Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaeth Deintyddol Cymyned
Gradd
Deintyddol Meddygol a Deintyddol y GIG: Deintydd Cyflogedig - A
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
050-BANDA-0425
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bethesda
Tref
Bethesda
Cyflog
£50,512 - £75,767 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/08/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Swyddog Deintyddol Band A (CDS/PDS)

Deintyddol Meddygol a Deintyddol y GIG: Deintydd Cyflogedig - A

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn edrych i recriwtio chwaraewyr tîm sydd yn frwdfrydig, hyblyg ag yn llawn cymhelliad gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog. I ddarparu triniaeth glinigol yn unol a Band A ac yn unol a polisi Llywodraeth Cymru.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu ystod o driniaeth deintyddol ar gyfer cleifion drwy'r wasanaeth deintyddol personol yn unol â pholisi Cyfarwyddiaeth/Y Bwrdd Iechyd.   

Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person i'w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Gogledd Cymru yn wasanaeth enfawr yn cyflogi dros 200 o staff ac wedi ymrwymo i addysg parhaol.

Mae Gwasanaeth Deintyddol Personol yn gangen o'r Wasanaeth Deintyddol Cymunedol. Mae wedi ei ddylunio i ddarparu gofal deintyddol gyffredinol mewn ardaloedd lle bo'r angen fwyaf.

O fewn y wasanaeth deintddyol gymunedol mae rhan fwyaf o’r staff wedi ei hyfforddi mewn technegau mewnanadliad tawelyddu.  Mae gwasanaeth ymdaweliad mewnwythiennol hefyd ar gael, ac mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn gweithredu gwasanaeth anesthesia cyffredinol yn tair Ardal yr Ysbytai Gyffredinol.Rydym yn cael cefnogaeth gan ymgynghorydd Bediatrig Deintyddol Ysbyty Alder Hey.

Mae gwasanaethau estynedig yn cynnwys Gwasanaeth Haen Canolog Llawfeddygaeth Dant- gorfannol a darpariaeth cefnogol (DGA) i tîm Canser Pen a Gwddf (MDT). Darperir hyfforddiant i Therapyddion mewn Mynediad Uniongyrchol ac Mewnanadliad Tawelyddu,ac rydym wedi ymrwymo i ehangu modelau medr gymysgedd.

Buddion

  • Lwfans adleoli ar gael
  • Cennad absenoldeb i astudio wedi ei dalu -21diwrnod mewn tair blynedd (pro rata)
  • Lwfans Hyfforddi Casgliadwy Blynyddol o £972 pob blwyddyn
  • Cynllun prydlesu car yn weithredol
  • Fe delir am Absenoldeb Blynyddol - 34 o ddyddiau a 8 o ddyddiau gwyliau’r banc (pro rata)

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person i'w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn gyda'r GDC
  • Bagloriaeth mewn Llawdriniaeth Ddeintyddol neu gyfwerth
  • Prawf o gynnal datblygiad proffesiynol parhaus ar ôl graddio
  • Ardystiad diogelu plant ac oedolion
  • ILS ac Ardystiad PLS
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ôl-radd sy'n dangos sgil clinigol priodol
  • Aelodaeth o sefydliad proffesiynol/cymdeithas dysgu

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o'r GDS neu PDS gan gynnwys bod un gysylltiedig â chwblhau ffurflenni a systemau talu
  • Hanes profedig o ran holl agweddau ar ddeintyddiaeth gyffredinol
  • Profiad eang mewn deintyddiaeth oedolion a phaediatreg gan gynnwys rhoi gofal i gleifion hŷn a gwaith gyda dannedd gosod
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn disgyblaethau deintyddol eraill
  • Wedi arfer gweithio mewn amgylchedd cartref cleifion/deintyddiaeth symudol
  • Profiad o asesu neu o drin cleifion ag anghenion arbennig
  • Profiad mewn Tawelyddu
  • Profiad mewn Gwasanaeth Deintyddol Brys
  • Profiad o drefnu Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol

Sgiliau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau Tîm: yn gallu cyfathrebu â'r tîm a'i gefnogi a'i gymell
  • Hunangymhelliant ac yn gallu bodloni terfynau amser
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu eich llwyth gwaith
  • Sgiliau rhyngbersonol / chyfathrebu da
  • Yn gallu defnyddio cymhelliant
  • Sgiliau dirprwyo-gweithio gyda therapyddion / hylenyddion deintyddol
  • Sgiliau cyfrifiadurol
Meini prawf dymunol
  • • Diddordeb mewn dilyn ymchwil wedi'i seilio ar y gwasanaeth

Addasrwydd Personol

Meini prawf hanfodol
  • Hyblyg a bodlon ymrwymo i sicrhau canlyniadau a chwrdd â therfynau amser
  • Gosod safonau uchel a bod â’r cymhelliant i’w cyflawni
  • Ymateb yn bositif i ethos tîm
  • Yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun
  • Gallu gweithio'n annibynnol
  • Ymagwedd hyblyg at flaenoriaethau a systemau gwaith cyfnewidiol
Meini prawf dymunol
  • Gallu defnyddio menter a chymhelliant e.e. datblygu'r defnydd o unedau deintyddol symudol, technoleg gyfrifiadurol

Cyffredinol

Meini prawf hanfodol
  • Gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon
  • Rhuglder neu wybodaeth am ieithoedd perthnasol eraill
Meini prawf dymunol
  • Rhuglder neu wybodaeth iaith/ieithoedd perthnasol eraill

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Sioned Roberts
Teitl y swydd
Senior Dental Officer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 855752
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg