Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwella Ansawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR168-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w gadarnhau
- Tref
- I'w gadarnhau
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn (pro rata)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/06/2025
Teitl cyflogwr

Ymarferydd ar gyfer Gwella Ansawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau
Band 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflawni prosiectau Gwella Ansawdd a Thrawsnewid Gwasanaeth gyda'r nod o hyrwyddo a gwella gofal o ansawdd uchel, gan ymgorffori diwylliant o welliant parhaus, perfformiad gwell a sefydlogrwydd ariannol, ac ar draws y sefydliad.
Bydd y prosiectau'n cyd-fynd ag Amcanion Ansawdd a Strategol y Bwrdd Iechyd.
Byddwch yn cefnogi'r Tîm Gwella Ansawdd a Thrawsnewid Gwasanaeth ar ddatblygu prosiectau penodol o'r dyluniad i'r cyflawni ar ran Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio a Gwella Ansawdd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol â thimau gweithredol a chlinigol a hyrwyddo Gwella yn BICHD.
Cefnogi a chymell aelodau staff sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau gwella.
Dangos dealltwriaeth o offer a chysyniadau newid.
Cymryd cyfrifoldeb am weithredu prosiectau penodol gan y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio a Gwella Ansawdd.
Arwain staff sy'n ymwneud â'r prosiect gan sicrhau bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal, cofnodion yn cael eu cadw, adroddiadau priodol yn cael eu cyflwyno a chamau y cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith.
Cofnodi cynnydd prosiectau'n ffurfiol, gan ddefnyddio taenlenni a chronfeydd data, cofnodion cyfarfodydd a gynhaliwyd, penderfyniadau a dogfennaeth waith.
Dangos ymrwymiad gweladwy i wella gwasanaethau i gleifion, wedi'i yrru o safbwynt sy'n canolbwyntio ar y claf.
Cynrychioli'r Bwrdd Iechyd yn broffesiynol yn fewnol ac yn allanol a bod yn hyrwyddwr prosiectau penodol a gwelliant parhaus.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 24/06/2025.
Manyleb y person
Qualifications and Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Related MSc degree or equivalent specialist experience
- Professional registration
- Evidence of continuing professional development to Master’s Level
- Silver IQT/CIP or equivalent improvement methodology qualification
- Gwybodaeth am berfformiad a thargedau a mentrau gwella gwasanaethau cyfredol y GIG
- Gwybodaeth am ddadansoddi data
- Dealltwriaeth o'r model ar gyfer gwella, ailgynllunio prosesau a rheoli newid
- Gwybodaeth ymarferol am becynnau Microsoft Office, h.y. Outlook, Word, Excel, PowerPoint
Meini prawf dymunol
- Knowledge of project management methodologies
- Advanced data analysis
- Training qualification
- Gwybodaeth ymarferol am brosiectau gwella uwch megis ymarferydd gwelliant parhaus
Experience
Meini prawf hanfodol
- Experience of working in a multidisciplinary team.
- Previous management experience
- Experience of managing change
- Experience of successfully leading an effective team
- Experience of teaching / training / coaching / facilitation
- Profiad o sicrhau cyfranogiad cleifion/cwsmeriaid mewn mentrau gwella
Meini prawf dymunol
- Previous experience of working in a project environment
- Profiad o arwain a rheoli mentrau/prosiectau gwella a chyflawni buddion a nodir
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sian Hopkins
- Teitl y swydd
- Head of Quality Improvement & practice development
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07854154777
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Mandy Davies
Marilize Preez
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector