Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Endoscopy
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 070-NMR123-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Breconshire War Memorial Hospital
- Tref
- Aberhonddu
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 per annum pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cydlynydd Endosgopi
Band 7
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am nyrs ddeinamig a phrofiadol sydd â brwdfrydedd dros ddarparu gofal endosgopi o ansawdd uchel. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn chwilio am Gydlynydd Endosgopi medrus a brwdfrydig i arwain a rheoli ein gwasanaethau endosgopi ar draws safleoedd BIAP. Mae hon yn rôl arweinyddiaeth Band 7 a fydd yn cael ei rhannu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Arwain rheolaeth ddyddiol yr uned endosgopi, gan sicrhau safonau uchel o ofal cleifion.
- Darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth glinigol arbenigol i staff nyrsio a chymorth.
- Goruchwylio amserlennu sifftiau, hyfforddi, recriwtio a rheoli perfformiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau'r Bwrdd Iechyd, llywodraethu clinigol, a chanllawiau cenedlaethol.
- Cysylltu â rhanddeiliaid i ddiwallu'r galw am wasanaethau a thargedau amseroedd aros Llywodraeth Cymru.
- Hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, diogelwch a gofal sy'n canolbwyntio ar y claf.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad cyfredol â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Cymhwyster Meistr neu brofiad dangosadwy cyfwerth
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Cymhwyster addysgu ac asesu
- Gwybodaeth o Nyrsio Endosgopi a thriniaeth
- Sgiliau estynedig e.e. hyfforddiant triniaeth cynnal bywyd
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol mewn Adran Endosgopi
- Profiad o reoli cleifion sy’n hynod sâl
- Tystiolaeth o arwain tîm
- Gwybodaeth o ganllawiau/ strategaethau cenedlaethol a lleol
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Dangos Gwerthoedd BIAP
Aptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn rhai ysgrifenedig a llafar, a gallu rheoli rhwystrau a dangos empathi
- Sgiliau trefnu rhagorol a gallu cynhyrchu taenlenni ac adroddiadau
- Sgiliau rheoli pobl da
- Dealltwriaeth o lywodraethu clinigol
- Gallu arwain tîm
- Dull arloesol o drin gofal cleifion a datblygu gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Other
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio’n hyblyg dros 7 diwrnod lle bo angen a theithio rhwng safleoedd BIAP i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Helen Byard
- Teitl y swydd
- Senior Clinician Theatres & Endoscopy
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 615660
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Jane Harrison
Endoscopy Co-ordinator
01874 615660
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector