Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
English
Gradd
Band 6
Contract
Banc: 0 diwrnod (Bank- Adhoc when required)
Oriau
Arall - 0 awr yr wythnos (Adhoc- when required)
Cyfeirnod y swydd
070-BCGA&RO-0625
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
English
Tref
Brecon
Cyflog
£37,898 - £45,637 Per annum
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Bank Corporate Governance Assurance & Risk Officer

Band 6

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn rhan annatod o’r tîm Llywodraethu Corfforaethol ac yn cefnogi’r sefydliad wrth ymgymryd â gweithgareddau sicrwydd a risg, a bydd yn cefnogi datblygu a gweithredu prosesau a systemau llywodraethu cadarn. Bydd deiliad y swydd yn datblygu perthnasoedd dylanwadol cryf i wella integreiddio rhwng llywodraethu a chyflawni trwy gyd-ddealltwriaeth o flaenoriaethau busnes timau cyflenwi gwasanaeth gweithredol yn y Bwrdd Iechyd, er mwyn ychwanegu gwerth busnes, ystwythder ac ymatebolrwydd.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi ac yn cydweithio â’i gyfarwyddiaethau corfforaethol i ddatblygu ac ymgorffori diwylliant ac ymwybyddiaeth risg yn y Bwrdd Iechyd a gyrru’r broses o gyflwyno agenda Sicrwydd a Risg i gefnogi cyflawni amcanion sefydliadol, cyflenwi gwasanaethau diogel ac effeithiol a chydymffurfio â deddfwriaeth a safonau.

Bydd deiliad y swydd yn dangos esiampl dda a bydd ganddo wybodaeth eang a dealltwriaeth dechnegol o Reoli Risg a Sicrwydd. Bydd ganddo sgiliau cyfathrebu a threfnu gwych a’r gallu i weithio ar ei liwt ei hun.

Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli yn ein pencadlys ym Mronllys, ond hefyd â’r hyblygrwydd i weithio gartref/lleoliad arall. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Prif ddyletswyddau’r swydd 

Mae'r prif ddyletswyddau isod wedi'u crynhoi o'r disgrifiad swydd, darllenwch ddisgrifiad y swydd hefyd am fanylion llawn.  

Cyfrannu at ddylunio, datblygu a gweithredu Fframwaith Sicrwydd Bwrdd Iechyd integredig a Fframwaith Rheoli Risg integredig.

Cyfrannu at ddatblygu'r Fframwaith Rheoli Risg ar gyfer y Bwrdd Iechyd sy'n galluogi'r broses Rheoli Risg i gael ei gweithredu'n llawn.

Hwyluso diwylliant sy’n ymwybodol o risg o fewn y cyfarwyddiaethau ac is-dimau, a rhoi cyngor a chefnogaeth arbenigol wrth adnabod ac asesu risg, i gefnogi’r sefydliad i gyflawni ei amcanion, cyflenwi gwasanaethau diogel ac effeithiol a chydymffurfio â deddfwriaeth/safonau.

Datblygu dull o weithio mewn partneriaeth effeithiol gyda chydweithwyr o gyfarwyddiaethau corfforaethol i gefnogi gweithgareddau Rheoli Risg a Sicrwydd, a 

sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio i lywio mentrau gwella gwasanaethau a’u gweithredu.

Y gallu i sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o gydweithwyr.

Gweithio ar y cyd â chyfarwyddiaethau a thimau i olrhain gweithredu argymhellion yr holl archwilwyr a rheoleiddwyr yn gywir, cyflwyno gofynion Cylchlythyr Iechyd Cymru. Rhoi sicrwydd i'r Bwrdd, drwy'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, o gydymffurfiaeth y Bwrdd Iechyd â deddfwriaeth, gan sicrhau bod meysydd sy'n peri pryder yn cyd-fynd â'r broses Rheoli Risg.

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Disgrifiad swydd fanwl a phrif gyfrifoldebau

Gweler y swydd ddisgrifiad a manyleb y person ynghlwm am fanylion llawn y swydd. 

Manyleb y person

Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Knowledge of Corporate Governance frameworks and evidence-based assurance systems

Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Understanding of Risk Management processes and practices including risk appetite/tolerance

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Significant experience of Risk Management and Assurance within the NHS or large public or private organisation

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Experience of delivering training programmes (in particular Risk and/or Assurance)

English

Meini prawf dymunol
  • Member of relevant professional body (e.g. Institute of Risk Management (IRM)

English

Meini prawf dymunol
  • Evidence of working with audit teams and tracking recommendations within large organisations

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Helen Bushell
Teitl y swydd
Director of Corporate Governance
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07711 819665
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg