Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Orthodontig
Gradd
Ymgynghorydd
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos (Sesiynau hyd at 12 pwnc i drafodaeth a chytundeb gyda'r ymgeisydd penodedig.)
Cyfeirnod y swydd
050-BCU-Dental-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£106,000 - £154,760 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/06/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
08/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Orthodontydd Ymgynghorol

Ymgynghorydd

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Yn dilyn rowndiau recriwtio llwyddiannus diweddar, rydym yn falch o wahodd ceisiadau am Ymgynghorydd mewn Orthodonteg ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn gweithio ledled Gogledd Cymru. Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn a fyddai â diddordeb mewn sesiynau clinigol o fewn ymarfer arbenigol, pe bai ymgeiswyr yn dymuno ymgymryd â gwaith mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae'r swydd barhaol hon ar gyfer hyd at 12 sesiwn er y bydd ceisiadau am swydd ran-amser neu rannu swydd yn cael eu hystyried.

Mae'r swydd yn elwa o'r raddfa gyflog ymgynghorydd Cymreig a gytunwyd yn ddiweddar (£106,000 - £154,760). Yn ogystal, byddai'r Bwrdd Iechyd yn fodlon negodi ar y cyflog cychwynnol. Mae'r swydd yn ddarostyngedig i gontract yr Ymgynghorydd Cymreig, sydd â manteision sylweddol o'i gymharu â'r Contract Seisnig. Mae hyn yn cynnwys nifer fwy o sesiynau gweithgaredd proffesiynol cefnogol (SPA) o fewn y cynllun swydd a datblygiad cyflog cyflymach. Mae pecynnau adleoli hael hefyd ar gael.

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr BIPBC, “Mae’r Bwrdd Iechyd yn canolbwyntio ar optimeiddio gwasanaethau deintyddol ledled Gogledd Cymru. Mae darpariaeth orthodontig yn agwedd allweddol ar y dull gofal cyfannol hwn. Mae’r Bwrdd a minnau’n cefnogi datblygiad gwasanaethau orthodontig gofal eilaidd yn y dyfodol yn llawn ac yn edrych ymlaen at groesawu aelodau newydd o’r tîm i fanteisio ar y cyfle cyffrous hwn”.

 

Cyfweliad AAC 8fed Awst 2025.

Cyfweliad Panel Buddiannau wythnos o'r 4ydd o Awst.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn gyfrifol am gynnal dyletswyddau dysgu, arholi ac achrediad fel bo'r gofyn a chyfrannu at weithgaredd ôl-radd a pharhau gyda gweithgaredd addysg feddygol a deintyddol a gweithgareddau archwilio, yn lleol ac yn genedlaethol.

Cyfrannu at y rhaglen lawfeddygol Orthognathig, mewn cydweithrediad â chydweithwyr macsilo-wynebol.

Cyfrannu at reoli achosion amlddisgyblaethol gyda chydweithwyr adferol a llawfeddygol

Cefnogi gwasanaeth Gwefus a Thaflod Hollt Rhanbarthol Gogledd Orllewin Lloegr, sy’n darparu goruchwyliaeth orthodontig a thrin achosion o holltau yn nalgylch yr uned, pan fo angen, fel rhan o ddull gofal ar y cyd

Darparu cyfarwyddyd clinigol, yn ôl yr angen, i aelodau iau'r tîm clinigol a'r Therapyddion Orthodontig

Darparu hyfforddiant parhaus, fel bod angen, i ymarferwyr deintyddol cyffredinol gofal sylfaenol. 

Bydd gennych gyfrifoldeb parhaus ar gyfer gofal cleifion sydd dan eich gofal ar y cyd â chydweithwyr ymgynghorol ac ar gyfer gweithredu priodol yr adran yn unol â Pholisi Gweithredol a Chynllun Strategol (fel y diwygir o dro i dro).

Bydd angen i chi gymryd rhan mewn addysg feddygol/ddeintyddol barhaus mewn ffyrdd sy'n dderbyniol i'r Prif Weithredwr a chynnal gofynion DPP blynyddol penodedig.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb bersonol ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ‘Gwneudd Cais Nawr’ i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn â'r CGD
  • Aelodaeth Arbenigol mewn Orthodonteg neu gyfwerth
  • Bod ar Restr Arbenigwyr y CGD mewn Orthodonteg
Meini prawf dymunol
  • Arholiad Ymadael Cymrodoriaeth Arbenigedd Rhyng-golegol mewn Orthodonteg, neu gyfwerth cyn dechrau'r swydd
  • Meddu ar Dystysgrif Achrediad neu'n gymwys i gael CSST mewn Orthodonteg
  • Cymrodoriaeth mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol neu Aelodaeth o'r Gyfadran Llawfeddygaeth Ddeintyddol neu gyfwerth
  • MSc neu gymhwyster cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Cwblhau'n llwyddiannus o leiaf dwy flynedd o hyfforddiant a gymeradwywyd gan ACA mewn apwyntiad hyfforddiant tymor penodol (Ôl-CCST / FTTA) mewn Orthodonteg neu cyn pen chwe mis ar ôl cwblhau'r hyfforddiant sy'n dilyn wedi'r cyfnod hyfforddi 3 blynedd cyn CCST neu gyfwerth
  • Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus trwy ddysgu gydol oes.
Meini prawf dymunol
  • Cwblhau'n llwyddiannus raglen hyfforddi tair blynedd o leiaf mewn Orthodonteg a gymeradwywyd gan ACA
  • Profiad o reoli anomaleddau creuan-wynebol, yn cynnwys CLP
  • Arddangos llyfr log DPP.

Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Ymrwymiad i ddull gwaith tîm a gweithio rhyngddisgyblaethol
  • Sgiliau cwnsela a chyfathrebu
  • Yn gyfredol ag arferion cyfoes mewn Llawfeddygaeth Orthodonteg
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau cyfrifiadurol

Archwilio

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o gymryd rhan mewn archwiliad clinigol a deall rôl archwiliad wrth wella arfer meddygol. Dealltwriaeth o reolaeth risg clinigol a llywodraethu clinigol
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau gwerthuso beirniadol

Ymchwil

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i werthuso llenyddiaeth wyddonol yn feirniadol
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o ddechrau prosiectau ymchwil, eu datblygu a'u cwblhau drwy eu cyhoeddi
  • Diddordeb rhagweithiol mewn ymchwil

Rheoli

Meini prawf hanfodol
  • Ymrwymiad i gyfranogi yn y broses rheoli a dealltwriaeth o hynny
  • Rheoli gwasanaeth clinigol
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o hyfforddiant ym maes rheolaeth
  • Cyfranogi yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau

Addysgu

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o addysgu myfyrwyr meddygol/deintyddol a meddygon/deintyddion ieuaf
Meini prawf dymunol
  • Trefnu rhaglenni addysgu (israddedigion a/neu ôl-raddedigion)
  • Tystiolaeth o gyfranogi mewn hyfforddiant sgiliau Addysg
  • Hyfforddiant ym maes addysgu

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • agwedd hyblyg
  • Sgiliau cyfathrebu da.
Meini prawf dymunol
  • Cyfranogi mewn cwrs sgiliau Gwerthuso
  • Sgiliau arwain

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mr Benjamin Lewis
Teitl y swydd
Clinical Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Abergele Hospital
Ambrose Onibere [email protected]
Rhif ffôn
03000855063
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg