Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Wedi'i leoli yn Ysbyty Bronllys)
Cyfeirnod y swydd
070-AC126-1126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Bronllys
Tref
Aberhonddu
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
16/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Cynorthwy-ydd Cyfrifon Rheoli

Gradd 3

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


 

Trosolwg o'r swydd

Cynorthwyo gyda phrosesu gwybodaeth ariannol fisol, cysoni'r Prif Gyfriflyfr â systemau mewnbynnu, ac ymchwilio i ymholiadau ariannol gan reolwyr gwasanaeth.

Darparu gwasanaeth cymorth clerigol a gweinyddol cynhwysfawr.

Gweithio ar eich menter eich hun a bod yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd ar gyfer staff o fewn yr adran a pharatoi papurau yn ôl yr angen, gan gydweithio â staff eraill y Bwrdd Iechyd a sefydliadau allanol.

Gallu cyfathrebu, dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol, a meddu ar y gallu i ymdrin â gwybodaeth sensitif a chyfrinachol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae swydd wag wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Cyfrifeg Reoli yn yr Adran Cyllid yn Ysbyty Bronllys.

Bydd y swydd hon yn cefnogi'r tîm Cyfrifon Rheoli. Prif elfennau'r swydd yw cefnogi'r gwaith o gynhyrchu gwybodaeth ariannol fisol gywir, cwblhau a mewnbynnu cofnodion cyfrifyddu (journals), a chynhyrchu gwaith cysoni ariannol.

Ystyriir ceisiadau ar gyfer gwaith rhan-amser gan ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf (o leiaf 20 awr).

Croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig; ond hyd yn oed os nad ydych yn siarad Cymraeg, neu os hoffech ddatblygu eich sgiliau, peidiwch â phoeni: bydd y bwrdd iechyd yn eich cefnogi drwy ddarparu hyfforddiant.

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Darparu amrywiaeth o wasanaethau clerigol ac ysgrifenyddol yn ôl y cyfarwyddyd. Darparu cefnogaeth a chyflenwi croes o fewn yr adran.

Rheoli gohebiaeth sy'n dod i mewn, delio ag eitemau arferol a nodiadau atgoffa gweithredu yn ôl y cyfarwyddyd.

Tracio gohebiaeth a monitro camau dilynol i sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau.

Trefnu cyfarfodydd, gan gynnwys archebu lleoliadau, offer a chydlynu presenoldeb.

Dyletswyddau eraill i gynnwys defnyddio'r rhyngrwyd i adfer gwybodaeth, llungopïo, ffeilio ac echdynnu ffeiliau a threfnu lletygarwch i ymwelwyr a gwesteion yn ôl yr angen.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch ar "Gwneud Cais nawr" i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • 5 GCSE including Maths & English at A-C
Meini prawf dymunol
  • Studing for AAT qualification

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Financial knowledge

Technical Skills

Meini prawf hanfodol
  • Knowledge of Microsoft Excel and Word
  • Basic Principles of accountancy and financial management

Communication Skills

Meini prawf hanfodol
  • Excellent oral and telephone skills
Meini prawf dymunol
  • Ability to convey financial information to non financial managers

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Samantha Goode
Teitl y swydd
Directorate Accountant
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01874 712672
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Stacy Jones - Principal Finance Manager

Telephone Number: 01874 712 743

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg