Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Anaestheteg
Gradd
Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol
Contract
Parhaol: NA
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos (3 sesiwn ychwanegol yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
050-SDANAESC-0425
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£59,727 - £95,400 Per annum
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Meddyg Arbenigol mewn Anaestheteg

Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Meddyg Arbenigol yn Anaestheteg

Mae Adran Anaestheteg Ysbyty Glan Clwyd yn chwilio am feddyg arbenigol brwdfrydig i ymuno â’r tîm.

Mae’r swydd yn cynnwys darparu anaestheteg ar rhestrau theatr yn ystod yr wythnos, dan oruchwyliaeth; a gofal preswyl dros nos ac ar benwythnosau ar gyfer theatr argyfwng, ward lafur neu’r uned gofal ddwys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â cylchres preswyl 1 mewn 9 (un o bedwar cylchres preswyl anaestheteg a gofal dwys yn yr ysbyty).

Dylai fod gan ymgeiswyr leiafrif o 2 flynedd o brofiad ym maes Anaestheteg. Ceir hyfforddiant a goruchwyliaeth lle na fod gennych brofiad diweddar.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn adran cyfeillgar, gyda chydweithwyr cefnogol a nifer o gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa. Mae’r ardaloedd cyfagos yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i unigolion a teuluoedd, ac er ein bod mewn ardal wledig, mae’n hawdd cyrraedd nifer o ddinasoedd mawr y DU mewn car neu ar y trên.

Ceir fwy o wybodaeth am y swydd wrth gysylltu â Dr Gareth Mula, Arweinydd Clinigol, drwy e-bost - [email protected]

Efallai y byddwn yn cau yr hysbyseb yn gynnar os dderbynnir ddigon o geisiadau.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Bersonol ynghlwm yn y dogfennau ategol.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) gyda Trwydded I Ymarfer
  • FRCA Cynradd (Primary FRCA) neu cyfatebol
  • Lleiafrif o 2 mlynedd o brofiad ym maes Anaestheteg
Meini prawf dymunol
  • FRCA neu cyfatebol
  • Gwobrau ôl-raddedig

Sgiliau Clinigol a Hyfforddiant

Meini prawf hanfodol
  • Hyfforddiant sylfaenol ym maes anaestheteg cyffredinol, gan gynnwys pediatreg, ac wedi cyrraedd cymhwysedd cychwynnol.
  • Hyfforddiant sylfaenol yn Meddygaeth Gofal Ddwys (ICM) ac wedi cyrraedd cymhwysedd cychwynnol.
  • Hyfforddiant sylfaenol yn anaestheteg obstetreg, ac wedi cyrraedd cymhwysedd cychwynnol.
  • Hyfforddiant cyfoes Cynnal Bywyd (Immediate Life Support)
Meini prawf dymunol
  • ALS / APLS / ATLS neu cyfatebol
  • Profiad meddygol perthnasol mewn maes arall
  • Cyrsiau yn berthnasol I unrhyw ddiddordeb is-arbenigol.

Profiad Dysgu

Meini prawf dymunol
  • Cyfranogiad aml I ddysgu a hyfforddi cydweithwyr meddygol a para-meddygol
  • Cymhwyster Addysg Ffurfiol
  • Hyfforddwr cwrs Cynnal Bywyd

Information Technology

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • ECDL

Llywodraethu Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o gyfrannu a dealltwriaeth.
  • Tystiolaeth o ymarfer myfyriol
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o prosiectau gwella ansawdd wedi’u cwblhau sydd wedi newid arferion.
  • Cyflwyniadau mewn cyfarfodydd rhanbarthol a cenedlaethol.
  • Cyhoeddiadau mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid

Priodoleddau personol

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cadw trefn da Ymroddiad I weithio mewn tim.
  • Sgiliau rhyngberthnasol da
  • Agwedd gofalgar a cyfrifol tuag at gydweithwyr
  • Caring and responsible attitude to colleagues
  • Ysgrifennu a siarad Saesneg yn dda
  • Dibynadwy, hunan-gymhellol a prydlon.
  • Ymddangosiad a modd proffesiynol
  • Hyblygrwydd mewn amgylchedd gwaith newidiol
Meini prawf dymunol
  • Aelod o gymdeithasau proffesiynol perthnasol
  • Mynychiad i gynhedleddau cenedlaethol yn berthnasol i ddatblygiad is-arbenigol
  • Siaradwr Cymraeg

Other Requirements

Meini prawf dymunol
  • Aelod o sefydliad indemniad meddygol
  • Gallu I yrru / perchennog car

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gareth Mula
Teitl y swydd
Clinical Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg