Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Theatr/ODP
Gradd
Band 5
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 33.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-NMR062-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog
Tref
Aberhonddu
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Ymarferydd Theatr/ODP

Band 5

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Rydyn ni’n edrych am Ymarferwyr Theatr/ Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau llawn cymhelliant i ymuno â’n Hunedau Llawdriniaethau Dydd ac Endosgopi yn Ysbyty Aberhonddu a Llandrindod. Mae’r rôl yn galw am gefnogi ein hymgynghorwyr a’n hanesthetyddion ym meysydd arbenigol anestheteg, sgwrio ac adfer. Efallai y byddwch chi hefyd yn derbyn ac yn rhyddhau cleifion a bydd sail yr ymgeiswyr llwyddiannus yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog.

Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ofynnol i weithio yn yr adran, i sicrhau perthnasoedd gweithio effeithiol fel ein bod yn gallu darparu gofal cleifion o safon uchel i gleifion Powys yn lleol. Mae’r uned hefyd yn cefnogi hyfforddiant, fel y cymhwyster Cynorthwyydd Cyntaf a gellir ystyried cyfleoedd hyfforddi eraill.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau / Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad NMC/ HCPC
  • Gradd/ Diploma neu gymhwyster proffesiynol perthnasol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol cyfredol
  • Portffolio a thystiolaeth gyfoes o ddatblygiad proffesiynol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ECDL
  • Profiad mewn amgylchedd amdriniaethol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rheoli pobl
  • Gwybodaeth o brosesau gweinyddol a meddalwedd cyfrifiadurol e.e. mewnbynnu data
  • Gwybodaeth/ profiad o bolisi a gweithdrefnau o fewn Uned Llawdriniaeth Ddydd
  • Tystiolaeth o fynychu cyrsiau/ hyfforddiant/ cynadleddau perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Datblygu llwybr gofal
  • Cymryd rhan mewn datblygu polisi

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Gallu rheoli galwadau sy’n gwrthdaro
  • Sgiliau clinigol rhagorol
  • Sgiliau cyfathrebu da a hawdd dod atoch. Rhaid gallu cyfathrebu’n effeithiol a grwpiau bach yn ogystal ag unigolion
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg
  • Ymwybyddiaeth gyllidebol/ ariannol
  • Sgiliau trefnu da gydag agwedd hyblyg tuag at waith

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Dangos Gwerthoedd BIAP
  • Hawdd dod atoch a gofalgar
  • Dull hyblyg o drin gwaith ac anghenion y gwasanaeth
  • Gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dim
  • Deinamig a llawn cymhelliant

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Rhaid gallu ymgymryd a dyletswyddau’r swydd
  • Gallu gweithio ar safleoedd gwahanol o fewn y Bwrdd Iechyd
  • Gwiriad DBS llwyddiannus

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Darryn Proctor / Philip Hobbs
Teitl y swydd
Theatre Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01597 828806
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

[email protected]

01874 615703

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg