Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Commissioning
Gradd
Band 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Hybrid working with mix of office/remote flexibility, 5 days per week (Mon-Fri))
Cyfeirnod y swydd
070-AC071-0626
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bronllys Hospital
Tref
Brecon
Cyflog
£50,129 - £57,365 per annum
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/07/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Commissioning Manager

Band 7

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


 

Trosolwg o'r swydd

Oes gennych chi brofiad comisiynu, y gallu i addasu ac agwedd ‘eisiau gwneud’?  Ydych chi'n chwilio am yr her nesaf yn eich gyrfa a fydd yn eich galluogi i gyflawni rheolaeth contractau busnes fel arfer yn gyson ar draws nifer o ddarparwyr y GIG wrth helpu datblygu, dylunio a gweithredu gofynion comisiynu strategol?  Yna bydd y swydd hon at eich dant chi!

Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) gyfle unigryw i'r person cywir sydd â phrofiad o gomisiynu gofal iechyd ymuno â thîm comisiynu bach, ymroddedig a rhagweithiol wrth ddarparu comisiynu a rheolaeth gytundebol er budd poblogaeth Powys.  Byddwch yn meithrin perthnasoedd gwaith cryf â chyfarwyddiaethau eraill o fewn BIAP a chyda chynrychiolwyr contractiol a chomisiynu allanol.

Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn chwarae rhan gefnogol allweddol yn y cyfnod trawsnewidiol sefydliadol parhaus o newid wrth ddatblygu a gweithredu sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu fel rhan o raglen waith Gwella Gyda'n Gilydd.

Bydd ein hymgeisydd delfrydol yn gallu dangos ei wybodaeth a'i brofiad o gefnogi/rheoli contractau gofal iechyd, deall rôl ehangach y comisiynydd o fewn gofal iechyd, y gallu i gyflawni yn erbyn amserlenni tynn a chystadleuol a bod â pharodrwydd i ddysgu, i gwestiynu a dod yn aelod annatod o'r tîm comisiynu.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar y safle (Bronllys) o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos. Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol ail-ymgeisio.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae cyfrifoldebau allweddol y rôl yn cynnwys:

  • Arwain ar ddatblygu, monitro a pherfformiad contractau gan weithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer portffolio penodol o gontractau (Cytundebau Hirdymor).
  • Gweithredu'r cynllunio a'r Fframwaith Ansawdd a Pherfformiad Integredig (IQPF) o fewn contractau darparwyr a gomisiynwyd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP).
  • Cefnogi rheoli perfformiad integredig trwy weithredu'r IQPF o safbwynt comisiynu ehangach ac yn uniongyrchol trwy gontractau darparwyr a gomisiynwyd gan BIAP.
  • Darparu goruchwyliaeth a her uniongyrchol gyda darparwyr a gomisiynwyd lle mae perfformiad yn dirywio, yn benodol mewn perthynas â rhestrau aros a gweithgaredd atgyfeirio a bod yn gyfrifol am uwchgyfeirio o fewn BIAP yn unol ag IQPF.
  • Darparu goruchwyliaeth o Gytundebau Lefel Gwasanaeth sy'n eistedd o fewn y portffolio dynodedig o gontractau darparwyr a gomisiynwyd gan weithio gyda chydweithwyr BIAP i gefnogi uwchgyfeirio a datblygiad yn ôl yr angen.
  • Darparu cyngor a chymorth comisiynu arbenigol yn unol â Fframwaith Comisiynu Strategol BIAP gan gynnwys:
    o Blaenoriaethau Strategol
    o Asesiad o anghenion
    o Rhaglenni gwaith trawsnewidiol
  • Arweinyddiaeth a chefnogaeth darparwyr i'r tîm comisiynu ehangach a Chytundebau Hirdymor a Lefel Gwasanaeth y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Perfformiad a Chomisiynu

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon

 

Manyleb y person

English

Meini prawf hanfodol
  • Understanding of the public sector in a health or social care environment

English

Meini prawf hanfodol
  • Educated to degree level in relevant subject or equivalent level of qualification or experience of working at a similar level in a specialist area
  • Understanding of the public sector in a health or social care environment
  • Knowledge or experience in commissioning or contracting in a health or social care environment
  • Co-ordinating projects/activities in complex and challenging environments across a range of stakeholders and internal/external groups/teams
  • Drafting briefing papers and correspondence for delivery at senior level
  • Taking comprehensive minutes or using systems to support verbatim record keeping
  • Demonstrated capability to act upon incomplete information, using experience to make inferences and decision making
  • Numerate and able to understand financial issues combined with advance analytical and interpretation skills
  • Prepare and produce concise yet insightful communications for dissemination to senior stakeholders and a broad range of stakeholders as required
Meini prawf dymunol
  • Knowledge of project principles, techniques and tools e.g. MSP, Prince 2, Agile
  • Good understanding of the Individual Patient Funding request, EEA, INNU, Cross Border policy and legislative Framework
  • Knowledge of financial systems e.g. monitoring budget management, processing invoices and procurement

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Tracey Gwyther
Teitl y swydd
Head of Commissioning
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Please make initial contact via e-mail

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg