses o ddatblygu gwasanaethau o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y claf ar draws lleoliadau ysbyty a gofal sylfaenol. Gan weithio’n aelod allweddol o Fwrdd Iechyd integredig, byddwch yn cydweithio'n agos ag uwch-arweinwyr i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer fferylliaeth—gan ddarparu modelau gofal arloesol sy'n gyson â'n Strategaeth Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol.

Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio gweithlu hyderus, hyblyg a pharod i'r dyfodol, yn meithrin dulliau gweithio di-dor ar draws rhyngwynebau gofal, ac yn hyrwyddo partneriaethau cryf â thimau amlddisgyblaethol.
 
Os ydych wedi ymrwymo i wella canlyniadau cleifion ac arwain newid arloesol, system gyfan, rydym yn eich annog i wneud cais.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dechrau cyfnod o drawsnewid sylweddol wrth i ni ddatblygu a gweithredu ein Strategaeth Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol, gan ailwampio’r ffordd yr ydym yn darparu gofal i'n cymunedau. Mae proffesiwn fferylliaeth yn parhau i dyfu, gyda datblygiadau a chyfleoedd newydd yn dod i'r amlwg – a chefnogaeth partneriaethau cryfach âphrifysgolion lleol i roi ymchwil ac arloesedd ar waith yn uniongyrchol.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cyngor proffesiynol, strategol a gweithredol ar reoli meddyginiaethau er mwyn sicrhau bod yr holl ofynion a safonau statudol yn cael eu cydnabod a'u hymgorffori yng nghynlluniau'r Bwrdd Iechyd. Gwneir hyn ochr yn ochr â darparu 
cyngor ar reoli risg clinigol ac ariannol, polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â rheoli meddyginiaethau.

O fewn y rôl hon, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli a threfnu gwasanaeth rheoli meddyginiaethau integredig i unedau gweithredol gan sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau, targedau ariannol a pherfformiad yn cael eu cyflawni a'u cynnal. Ar yr un pryd, bydd yn cynrychioli’r Bwrdd Iechyd o fewn strwythurau cynghori proffesiynol perthnasol Is-adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a grwpiau diddordeb arbenigol eraill yn ôl y gofyn, megis datblygiadau technoleg a rheoli gwybodaeth sy'n gysylltiedig â fferylliaeth a rheoli 
meddyginiaethau.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd

 Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro

Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Os yn lwyddianus ar  ôl cwblhau'r rhestr fer, gofynnir i chi gwblhau asesiadau seicometrig. Anfonir gwybodaeth am y rhain a'r paneli rhanddeiliaid/cyfweliad atoch ar ôl cwblhau'r rhestr fer.

Cynhelir paneli rhanddeiliaid ar 30/04/2026.

Cynhelir y cyfweliadau ar 01/05/2026.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Meistr mewn Fferylliaeth (neu radd gyfatebol)
  • Aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
  • Tystiolaeth o ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Cymhwyster Ol-raddedig mewn Fferylliaeth Glinigol neu Dechnegol – neu brofiad cyfatebol amlwg
  • Cymhwyster rheoli ol-raddedig sy'n berthnasol i'r GIG – neu brofiad cyfatebol amlwg

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth ar lefel uwch reoli o fewn gwasanaethau fferylliaeth y GIG (ysbyty, gofal sylfaenol neu gymunedol).
  • Gwybodaeth arbenigol a phrofiad o weithredu strategaethau a chynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau a chyfarwyddebau polisi
  • Tystiolaeth o arwain a rheoli newid sefydliadol cymhleth yn effeithiol
  • Profiad profedig o allu rheoli prosiectau a rhaglenni
  • Hanes profedig o ymdrin a sefyllfaoedd hynod gymhleth a chyflawni amcanion corfforaethol heriol.
  • Tystiolaeth o weithio o fewn sefydliad hynod gymhleth a sensitif yn wleidyddol
  • Tystiolaeth o ddylanwadu'n llwyddiannus ar uwch reolwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
  • Profiad uwch o reoli adnoddau dynol ac ariannol
  • Profiad o weithio gyda chlinigwyr i gyflwyno rhaglenni lleihau costau heriol tra'n cynnal ansawdd gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Profiad o rol addysgu/tiwtor
  • Tystiolaeth o ymchwil

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mark Henwood
Teitl y swydd
Executive Medical Director
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg