Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfleusterau
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Banc: 0 mis (Adhoc - when required)
- Oriau
- Rhan-amser
- Arall
- Cyfeirnod y swydd
- 070-DBA-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Llanidloes
- Tref
- Llanidloes
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Gwasanaethau Cefnogi (Domestig)
Gradd 2
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Nawdd
Ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu darparu tystysgrifau nawdd ar gyfer y rôl hon gan nad yw'n bodloni meini prawf y Swyddfa Gartref. Felly, ni all unrhyw un sydd angen tystysgrif nawdd gael ei roi ar y rhestr fer na'i gyfweld.
ein tîm o Gynorthwywyr Domestig yn chwarae rhan hanfodol yn agwedd glanhau a chymorth domestig yr Ysbyty, gan gynorthwyo ein timau Clinigol trwy ddarparu amgylchedd gweithio glân a diogel i’n Cleifion, ein Staff a’n Hymwelwyr. Fe fyddwch chi’n cefnogi gwaith darparu gweithgareddau domestig gwasanaethau gwesty yn lleol, ynghyd â gweithgareddau cyfleusterau cysylltiedig, gan sicrhau eu bod nhw’n cael eu cwblhau ar y lefelau cytunedig a’u bod nhw’n cydymffurfio’n llwyr â’r holl ddeddfwriaeth briodol a pholisïau a gweithdrefnau lleol. Fe fydd angen ichi allu ysgogi eich hun, bod yn hyblyg eich dull o weithio, gallu gweithio fel rhan o dîm a gallu gweithio ar eich liwt eich hun. Mae profiad blaenorol o fantais, ond nid yw’n hanfodol gan y bydd yna raglen hyfforddi lawn. Mae’r Cynorthwywyr Domestig ar ein banc yn hollbwysig i ni ac, yn gyfnewid am eu hymroddiad, rydyn ni’n cynnig y buddion a ganlyn:- i roi
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau gwestai domestig yn lleol a gweithgareddau cyfleusterau cysylltiedig, gan sicrhau eu bod yn cael eu darparu i’r lefelau y cytunwyd arnynt a'u bod yn cydymffurfio'n llawn â'r holl ddeddfwriaeth briodol a pholisïau a gweithdrefnau lleol. Bydd angen i chi fod yn hunanysgogol, bod â dull hyblyg o weithio, y gallu i weithio fel rhan o dîm a meddu ar y gallu i weithio ar eich liwt eich hun. Mae profiad blaenorol yn fantais, ond nid yn hanfodol, gan fydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Experience
Meini prawf hanfodol
- To have gained sufficient experience in the cleaning industry to be able to demonstrate an understanding of safe working practices and techniques that would meet the requirements within this role.
Aptitude and Ability
Meini prawf hanfodol
- To be able to perform independently or as part of a team whilst demonstrating the values and behaviours expected of the organisation.
- To be able to follow instructions and organise own work to meet the team objectives, adapting work to meet any changing priorities which may need to meet tight timeframes.
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Values
Meini prawf hanfodol
- Able to demonstrate the essential values and commitment required to delivering a high quality service for patients and staff.
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel within geographical area.
- Able to work hours flexibly.
Qualifications and/or knowledge
Meini prawf dymunol
- literacy and numeracy level 1
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Susan Harris
- Teitl y swydd
- Support Services Co-ordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07817926372
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Aner Marcelo; 01874712695
Rhona Pembridge ; 01597828801
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector