Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Consultant
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-WXM-RADIR-0424
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Wrecsam Maelor
Tref
Wrecsam
Cyflog
£91,722 - £119,079 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
28/06/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Radiolegydd Ymgynghorol

Consultant

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Radiolegydd Ymgynghorol â diddordeb arbennig mewn radioleg ymyriadol ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gogledd Cymru.

Rydym yn hapus iawn i drafod ceisiadau i gynnwys unrhyw ddiddordebau arbenigol eraill. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ond bydd yn rhan o dîm amlddisgyblaethol brwdfrydig sy'n cefnogi gwasanaethau radioleg ymyriadol presennol ar gyfer rhanbarth y Gogledd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm cyfeillgar a brwdfrydig o 11 o radiolegwyr ymgynghorol eraill yn yr ysbyty hwn a bydd hefyd yn cyfrannu'n benodol at ddarparu gwasanaethau ymyriadol arbenigol, gan gynnwys datblygu gwasanaethau oncoleg ymyriadol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cyfrannu at waith yn yr ystafell hybrid fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Caiff trefniadau gweithio hyblyg eu hystyried ac rydym yn fwy na pharod i drafod eich gofynion a sut y gellid eu bodloni. Mae cyfle i gynyddu sesiynau drwy gytundeb yn bosibl.

Mae gennym gysylltiadau cryf â Phrifysgol Cymru, Bangor a byddai cyfle i ymgeiswyr ddatblygu cysylltiadau ymchwil a/neu addysgu â'r Brifysgol

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cynllun swydd 10 sesiwn (gan gynnwys 0.7 sesiwn ar alwad)

Efallai y bydd cyfleoedd i gynyddu sesiynau

SPA – mae dwy sesiwn ar gael, gellir cyflawni un ohonynt oddi ar y safle ond rhaid i'r Cyfarwyddwr Clinigol gytuno ar y gweithgareddau. Gellir trafod 3ydd SPA wrth adolygu'r cynllun swydd os yw ymrwymiadau'r radiolegydd ymgynghorol yn awgrymu bod angen hynny.

Ar alwad – 1 o bob 10 ar hyn o bryd, neu'n llai aml, gyda threfniadau cyflenwi arfaethedig.

Mae gwasanaeth tele-radioleg ar alwad ar gael drwy weithfannau cartref

Bydd yr ail ar alwad tan 9pm yn unig. Ar ôl hynny, mae gwasanaeth adrodd ar gontract allanol ar gael. Caiff y gwasanaeth ei roi ar gontract allanol ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Cofrestryddion Radioleg Arbenigol sydd ar alwad gyntaf rhwng 5pm a 9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener fel arfer.

Bydd gan bob radiolegydd gyfrifoldebau ym maes addysgu, sicrhau ansawdd, a rheoli gwasanaethau o fewn eu meysydd arbenigol.

Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at lwyth gwaith ehangach yr adran hefyd yn dibynnu ar drafodaethau ynghylch y cynllun gwaith, gan gynnwys radioleg gyffredinol, rotâu ar alwad ac addysgu radiolegwyr dan hyfforddiant, israddedigion ac aelodau eraill o staff yr ysbyty. Bydd angen cyfrannu at rota ar alwad sy'n cael budd o wasanaethau cwmni ar gontract allanol dros nos a gwasanaeth tele-radioleg gartref. Mae'r syniad o gyflwyno gwasanaeth ar alwad ar gyfer radioleg ymyriadol yng Ngogledd Cymru yn cael ei ystyried hefyd.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu amrywiaeth lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbyty acíwt i boblogaeth o tua 676,000 o bobl ledled chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). Caiff rhai ardaloedd yng Nghanolbarth Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig eu cwmpasu gan y Bwrdd Iechyd hefyd.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 16,500 o staff ac mae ganddo gyllideb o tua £1.4 biliwn. Mae'n gyfrifol am redeg tri ysbyty cyffredinol dosbarth (Ysbyty Maelor Wrecsam yn Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ger y Rhyl ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor), yn ogystal â 22 o ysbytai acíwt a chymunedol eraill a rhwydwaith o fwy na 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cydlynu gwaith 121 o bractisau meddygon teulu a gwasanaethau'r GIG a ddarperir yn y gogledd gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllfeydd.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ardal fwyaf gogleddol Cymru, ger Parc Cenedlaethol prydferth Eryri ac mae'n ymestyn dros ardal ddaearyddol enfawr ac amrywiol. Mae'r morlin yng Ngogledd Cymru ymhlith y rhai mwyaf amrywiol ac ysblennydd yn y DU, gan gynnig cyfleoedd heb eu hail i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth

Manyleb y person

Cwmwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn gyda GMC
  • Ar Gofrestr Arbenigol ar gyfer Cofrestrydd Arbenigol neu Arbenigedd gyda CCT neu'n gallu cyflawni hynny o fewn 6 mis i ddyddiad y cyfweliad.
  • FRCR neu gyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Hyfforddiant a profiad mewn Radioleg Ymyriadol
  • I fod o fewn 6 mis I gwblhau cwricwlwm IR RCR neu gyfwerth
  • Profiad o ddelweddu trawsdoriadol
Meini prawf dymunol
  • Blwyddyn 6 mewn hyfforddiant radioleg ymyriado
  • Profiad eang mewn radioleg gyffredinol

Llywodraethu Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o'r materion Strategol a Gweithredol sy'n tanategu Llywodraethu Clinigol a'u cynnwys mewn arfer dyddiol a thystiolaeth o'r fath

Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Ymrwymiad at ymagwedd tîm a gwaith amlddisgyblaethol
  • Sgiliau cwnsela a chyfathrebu
  • Sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Cyfrifiadurol

Rheolaeth

Meini prawf hanfodol
  • Ymrwymiad i gymryd rhan yn y broses rheoli a'i deall
  • Dealltwriaeth o brosesau rheoli'r GIG
  • Parodrwydd i fynychu cyfarfodydd rheoli'r adran a chymryd rhan weithredol ynddynt
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o hyfforddiant rheoli

Archwilio

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o gymryd rhan mewn archwiliad clinigol a deall rôl archwiliad wrth wella arfer meddygol. Dealltwriaeth o reolaeth risg clinigol a llywodraethu clinigol.
  • Tystiolaeth o gwblhau prosiectau archwilio

Ymchwil

Meini prawf hanfodol
  • Gallu i gael mynediad at dystiolaeth sydd wedi'i gyhoeddi
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o gymryd rhan
  • Cyhoeddiadau sy'n seiliedig ar ymchwil

Addysgu

Meini prawf hanfodol
  • Diddordeb parhaus mewn addysgu ôl-raddedig ac israddedig
Meini prawf dymunol
  • Trefnu rhaglenni addysgu (israddedigion a/neu ôl-raddedigion)

Hyfforddiant

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o ymrwymiad i ddysgu gydol oes a CPD

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o allu gweithio mewn tîm ac yn annibynnol
  • Yn ddibynadwy, brwdfrydig a prydlon
  • Agwedd hyblyg
  • Aelod o dîm sy'n gwerthfawrogi'r cyfraniadau unigol o dîm amlddisgyblaethol
  • Gallu gweithio ar-alwad
Meini prawf dymunol
  • Parodrwydd i ymgymryd â chyfrifoldebau proffesiynol ar lefel lleol / rhanbarthol/ cenedlaethol
  • Yn gallu gyrru

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kakali Mitra
Teitl y swydd
Interventional Radiologist / Clinical Director
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01248 384690
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Dr Owen Rees

Consultant Interventional Radiologist , Ysbyty Glan Clwyd Hospital

Email: [email protected]

Telephone: 01978 725495

 

Dr Hugh Godfrey

Consultant Interventional Radiologist , Ysbyty Gwynedd Hospital

Email: [email protected]  

Telephone: 01248 384118

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg