Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Band 2
- Contract
- Parhaol: Dyddiau Iau a Gwener
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (Dyddiau Iau a Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AC119-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu
- Tref
- Aberhonddu
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwy-ydd Gwasanaethau Cleifion
Band 2
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Nawdd
Ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu darparu tystysgrifau nawdd ar gyfer y rôl hon gan nad yw'n bodloni meini prawf y Swyddfa Gartref. Felly, ni all unrhyw un sydd angen tystysgrif nawdd gael ei roi ar y rhestr fer na'i gyfweld.
Dyddiau Iau a Gwener
Gwaith o fewn Gwasanaethau Cleifion a/neu Weinyddol i gefnogi Gwasanaethau Ysbyty Aberhonddu.
Mae'r swydd hon yn barhaol ac wedi'i lleoli yn Swyddfa Aberhonddu. Efallai y bydd angen teithio i safleoedd eraill i weithio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydw i’n chwilio am unigolyn brwdfrydig sydd llawn cymhelliant i ymuno a Thîm Gwasanaethau Cleifion. Byddwch yn gweithio ar y broses prosesu o wybodaeth yn effeithlon trwy ddefnyddio System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS) a threfnu apwyntiadau ysbyty.
Bydd gofyn i chi brosesu atgyfeiriadau o’r cychwyn hyd at y broses trefnu apwyntiad, gan ddefnyddio’r system WPAS a chadw at ganllawiau rhestr aros a gweithdrefnau cofnodion iechyd. Y claf fydd yn ganolbwynt i chi, byddwch a sgiliau cyfathrebu a sgiliau defnyddio ffôn da, yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun ac o fewn tîm bach.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Addysg sylfaenol o safon dda
- Yn hyddysg mewn cyfrifiadura a phrofiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft, gan gynnwys Word ac Excel
- RSA neu NVQ2 mewn sgiliau TG neu brofiad gwaith perthnasol
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o ddyletswydda u clercaidd gweinyddol
- Gallu siarad Cymraeg
Aptitude Abilities
Meini prawf hanfodol
- Gallu delio ag aelodau’r cyhoedd, cleifion a chlinigwyr wyneb yn wyneb
- Dull da o siarad dros y ffon
- Gallu gweithredu ar eich liwt eich hun i liniaru sefyllfa anodd sy’n ymwneud a chleifion
- Gallu gweithio fel rhan o dim neu ar eich liwt eich hun
- Ability to deal sympathetically with patients and relatives
Other
Meini prawf hanfodol
- Punctual and reliable
Values
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate PTHB Values
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Laura Davies
- Teitl y swydd
- Assistant Patient Services/Admin Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 615632
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector