Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Adnoddau
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AC005-0125-B
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Bronllys
- Tref
- Bronllys
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynghorydd Adnoddau
Gradd 5
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn rheoli'r Tîm Adnoddau ac yn sicrhau bod gwasanaeth recriwtio a staffio Banc ymatebol yn cael ei ddarparu i'r Bwrdd Iechyd. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod prosesau, systemau a pholisïau effeithiol yn cael eu defnyddio i gefnogi a galluogi lefelau staffio a chymysgedd sgiliau digonol drwy ddefnyddio a recriwtio Staff Dros Dro.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bod yn gyfrifol am reoli'r tîm Adnoddau sy'n cynnwys staff Recriwtio a Banc. Bydd y Cynghorydd Adnoddau yn gweithio'n annibynnol i reoli'r modd y darperir y gwasanaeth, gan gyfeirio materion i'r Rheolwr Adnoddau fel y bo'n briodol. Bydd y rôl yn cydweithio â gwasanaethau a thîm y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol i sicrhau bod prosesau cost-effeithiol ac effeithlon ar waith wrth ddefnyddio Staffio Dros Dro.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd yn gyfrifol am reoli'r Tîm Adnoddau o ddydd i ddydd, gan ddarparu
gwasanaeth o ansawdd i staff a darpar ymgeiswyr Banc, gan ddangos
ymrwymiad y sefydliad i Wella Bywydau Gwaith, hyblygrwydd a datblygu staff. Bydd y Cynghorydd Adnoddau yn sicrhau bod darpar gyflogeion a gweithwyr yn cael profiad ymgeisydd rhagorol drwy gydol y broses gyfathrebu â'r tîm a bydd yn cefnogi rheolwyr i sicrhau bod hyn yn parhau drwy gydol eu profiad recriwtio, gan roi argraff gadarnhaol i ymgeiswyr o'r Bwrdd Iechyd. Yn y rôl bydd deiliad y swydd yn arwain y gweithgareddau canlynol:
Holl weithgarwch recriwtio gweithwyr Banc, gan gynnwys trefnu prosesau llunio rhestr fer a chyfweld
Sicrhau bod systemau cadarn ar waith i reoli gwiriadau cyn cyflogi, gan
gynnwys cyfarfodydd dilysu ar gyfer yr holl weithgarwch recriwtio
Darparu cymorth i reolwyr mewn perthynas â gweithgarwch recriwtio
cyffredinol, gan gynnwys cyfeirio fel y bo'n briodol at dîm Recriwtio
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Rheoli a chydlynu gweithgarwch Staffio Dros Dro o ddydd i ddydd (staffio Banc ac Asiantaethau)
Darparu cyngor mewn perthynas ag ymholiadau Recriwtio a Staffio Dros Dro cymhleth, gan gyfeirio ymholiadau yn ôl y gofyn i'r Cynghorydd
Adnoddau
Bydd gofyniad o fewn y rôl i weithio ar benwythnosau a gwyliau banc ar sail ad hoc yn seiliedig ar anghenion y gwasanaethau. Bydd hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl a bydd rhybudd yn cael ei ddarparu cyn belled ymlaen llaw â phosibl, fodd bynnag, weithiau, gall hyn ddigwydd ar fyr rybudd rhesymol. Gallai gwaith o'r fath fod ar sail Ar Alwad, rota neu oriau ychwanegol.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Degree level education in HR related subject or equivalent knowledge and experience
- Developed knowledge of recruitment legislation and processes
- Knowledge and understanding of Employment legislation, in particular, legislation relating to workers
- Excellent IT knowledge – including word processing, spreadsheet, PowerPoint – ECDL equivalent
Meini prawf dymunol
- Associate member of CIPD
- Knowledge of rostering practices and systems
Experience
Meini prawf hanfodol
- Significant experience of working within a Temporary Staffing function or similar area
- Significant experience of managing recruitment processes
- Delivering and planning work activity, sometimes within short timescales
- Working with stakeholders in the development and implementation of processes and procedures
- Managing or supervising staff
- Experience of data management and use of electronic information systems
Meini prawf dymunol
- Working and implementing E-Systems or similar
- Supporting Employee Relations related cases, e.g. conduct matters, grievances
Aptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Able to demonstrate situations where effective stakeholder and collaborative working have been used to achieve goals
- Able to demonstrate tact and diplomacy when working with others
- Able to demonstrate ability to analyse and summarise information
- Demonstrable effective communication skills, both written and verbal
- Ability to work under pressure to tight deadlines and delivering outcomes to tight timescales
- Ability to prioritise and work flexibly to the needs of the service
- An innovative approach to problem solving and resolution
- Well-developed interpersonal skills
Values
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate PTHB Values
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel within geographical area
- Able to work hours flexibly, including occasional weekend / Bank holiday working and On Call
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Eleanor Davies
- Teitl y swydd
- Resourcing Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 712580
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector