Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Obstetreg a Gynaecoleg
Gradd
Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos (2 sesiwn ychwanegol yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
050-SPECDOC-OG-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£52,542 - £82,481 pa
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Meddyg Arbenigol mewn Obstetreg a Gynaecoleg

Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Ysbyty Glan Clwyd

Swydd am gyfnod penodedig o 12 mis

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dymuno penodi Meddyg Arbenigedd mewn Obstetreg a Gynaecoleg i’w leoli yn Ysbyty Glan Clwyd, Gogledd Cymru, i ymuno â'n tîm Obstetreg a Gynaecoleg cefnogol a chyfeillgar. Mae'r  swydd hon yn ehangiad o'n gweithlu cyfredol i ddatblygu'r gwasanaeth ymhellach gyda'r SuRNICC a agorwyd yn ddiweddar yn Ysbyty Glan Clwyd.  

Yn rhan o gydweithrediad strategol y Bwrdd Iechyd gyda Phrifysgol Bangor, gellir ystyried a henwebu unigolion sydd â diddordeb mewn addysgu ac ymchwil a all ddangos a chytuno ar gyfraniad posibl i'r Ysgol a'u henwebu i gael cydnabyddiaeth drwy broses y Brifysgol ar gyfer rhoi teitlau anrhydeddus a chymorth i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer Ysgol Feddygaeth ac Iechyd Gogledd Cymru.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r swydd hon yn cefnogi'r haen Cofrestrydd, felly mae profiad blaenorol ar lefel Cofrestrydd yn hanfodol. Gall y swydd hon gynnwys 2 sesiwn bob wythnos sy'n ymrwymedig i ddiddordeb academaidd, naill ai ar gyfer Addysg Meddygol Tystysgrif Ôl-radd, neu ymchwil, yn ddibynnol ar ddiddordebau'r unigolyn ac anghenion y gwasanaeth.

 

Gweithio i'n sefydliad

BIPBC yw'r Bwrdd Iechyd mwyaf yng Nghymru ac mae'n darparu gwasanaethau gofal iechyd cychwynnol ac eilaidd. Mae Uwch Adran Gwasanaethau Merched yn darparu ystod lawn o wasanaethau Gynaecoleg a Mamolaeth, ac fel rhan o'r tîm Meddygol yn Ysbyty Glan Clwyd, byddwch yn gwneud cyfraniad pwysig i'r ddarpariaeth o driniaeth a gofal i ferched Gogledd Cymru.

Yn rhan o gydweithrediad strategol y Bwrdd Iechyd gyda Phrifysgol Bangor, gellir ystyried a henwebu unigolion sydd â diddordeb mewn addysgu ac ymchwil a all ddangos a chytuno ar gyfraniad posibl i'r Ysgol a'u henwebu i gael cydnabyddiaeth drwy broses y Brifysgol ar gyfer rhoi teitlau anrhydeddus a chymorth i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer Ysgol Feddygaeth ac Iechyd Gogledd Cymru.

 

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r swydd am gyfnod penodol o 12 mis. Er nad yw hon yn swydd hyfforddi ffurfiol, byddai'r swydd hon yn addas i feddyg sy'n dymuno datblygu'i yrfa tuag at gael hyfforddiant arbenigol neu gael CESR. Mae'n bosibl y gellir ymestyn y swydd ar ddiwedd y cyfnod penodol yn amodol ar adolygiad perfformiad ar ddiwedd 6 a 12 mis yn y drefn honno.

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad priodol mewn hyfforddiant swyddi gradd ar lefel clinigol cymrawd neu uwch – lleiafswm 3 blynedd
  • leiaf 6 mis ar lefel cofrestrydd
Meini prawf dymunol
  • Profiad clinigol yn y DU

Gwybodaeth/ Cymhwyster

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad CMC llawn
  • Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr (MRCOG) Rhan 1 Bodloni rheoliadau Mewnfudo DU/AEE neu drwydded cymwys ar gyfer gweithio
Meini prawf dymunol
  • Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (MRCOG) llawn

Sgiliau Sylfaenol a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gweithdrefnau a sgiliau meddygol cyffredinol sy’n briodol i’r gradd
  • Goruchwylio ac addysgu staff meddygon a nyrsys iau
  • Y gallu i ysgrifennu nodiadau/hanes clir a chryno

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ms Maggie Armstrong
Teitl y swydd
Consultant O&G / Clinical Director
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01745 448788
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg