Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Offthalmolegydd
- Gradd
- Ymgynghorydd
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ABH-OPHTH-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Abergele
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £110,240 - £160,951 pro rata y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/11/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Offthalmolegydd Ymgynghorol
Ymgynghorydd
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Offthalmolegydd Ymgynghorol sydd â diddordeb arbennig mewn Llawfeddygaeth Fitreo-retinol
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli clinigau Fitreo-Retina, Retina Meddygol ac Offthalmoleg Gyffredinol. Bydd yn gyfrifol am bob agwedd ar ofal llawdriniaethol ei gleifion. Yn ogystal ag arbenigedd ym maes fitreo-retina, disgwylir i ddeiliad y swydd fod â phrofiad helaeth o lawdriniaethau cataract cymhleth, triniaethau offthalmig brys cyffredinol, laserau a thrawma i belen y llygad, gan gynnwys anaf treiddiol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn darparu gwasanaeth clinigol, gyda chydweithwyr, a fydd yn cynnwys cyfrifoldeb dros atal, diagnosio a thrin salwch. Gan weithio gyda chydweithwyr sy’n feddygon ymgynghorol a'r tîm amlbroffesiwn, bydd gan ddeilydd y swydd gyfrifoldeb parhaus dros les yr holl gleifion sydd dan ei ofal; gan ei gwneud yn bosibl i ddirprwyo i staff a’u hyfforddi’n briodol.
Mewn partneriaeth â chydweithwyr clinigol a rheoli, bydd deilydd y swydd hefyd yn gyfrifol am weithredu’r gwasanaethau’n ddiogel, yn effeithlon ac yn effeithiol, gan weithio yn unol â gwerthoedd y Bwrdd Iechyd.
Dylai deilydd y swydd gymryd rhan ym mhob agwedd ar waith yr adran gan gynnwys addysgu, archwilio, gofal a gynlluniwyd, a gofal ar gyfer trawma.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae ganddo gyllideb gwerth mwy nag £2.4 biliwn ac mae'n cyflogi mwy na 20,000 aelod o staff yn ei weithlu. Mae'r Bwrdd Iechyd darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai aciwt ar gyfer poblogaeth Gogledd Cymru.
Mae BIPBC yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl a gwasanaethau ysbytai acíwt ac arbenigol mewn 3 ysbyty acíwt, 22 ysbyty cymunedol a rhwydwaith o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd yn y gymuned ac unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydlynu neu’n darparu gwaith practisau meddygon teulu a gwasanaethau’r GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar draws y rhanbarth.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn system iechyd integredig sy'n ymdrechu i ddarparu gofal tosturiol rhagorol gan gydweithio â'r sector cyhoeddus a sefydliadau statudol eraill, a sefydliadau yn y trydydd sector.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth.
Os ydych yn barod i gael effaith sylweddol ar ddyfodol gofal iechyd yng Ngogledd Cymru a'ch bod yn meddu ar y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon, rydym yn eich gwahodd i wneud cais.
Anogir sgyrsiau anffurfiol cyn gwneud cais.
Manyleb y person
Qualifications and Experience
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Arbenigol â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol mewn Offthalmoleg neu o fewn chwe mis i gael Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) o ddyddiad y cyfweliad
- Profiad ym maes fitreo-retinol hyd at safon cymrodoriaeth orffenedig
- Profiad cyffredinol eang ym maes Offthalmoleg gan gynnwys cataractau cymhleth, llawdriniaethau a thriniaethau brys.
- Dealltwriaeth o arferion rheoli'r GIG a'u cymhwyso, a thystiolaeth o hynny.
- FRCOphth
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant Cymrodoriaeth mewn llawfeddygaeth fitreo-retinol
- •Cymhwyster arbenigol ychwanegol neu gymhwyster gyda sgiliau a phrofiad perthnasol yn yr arbenigedd perthnasol
- Cymwysterau / cyrsiau rheoli
- Profiad o weinyddiaeth adrannol
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o'r materion Strategol a Gweithredol sy'n sail i Lywodraethu Clinigol a'u defnyddio mewn ymarfer bob dydd, a thystiolaeth o hynny.
Sgiliau a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Gallu rhoi gwybodaeth ar waith
- Gallu ysgrifennu nodiadau clinigol perthnasol, darllenadwy.
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol a diogel ar lafar
- Parodrwydd i gynnwys cleifion yn y broses o’u rheoli
- Gallu delio’n ddoeth ac yn sensitif â chyfweliadau anodd gyda chleifion neu berthnasau
- Sgiliau TG sylfaenol
- Tystiolaeth o’r gallu i weithio mewn sefyllfaoedd llawn straen a/neu dan bwysau
- Gallu gweithio'n hyblyg i fodloni anghenion y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau TG uwch
- Gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon
- Cyrsiau / sgiliau arfarnu beirniadol
Archwilio
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o gymryd rhan mewn prosiectau archwilio
- Tystiolaeth o gwblhau prosiectau archwilio
Gofynion Ychwanegol
Meini prawf hanfodol
- Aelod da o dîm sy’n gwerthfawrogi cyfraniadau unigolion at y tîm amlddisgyblaethol
- Dibynadwy, yn gallu cymell ei hun ac yn brydlon.
- Bod yn fodlon gweithio y tu allan i oriau ar fyr rybudd pan fydd angen.
- • Tystiolaeth o ymrwymiad i Ddysgu Gydol Oes a Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Meini prawf dymunol
- Gallu teithio i fodloni anghenion y gwasanaeth.
- Parodrwydd i ymgymryd â chyfrifoldebau proffesiynol ar lefel leol / ranbarthol / genedlaethol
- Siarad Cymraeg neu'n barod i ddysgu
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mr Eoin Guerin
- Teitl y swydd
- Consultant Ophthalmologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 855820
Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â
- Cyfeiriad
-
Abergele Hospital
Ambrose Onibere [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000855063
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector







.png)
