Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gofal Hir-dymor
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR236-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w Gadarnhau
- Tref
- I'w Gadarnhau
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 27/08/2025
Teitl cyflogwr

Nyrs Arbenigol Gofal Hirdymor
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn Nyrs Gofrestredig a chanddi gefndir naill ai yn y maes Acíwt a Chymunedol neu ym maes Iechyd Meddwl, a bydd yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau asesu ymhellach trwy weithio mewn rôl ymreolaethol yng Ngwasanaeth Gofal Hirdymor y GIG. Mae'r rôl hon yn amlygu pwysigrwydd gwaith amlddisgyblaethol, ac yn sicrhau bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth eglur o'r polisïau a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd Parhaus y GIG a Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG, ynghyd â'r goblygiadau ariannol cysylltiedig a hefyd Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
A ninnau wedi dechrau ar gyfnod cyffrous o newid, rydym am recriwtio Nyrs Arbenigol Gofal Hirdymor uchel ei chymhelliant, sy'n canolbwyntio ar gleifion, ar gyfer ein Tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi nid yn unig y cleifion yn y sector cartrefi gofal ond hefyd y staff, a hynny'n rhan o Wasanaeth Cymorth ar gyfer Cartrefi Nyrsio. Mae ein nyrsys hefyd bellach yn darparu cefnogaeth trwy Lwybr Gofal Hirdymor a ddatblygwyd yn ddiweddar, sy'n cynnwys cefnogi gofal eilaidd gyda phrosesau Gofal Iechyd Parhaus y GIG a Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG. Bwriad y llwybr newydd hwn yw sicrhau cyfnod pontio hwylus, sy'n canolbwyntio ar y claf, rhwng digwyddiad acíwt,trwy'r broses o gynllunio ar gyfer rhyddhau, ac yna lleoli mewn Cartref Nyrsio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr unigolyn yr ydym yn chwilio amdano yn Nyrs brofiadol frwdfrydig, sy'n meddu ar sgiliau asesu a chyfathrebu rhagorol ac yn mwynhau her. Mae gennym dîm o Nyrsys Arbenigol Gofal Hirdymor sy'n gweithio'n agos gyda nifer o weithwyr proffesiynol eraill. Ar ben hynny, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adolygu ac yn asesu cleifion ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG, yn ogystal â rheoli cyfarfodydd y tîm amlddisgyblaethol mewn perthynas â chyllid a chynllunio rhyddhau, ac ati.
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus amlygu sgiliau cyfathrebu rhagorol a meddu ar y gallu i weithio'n rhan o dîm ac yn annibynnol, fel ei gilydd. Yn ogystal ag asesu ac adolygu unigolion i sicrhau bod eu hanghenion gofal dynodedig yn cael eu diwallu a bod y cyllid yn briodol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn monitro'r safonau gofal mewn Cartrefi Nyrsio.
Gall lleoliad y gwaith fod yn naill ai Caerfyrddin, Llanelli neu Ddoc Penfro, ond gall hynny newid. Fodd bynnag, bydd angen i chi allu teithio ledled holl ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn ogystal ag i siroedd cyfagos.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 27/08/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig lefel gyntaf
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus i lefel diploma ol-raddedig neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Ymrwymiad i ddysgu gydol oes
- Cymhwyster o ran gofal oedolion hyn
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ym maes Gofal Iechyd sylfaenol, eilaidd a/neu annibynnol
- Gwybodaeth a phrofiad o ofalu am bobl sydd ag anghenion gofal parhaus
- Profiad o asesu a gofalu am oedolion hyn
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithdrefnau a pholisiau amlasiantaethol
- Profiad blaenorol o asesiadau nyrsio cymhleth
- Profiad o weithio rhyngasiantaethol
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Danielle Charles
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07866058147
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Jayne Harris - [email protected]
Matthew Braddock - [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector