Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapydd Clinigol Arbenigol Cyhyrysgerbydol
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AHP090-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- De Powys - TBC
- Tref
- Aberhonddu
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ffisiotherapydd Clinigol Arbenigol Cyhyrysgerbydol
Gradd 7
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Ffisiotherapydd Band 7 i ymuno â’r Tîm Ffisiotherapi Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATs) ac Ymarferwyr Cyswllt Cyntaf (FCP) yn De Powys.
Bydd gennych y cyfle i weithio gyda’r Ffisiotherapydd Ymgynghorol Cyhyrysgerbydol, Ffisiotherapyddion Clinigol Arbenigol, Ymgynghorwyr Orthopedig, meddygon teulu a phroffesiynau iechyd eraill sy'n gweithio ar lwybr Gwasanaeth Cyhyrysgerbydol (MSK) ledled De Powys.
Fel Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Cyhyrysgerbydol (MSK) ym maes Gofal Sylfaenol a CMATs rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i fod yn rhan o waith trawsnewid MSK ym Mhowys ac sydd am weithio o fewn tîm brwdfrydig sy’n blaenoriaethu darparu asesiad cyhyrysgerbydol o ansawdd uchel ac adsefydlu i drigolion Powys.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio fel ymarferydd annibynnol yn rheoli cleifion ag anghenion cymhleth hynod arbenigol mewn amgylcheddau gofal amrywiol.
Cydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill e.e. Meddygon Teulu,
Ymgynghorwyr, Nyrsys a Gweithwyr Proffesiynol eraill Perthynol i Iechyd i ddarparu gofal cyhyrysgerbydol arbenigol sy’n canolbwyntio ar y claf.
Darparu hyfforddiant, addysg, goruchwyliaeth ac arfarniad i staff a myfyrwyr.
Cyfrannu at ddatblygu arfer proffesiynol a thrawsnewid a gwerthuso’r
gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu.
Cefnogi’r agenda ymchwil ac arloesi trwy gymryd rhan mewn gweithgarwch ymchwil a datblygu.
Arwain agweddau ar werthuso gwasanaeth, gan bwysleisio ar ofal seiliedig ar werth ac archwiliad cymhleth yn eich maes.
Gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth a staff i gyflawni gwell deilliannau iechyd i ddefnyddwyr gwasanaeth a datblygu llwybrau clinigol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Diploma/ Gradd mewn ffisiotherapi
- Cofrestriad HCPC
- Hyfforddiant achrededig uwch ar lefel Meistr neu gyfwerth
- Cyrsiau/ hyfforddiant arbenigol ol-raddedig achrededig sy’n berthnasol i’r rol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma ol-raddedig mewn maes perthnasol
- MSc o fewn arbenigedd perthnasol
- Cymhwyster rhagnodi anfeddygol
- Cymhwyster mewn therapi pigiadau
- Aelod o’r CSP
- Cymhwysedd fel atgyfeiriwr anfeddygol
- Cyrsiau/ cymwysterau arweinyddiaeth perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig sylweddol sy’n berthnasol i’r arbenigedd
- Profiad sylweddol o reoli llwyth achosion cymhleth, gan weithio mewn arbenigedd perthnasol
- Profiad o weithio mewn tim amlasiantaeth o fewn y maes arbenigedd
- Tystiolaeth o gefnogi gofynion llywodraethu clinigol, gan gynnwys codau ymddygiad
- Profiad o arwain rhwydweithiau/ grwpiau ymarfer perthnasol
- Profiad o archwilio a gwerthuso gwasanaeth
- Profiad o ymchwil
- Profiad o ddatblygu staff, gan gynnwys addysg
- Profiad o oruchwylio
- Profiad o wneud cyflwyniadau i amrywiaeth o gynulleidfaoedd
Meini prawf dymunol
- Profiad o gynllunio a datblygu gwasanaeth ar draws ffiniau proffesiynol
- Profiad o arwain tim
- Profiad o addysgu ol-raddedig
- Rhagnodi annibynnol
- Therapi pigiadau
- Gofyn am ddiagnosteg
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau arfer clinigol a rhesymu clinigol uwch profedig i lefel arbenigol
- Meddu ar sgiliau craffter golwg, canfyddiadol a chorfforol hynod ddatblygedig
- Gallu cynllunio, blaenoriaethu a dirprwyo’ch llwyth gwaith eich hun a llwyth gwaith pobl eraill
- Gallu gweithio’n effeithio mewn tim ac yn annibynnol
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar, dieiriau ac ysgrifenedig rhagorol a phob rhanddeiliad, gan gynnwys cleifion
- Meddu ar sgiliau trefnu effeithiol
- Gallu cynnal gwybodaeth ystadegol a chofnodion clinigol manwl gywir a darllenadwy
- Yn fedrus mewn sefyllfaoedd anrhagweladwy
- Gallu arwain newid
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Dysgwr hunangyfeiriedig
- Gallu rhoi hyfforddiant un-i-un, mentora, goruchwylio a hyfforddi
- Meddu ar sgiliau ysgogi a chysuro
- Meddu ar sgiliau addysgu a gallu gwneud cyflwyniadau i gynulleidfaoedd mawr
- Sgiliau technoleg a rheoli gwybodaeth boddhaol
Meini prawf dymunol
- Sgiliau rheoli ac arwain
- Sgiliau ymchwil helaeth
- Gallu siarad Cymraeg
- Sgiliau technoleg a rheoli gwybodaeth uwch
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Dangos Gwerthoedd BIAP
- Hyder proffesiynol ac agwedd ddibynadwy tuag at waith
- Gallu ymdopi dan bwysau ac addasu patrymau gweithio os yw’r sefyllfa yn anrhagweladwy
- Ymroddedig, brwdfrydig a llawn cymhelliant
- Gallu canolbwyntio, bod yn wyliadwrus ac yn ymwybodol, bob amser ar lefel uchel, mewn amgylcheddau anrhagweladwy
- Gallu addasu’n emosiynol a dangos sgiliau empatheiddio a thrafod telerau
- Yn chwaraewr tim sy’n gallu addasu ac yn gallu ysgogi a pharchu eraill
- Gallu gosod blaenoriaethau a chyflenwi a gwerthuso deilliannau perfformiad
- Gallu myfyrio ynglyn a’ch perfformiad eich hun
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gofyniad NEU barodrwydd i ddilyn hyfforddiant pellach ar lefel meistr i ennill cymhwyster Tystysgrif ol-raddedig
- Gallu teithio a gweithio ar safleoedd amrywiol, ar sail angen
- Bod yn barod i weithio’n hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Aelodaeth o grwpiau diddordeb arbennig priodol
- Gweledigaeth glir o’r rol ac ymrwymiad i’r arbenigedd
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jennifer Ellis
- Teitl y swydd
- Service Lead for FCP and CMATs
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07815 557 031
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector