Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapydd
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL 12 MIS)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AHP111-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Aberhonddu
- Tref
- Aberhonddu
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/08/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ffisiotherapydd
Gradd 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n chwilio am her newydd? Gallwch fod yn rhan allweddol o Fwrdd Iechyd arloesol cyffrous sydd â'r nod o ddarparu "Gofal integredig sy'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn". Mae cyfle cyffrous wedi codi i ffisiotherapydd niwrolegol ymuno â'n gwasanaeth ffisiotherapi gan weithio ar draws Du Powys.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â’r awydd i weithio o fewn tîm ysgogol a brwdfrydig sy’n blaenoriaethu darparu gwasanaeth adferiad arbenigol strôc a niwroleg i gleifion mewnol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Ffisiotherapydd Niwrolegol Arbenigol Clinigol De Powys. Bydd hefyd cyfle i ymgysylltu o fewn rhwydwaith o ffisiotherapyddion arbenigol ym maes strôc a niwro ledled Powys. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn rhan o dîm amlddisgyblaethol sy’n arbenigo yn niwro ledled Powys, gan gynnwys Therapydd Ymgynghorol ar gyfer Strôc a Niwroadsefydlu, sy'n gyfrifol am nodi, datblygu a chyflawni gwelliannau parhaus i wasanaethau yn y Cynlluniau Cyflawni ar gyfer Strôc a Chyflyrau niwrolegol. Bydd yr ymgeisydd yn rhan o'r gwasanaethau Ysgogi Trydanol Hwylusedig (FES) a Gwasanaethau Spasticity.
Bydd angen arnoch sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, dull gweithio hyblyg a sgiliau trafod er mwyn ysgogi cleifion a staff i ddarparu ansawdd uchel o ofal.
Byddwch yn gweithio’n agos fel rhan o Dîm Amlddisgyblaethol o fewn BIAP a Gwasanaethau cymdeithasol, y ward rithwir llwyddiannus a chefnogi integreiddio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyffredinol
Gweithio fel rhan annatod a gweithgar o'r tîm therapi ac amlddisgyblaethol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi'r tîm therapi i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y claf yn effeithlon.
Yn benodol i’r rôl
Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys rheolaeth glinigol ar gleifion a dogfennau perthnasol; rheoli llwyth achosion cymunedol o gleifion mewnol niwrolegol yn annibynnol, cwblhau asesiadau ac ymyriadau arbenigol ffisiotherapi, a chyfathrebu'n glir â defnyddwyr y gwasanaeth a'u teuluoedd.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyfrannu at ddatblygu gwasanaethau, mentoriaeth band 5 a myfyrwyr ffisiotherapyddion yn ogystal â'r tîm ehangach a dirprwyaeth o gynlluniau adsefydlu i alluogi adsefydlu gweithredol dros 7 diwrnod.
Darparu arweiniad i'r tîm niwro, tîm therapi ehangach a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach.
Cyfrannu at y gwaith parhaus o ddatblygu a chynnal o effeithlonrwydd a diogelwch o fewn yr Adran Therapi.
Goruchwylio'r gwaith o ddarparu adsefydliad niwrolegol ar draws 7 diwrnod.
Bod yn hyblyg ar adegau pan mae’r gwasanaeth ar gapasiti llawn.
Mae'r tîm yn darparu gwasanaeth 7 diwrnod a disgwylir i'r holl staff fod yn rhan o'r rhestr gweithio ar benwythnosau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweler yng nghlwm y Disgrifiad swydd a manyleb y person i gael rhagor o wybodaeth am y rôl a'r meini prawf hanfodol a dymunol y mae'n ofynnol i ymgeiswyr eu bodloni.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio yn y gymuned ac felly bydd angen trwydded gyrru a mynediad i gerbyd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Saesneg a Chymraeg wneud cais.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon ac angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â Sian Young ar 01874 615724.
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- BSc (Hons) Physiotherapy
- HPC registration
- Evidence of relevant post graduate study and personal development – CPD portfolio Membership of CSP
- Broad working knowledge of Physiotherapy techniques across all aspects of treatment
- Specialised knowledge in care of elderly and neurological conditions and general rehabilitation
- Ability to keep legible, clear and concise notes
Meini prawf dymunol
- Post graduate courses
- Evidence of involvement with relevant Clinical Interest group(s)
Experience
Meini prawf hanfodol
- Broad range of band 5 experience
- Experience working with elderly
- Experience of working with Junior staff/ assistants/ students and to develop other staff both formally and informally
- Evidence of Involvement in research/ audit Good presentation/ teaching skills
Meini prawf dymunol
- Experience of working in a community setting
Aptitudes & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Ability to work independently
- Able to work collaboratively within the physiotherapy team and with the wider MDT
- Able to cope with moderate physical exertion throughout the working day
- Ability to work under pressure Autonomous decision maker
Meini prawf dymunol
- Service Development
- Ability to speak Welsh
Other
Meini prawf hanfodol
- Flexible working e.g. weekend rotas Ability to travel between sites in a timely manner
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sian Young
- Teitl y swydd
- Team Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874615724
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sian Young
01874615724
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector