Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AC021-0226
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Bronllys
- Tref
- Bronllys
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/02/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cynorthwy-ydd Cyfrifon rheoli
Gradd 3
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r broses o gofnodi gwybodaeth ariannol fisol, cysoni'r Cyfriflyfr Cyffredinol, ac ymchwilio i ymholiadau ariannol gan reolwyr gwasanaeth.
Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth cymorth clerigol a gweinyddol cynhwysfawr.
Bydd angen i ddeiliad y swydd weithio ar ei liwt ei hun a dwyn cyfrifoldeb am drefnu cyfarfodydd ar gyfer staff yn yr adran a pharatoi papurau yn ôl yr angen, gan gysylltu â Staff eraill y Bwrdd Iechyd a sefydliadau allanol.
Rhaid i ddeiliad y swydd allu arddangos sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i ddelio â gwybodaeth sensitif a chyfrinachol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae swydd wag wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Cyfrifon Rheoli yn yr Adran Gyllid sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Bronllys.
Bydd y swydd hon yn cefnogi'r tîm Cyfrifon Rheoli. Elfennau allweddol y swydd yw cefnogi cynhyrchu gwybodaeth ariannol fisol gywir, cwblhau a chyfrannu cyfnodolion a chynhyrchu cysoniadau ariannol.
Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr rhan-amser sy'n bodloni'r meini prawf (isafswm o 20 awr).
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Saesneg a Chymraeg wneud cais
Gweithio i'n sefydliad
Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch a thim y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]
Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG a phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu dilynwch y ddolen "Gwneud cais nawr" ar Trac
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- 5 GCSE including Maths & English at A-C
Meini prawf dymunol
- Studing for AAT qualification
Experience
Meini prawf hanfodol
- Financial knowledge
Technical Skills
Meini prawf hanfodol
- Knowledge of Microsoft Excel and Word
- Basic Principles of accountancy and financial management
Communication Skills
Meini prawf hanfodol
- Excellent oral and telephone skills
Meini prawf dymunol
- Ability to convey financial information to non financial managers
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Samantha Goode
- Teitl y swydd
- Senior Assistant Management Accountant Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Stacy Jones - Principal Finance Manager
Telephone Number: 01874 712 743
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







