Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Oncolegydd clinigol
Gradd
Meddygol a Deintyddol GIG: Ymgynghorydd
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-YGC-CANC-1223-X
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£91,722 - £119,079 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
10/06/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ymgynghorydd mewn Oncoleg Glinigol yn y Fron/Gynae

Meddygol a Deintyddol GIG: Ymgynghorydd

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn dymuno penodi cydweithwyr newydd i ymuno â'n tîm parhaol o feddygon ymgynghorol sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru. Rydym yn dymuno penodi nifer o Oncolegwyr Clinigol Ymgynghorol mewn ystod o is-arbenigeddau i atgyfnerthu ein gweithlu er mwyn darparu’r gofal gorau i bobl Gogledd Cymru.
Mae'r Uwch Adran Canser mewn cyfnod o newid, ac mae'n awyddus i groesawu modelau newydd o weithio ac arloesi. Yn ddiweddar, ac yn dilyn ceisiadau achos busnes llwyddiannus, rydym wedi croesawu Meddygon Cyswllt a nifer o Uwch Ymarferwyr Nyrsio. Rydym hefyd wedi recriwtio ein Radiograffydd Ymgynghorol cyntaf ac rydym yn edrych ar amryw o dechnolegau i gefnogi'r gwasanaeth.
Mae Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru mewn lleoliad delfrydol yng nghanol y rhanbarth ac mae'n gofalu am nifer fawr o gleifion bob dydd. Mae pob un o’r tair canolfan trin canser yng Ngogledd Cymru wedi’u hariannu gan roddion cyhoeddus ac rydym yn ffodus bod gennym ni gymunedau mor angerddol a chefnogol. 
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli'n Ysbyty Glan Clwyd. Mae elfen ar alwad i'r rôl, a bydd gofyn i chi gymryd rhan ar sail 1 mewn 8.
Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan gydweithwyr sy’n arbenigo mewn tiwmorau mewn mannau eraill a byddwn yn gweithio i greu cynllun swydd sy'n fanteisiol i’r unigolyn a’r adran. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei benodi o dan gontract diwygiedig Meddygon Ymgynghorol Cymru, sy’n cynnig tri SPA safonol i feddygon ymgynghorol sydd newydd gymhwyso.

Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb bersonol ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch 'gwneudd cais nawr' i'w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Cymwysterau / Sgiliau Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • MB ChB neu gymhwyster cyfatebol
  • Cymhwyster FRCR neu gymhwyster cyfatebol
  • Cynnwys ar Gofrestr Arbenigol neu, os yw'n hyfforddi, yn gymwys i'w gynnwys ar y gofrestr ymhen 6 mis
Meini prawf dymunol
  • Gradd Uwch

Gwybodaeth / Galluoedd / a/neu Brofiad Arbennig

Meini prawf hanfodol
  • Profiad priodol mewn swyddi gradd hyfforddiant ar lefel SpR/SR
  • Hyfforddiant cyfatebol a dderbynnir gan y Coleg Brenhinol / Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer Cofrestrydd Arbenigol

Sgiliau Personol / Rhinweddau

Meini prawf hanfodol
  • Yn dangos sgiliau rhyngbersonol da gyda chleifion, perthnasau ac aelodau o'r tîm clinigol
  • Y gallu i gael cyfrinachedd ac ymddiriedaeth
  • Y gallu i ymdopi â phwysau
  • Y gallu i ymateb i newid.
  • Cwrtais
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau arweinyddiaeth sy'n briodol i'r canlynol: Cyfarwyddo ac addysgu proffesiynau meddygol, nyrsio a phroffesiynau eraill sy'n gysylltiedig â meddygaeth
  • Cymryd rhan mewn timau amlddisgyblaethol a'u harwain

Ymchwil

Meini prawf hanfodol
  • Ymchwil a gyhoeddwyd
  • Mae wrthi'n annog ymchwil gyda staff iau a staff eraill
Meini prawf dymunol
  • Gradd ymchwil

Gofynion Ychwanegol

Meini prawf hanfodol
  • Ymrwymiad i ddatblygiad personol parhaus ac addysg feddygol
  • Datgeliad Manwl y Swyddfa Cofnodion Troseddol
  • Ability to educate and train junior medical staff
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau TG da
  • Perchennog / gyrrwr car ar gyfer clinigau ymylol
  • Profiad mewn addysgu, archwilio clinigol
  • Sgiliau cyfrifiadurol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Claire Fuller
Teitl y swydd
Oncology Clinical Leads/Arweinwyr Oncoleg Glinigol
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg