Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwirfoddolwyr
Gradd
Gwirfoddol
Contract
Gwirfoddol
Oriau
Arall - Gwirfoddol
Cyfeirnod y swydd
CWR Cwm Taf August 2024
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Cwm Taf Morgannwg
Tref
Penybont/Merthyr/Rhondda Cynon Taf
Yn cau
30/06/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru logo

Ymatebwyr Lles Cymunedol - Gwirfoddol

Gwirfoddol

Mae ein hardal yn ymestyn dros 20,640 o gilometrau ac rydym yn gwasanaethu poblogaeth o 2.9 miliwn. O fewn ein hardal amrywiol, mae ardaloedd gwledig anghysbell, trefi glan môr prysur a threfi mawr.

Ond, mae ein gwasanaethau amryfal a modern wedi’u teilwrio ar gyfer anghenion amgylcheddol a meddygol ein cymunedau amrywiol - o feiciau i gerbydau ymateb cyflym, ambiwlansys llinell flaen, hofrenyddion a nyrsys yn ein canolfannau rheoli.

Bob blwyddyn, rydym yn ymateb i fwy na 250,000 o alwadau brys a dros 50,000 o alwadau argyfwng ac yn cludo dros 1.3 miliwn o gleifion di-frys i dros 200 o ganolfannau triniaeth yng Nghymru a Lloegr.

Ein staff ymroddedig yw ein hased mwyaf. Rydym yn cyflogi 2,576 o bobl, 76% ohonyn nhw’n weithredol – 1,310 ar ddyletswyddau brys a 693 yn y gwasanaeth di-frys ac yn y gwasanaeth tywysyddion iechyd.

Rydym yn gweithredu o 90 gorsaf ambiwlans, pedair canolfan reoli, tair swyddfa ranbarthol a phum gweithdy cerbydau.

Hefyd, mae gennym ein Coleg Hyfforddi Cenedlaethol i sicrhau bod ein staff yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a’u bod yn datblygu’n broffesiynol yn rheolaidd.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Cyfle Gwirfoddoli o fewn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddod yn Ymatebwr Lles Cymunedol o fewn ardal Cwm Taf Morgannwg (Penybont/Merthyr/Rhondda Cynon Taf).

Ymatebwyr Lles Cymunedol

Mae gwirfoddolwyr Ymatebwyr Lles Cymunedol (CWR) wedi’u hyfforddi a’u cyfarparu i gefnogi darpariaeth gofal brys Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn eu cymuned. Mae Ymatebwyr Lles Cymunedol wedi’u galluogi i ddarparu arsylwadau clinigol a chymorth lles i gleifion/defnyddwyr gwasanaeth. Bydd Ymatebwyr Lles Cymunedol hefyd yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau achub bywyd sylfaenol a sut i ddefnyddio diffibriliwr allanol awtomatig (AED). Mae hyn yn hanfodol er mwyn cryfhau cyfraniad WAST at wytnwch cymunedol.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gwirfoddolwyr yw Ymatebwyr Lles Cymunedol yng Nghymru sy’n rhoi o’u hamser sbâr i fynychu galwadau brys priodol a darparu gwybodaeth glinigol gywir a chyfredol i glinigwyr o bell yn ein Canolfannau Rheoli Ambiwlans. Bydd y clinigwr o bell wedyn yn ategu ei asesiad clinigol gyda’r wybodaeth a ddarperir gan yr Ymatebwr Lles Cymunedol ac yn penderfynu ar y cynllun gofal mwyaf priodol ar gyfer y claf hwnnw.

Mae ein Hymatebwyr Lles Cymunedol yn cael eu hysbysu am alwad brys trwy ddyfais symudol llaw o un o'n tair Canolfan Reoli Ambiwlans Rhanbarthol. Bydd ein gwirfoddolwyr yn gyrru i gyfeiriad y digwyddiad, o dan amodau ffordd arferol, a byddant bob amser yn cadw at Reolau’r Ffordd Fawr. Ni fydd ein gwirfoddolwyr yn cael gyrru dan amodau brys na defnyddio goleuadau glas.

Mae rôl yr Ymatebwr Lles Cymunedol yn fenter o dan brosiect Connected Support Cymru, ac yn rhan annatod o’n huchelgais strategol hirdymor sef ‘Sicrhau Rhagoriaeth’. Mae’r Ymatebwyr Lles Cymunedol yn chwarae rhan allweddol i sicrhau bod cleifion yn cael y cyngor a’r gofal cywir, yn y lle iawn, bob tro.

Gweithio i'n sefydliad

Pwy all wneud cais?

Nid oes angen i chi gael unrhyw hyfforddiant meddygol blaenorol i ddod yn Ymatebwr Lles Cymunedol. Byddwn yn darparu hyfforddiant llawn ac yn annog unrhyw un sydd â'r amser a'r awydd i helpu a rhoi yn ôl i'w cymuned i wneud cais.

Rhaid bod gwirfoddolwyr:

  • Yn meddu ar drwydded yrru lawn y DU (uchafswm o dri phwynt cosb) a bod â mynediad at gar.
  • Yn 18 oed neu'n hŷn
  • Yn iach yn gorfforol
  • Yn gweithio yn dda o dan bwysau a pheidio â chynhyrfu mewn argyfwng
  • Yn falch o'u cymuned ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl
  • Gydag amser rhydd i sbario

Os yw hyn yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

 

Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghais yn llwyddiannus?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich gwahodd i ddigwyddiad bwrdd Ymatebwyr Lles Cymunedol ar y dyddiadau canlynol:

  • 11 Gorfennaf 2024 18:00 - 21:00

Yn ystod y digwyddiad recriwtio byddwn yn cynnal cyflwyniad byr ac yna trafodaeth anffurfiol i ddod i adnabod pob ymgeisydd a'u haddasrwydd i fod yn Ymatebwr Lles Cymunedol.

Bydd cwrs hyfforddi Ymatebwyr Lles Cymunedol yn cynnwys dau ddiwrnod llawn o hyfforddiant ar y dyddiadau isod:

3 & 4 Awst 2024

RHAID i bob gwirfoddolwr newydd allu mynychu'r digwyddiad recriwtio a'r ddau ddyddiad hyfforddi a restrir uchod - felly byddwn yn cymryd eich cais fel cadarnhad o'ch argaeledd.

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd pob gwirfoddolwr newydd yn cael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd  a gwiriad adnabod; bydd angen cliriad iechyd galwedigaethol a geirda dau gymeriad hefyd. Bydd pob dysgwr newydd yn cael mynediad i 14 modiwl e-ddysgu a deunydd cyn-ddysgu y mae'n rhaid eu cwblhau cyn dechrau'r cwrs.

Yn ystod y cwrs bydd rhwydwaith o staff cymorth WAST yn hyfforddi gwirfoddolwyr mewn sgiliau achub bywyd a sut i ddefnyddio'r offer sydd ar gael i'n Hymatebwyr Lles Cymunedol i gyflawni eu rôl. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich cefnogi gan Fentoriaid CWR, i'ch galluogi i integreiddio a dechrau defnyddio'ch sgiliau newydd trwy ymateb i alwadau yn eich cymuned.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae'n rhaid bodloni'r holl ofynion Rheoli Atal Heintiau, er mwyn sicrhau'r lefel uchaf o amddiffyniad y gellir ei chyflawni i'r holl wirfoddolwyr a staff o fewn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae hyn yn cynnwys eillio'n lân ar gyfer pob hyfforddiant ac wrth gyflawni dyletswyddau ar ran y gwasanaeth ambiwlans.

'Bydd gwallt wyneb sy'n gorwedd ar hyd ardal selio anadlydd, fel barfau, gwallt ar ochr y wyneb, neu fwstas yn ymyrryd ag anadlyddion sy'n dibynnu ar ffit wyneb tynn i sicrhau'r amddiffyniad mwyaf posibl. Rhaid i'r rhannau o'r croen, sy'n cysylltu â'r sêl wyneb neu wddf a sêl cwpan y trwyn, fod yn rhydd o unrhyw wallt'.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Swyddogion Cymorth rhanbarthol ar y manylion cyswllt isod.

[email protected]

Manyleb y person

A oes gennych chi gar y gellir ei ddefnyddio ar gyfer eich rôl wirfoddoli?

Meini prawf hanfodol
  • Car to carry out role

Pam ydych chi wedi dewis gwirfoddoli yn WAST?

Meini prawf hanfodol
  • Pam ydych chi wedi dewis gwirfoddoli yn WAST?

Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni fel gwirfoddolwr?

Meini prawf hanfodol
  • Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni fel gwirfoddolwr?

Yn eich barn chi, sut ydych chi'n diffinio gwirfoddoli a beth mae gwirfoddoli'n ei olygu i chi?

Meini prawf hanfodol
  • Yn eich barn chi, sut ydych chi'n diffinio gwirfoddoli a beth mae gwirfoddoli'n ei olygu i chi?

A ydych chi ar gael i wirfoddoli rhwng 10:00 a 22:00?

Meini prawf hanfodol
  • Project runs between these times

Nodwch pa rhai o’r dyddiadau cynefino y gallwch chi fynychu.

Meini prawf hanfodol
  • Able to attend on boarding

Nodwch pa rhai o’r dyddiadau hyfforddi rydych yn ei fynychu.

Meini prawf hanfodol
  • Able to attend training

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoNo smoking policyAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nik Dart
Teitl y swydd
Swyddog Cymorth - Gwirfoddoli / Support Officer - Volunteering
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
0300 131 1392
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Swyddogion Cymorth rhanbarthol ar y manylion cyswllt isod.

[email protected]

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg