Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Finance
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AC041-0426
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bronllys Hospital
- Tref
- Bronllys
- Cyflog
- £67,583 - £78,530 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/05/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Partner Busnes Cyllid
Gradd 8a
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Partner Busnes Cynorthwyol Cyllid ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae hwn yn gyfle gwych i gyfrifydd sydd ag egni, brwdfrydedd, ymrwymiad ac awydd i weithio o fewn tîm cyllid bywiog a blaengar sy’n cefnogi ystod o weithrediadau.
Mae hon yn rôl allweddol o fewn yr uwch dîm cyllid, yn gweithio gydag uwch rheolwyr o fewn y Bwrdd Iechyd. Yn ogystal â gweithio gyda Llywodraeth Cymru (LlC) a phartneriaid ar draws Cymru.
Bydd y Partner Busnes Cynorthwyol Cyllid yn adrodd yn uniongyrchol i'r Partner Busnes Cyllid sy'n gyfrifol am swyddogaethau Corfforaethol a Gofal Sylfaenol, i gefnogi'r gwaith o gydlynu a darparu cymorth busnes rheoli ariannol strategol o ansawdd uchel a chadarn a chymorth ariannol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid ar gyfer cyfarwyddiaethau Gofal Sylfaenol a Chorfforaethol y Bwrdd Iechyd, yn ogystal â swyddogaeth Partner Busnes Cyllid yn ei chyfanrwydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r rôl hon yn cefnogi'r Partneriaid Busnes Cyllid i ddarparu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ariannol broffesiynol ar gyfer gweithgareddau Cyfarwyddiaeth/au (neu faes cyllideb ddynodedig arall) i'w galluogi i osod a rheoli cyllidebau a chyllid er mwyn sicrhau bod targedau a chynlluniau ariannol yn cael eu cyflawni'n effeithiol ac yn rhagweithiol.
Bydd yn adrodd i'r Partner Busnes Cyllid ac yn disgwyl gweithio'n agos gyda deiliaid cyllidebau’r Gyfarwyddiaeth i ddarparu cymorth wrth gyflwyno'r agenda cyllid. Efallai y gofynnir i ddeiliad y swydd ddirprwyo, fel y bo'n briodol.
Darparu cyngor a chymorth ariannol i'r prosesau cynllunio ariannol a busnes yn y meysydd gwasanaeth a gefnogir. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth ariannol wrth ddatblygu Achosion Busnes Strategol a datblygu modelau gwasanaeth ac ariannol cymhleth.
Cefnogi'r Bwrdd Iechyd ar gomisiynu a llifoedd trawsffiniol, yn ôl yr angen, gan gynnwys gweithredu fel arweinydd cyllid ar gyfer darparwyr dynodedig. Darparu cymorth ariannol proffesiynol ar gyfer rhaglenni gwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant o fewn y Gyfarwyddiaeth. Dwyn cyfrifoldeb arweiniol ar y cyd o ddydd i ddydd am reoli'r Tîm Partneriaeth Busnes Cyllid, gan gynnwys cynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith, wrth ymgorffori a hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio a chychwyn technegau rheoli newid lle bo angen.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig; ond hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad unrhyw Gymraeg, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau, peidiwch â phoeni: bydd y bwrdd iechyd yn eich cefnogi gyda hyfforddiant.
Gallwch ddod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu dilynwch y ddolen "Gwneud cais nawr" ar Trac.
Mae'r Adran Gyllid yn gweithredu model gweithio hybrid, lle mae pob aelod o'r tîm yn gweithio o'r swyddfa ym Mronllys o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- • CCAB qualified • Further specialist training and experience e.g. NHS Finance Academy • Educated to master’s degree level or demonstrable equivalent level of experience • Experience of planning and implementing long-term strategy • Evidence of continual professional development
Experience
Meini prawf hanfodol
- Essential • Significant experience at a strategic senior level within a large complex organization • Delivering challenging financial plans including large Cost Reduction/Savings Programmes • Understanding of the political agenda for Health and Social Care • Planning and implementing long-term strategy • Evidence of successfully introducing service improvement or successful management of significant organizational change in a complex environment • Demonstrable success in building, leading, motivating, managing and developing teams and working with representatives and trade unions/professional organisations
Meini prawf dymunol
- Desirable • Experience of working across various public and private organizations • Experience of working within organizations at a strategic/board level, leading teams within the financial sector • Evidence of developing and interpreting policies from National guidance
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tim Humberstone
- Teitl y swydd
- Ass Finance Dir - Partnering & Transformation
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







