Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapiau
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (5 diwrnod yr wythnos)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-ACS041-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Coffa Llandrindod
- Tref
- Llandrindod Wells
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Therapi Cynorthwyol
Gradd 4
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Therapi Cymunedol yn Ysbyty Llandrindod Wells, canolbarth Powys. Rydym yn chwilio am Ymarferydd Therapi Cynorthwyol Band 4 rhan amser i ymuno â’n tîm sefydledig, cyfeillgar a phrofiadol.
Bydd y rôl yn gofyn am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd â'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos menter, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu da, yn gallu blaenoriaethu llwyth achosion mewn lleoliad cymunedol prysur.
Os ydych wedi cael profiad mewn rôl Cynorthwyydd Therapi, ac yn awyddus i ddatblygu eich gyrfa ymhellach, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel aelod o’r Tîm Therapïau dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth Arweinydd y Tîm Therapi Galwedigaethol a/ neu Ffisiotherapi i sicrhau bod gwasanaeth adsefydlu effeithlon ac effeithiol yn cael ei ddarparu i drigolion Powys.
Bydd deiliad y swydd yn asesu, gweithredu, trin a symud cleifion ymlaen yn unol â phrotocolau a threfn triniaeth cytunedig, dan oruchwyliaeth y therapydd cymwysedig. Bydd hyn yn cynnwys gweithio mewn arena amlddisgyblaeth ac amlasiantaeth, ochr yn ochr ag aelodau eraill o’r timau therapi a chymunedol.
Atal y claf rhag gorfod mynd i mewn i’r ysbyty trwy weithio tuag at y nodau therapi y mae’r claf a’r therapydd cymwysedig wedi’u nodi.
Bydd deiliad y swydd yn cydnabod ei gyfyngiadau/ ei chyfyngiadau ac yn mynd ati i geisio cyngor fel bo angen i gyflenwi rhaglen adsefydlu sy’n canolbwyntio ar y cleient. Bydd goruchwylio a chefnogi staff iau yn rhan o’r rôl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Level 4 NVQ / A-levels / BTEC in a health care associated certificate/ Diploma in Occupational Therapy Support / Physiotherapy Rehabilitation or Level 3 NVQ / A-Levels / BTEC in a health care associated certificate / Diploma in Occupational Therapy Support / Physiotherapy Rehabilitation/ For internal candidates evidence of Agored Cymru
- Good understanding of theoretical concepts of Occupational Therapy and Physiotherapy
- Numeracy and literacy skills
Meini prawf dymunol
- Evidence of continuing personal development relevant to the role in health care
- Local knowledge of statutory and voluntary services
Experience
Meini prawf hanfodol
- Interpersonal and communication skills
- Experience in providing care and undertaking clinical observations
Meini prawf dymunol
- Evidence of working across statutory and voluntary organisations
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Evidence of working as part of a team
- Ability to work independently and to seek appropriate advice
- Ability to make decisions
- Ability to work under pressure
- Good communication skills both written and verbal
- Ability to utilise a full range of Microsoft packages or similar
Meini prawf dymunol
- Ability to diffuse difficult/threatening situations
Values
Meini prawf hanfodol
- Ability to manage stressful situations
- Ability to demonstrate compassion within the role
- Be able to demonstrate patient-focussed care
- Can demonstrate self-motivation, pro-activity and resourcefulness
- Demonstrates confidence and assertiveness
- Ability to engage with members of the public
- Able to work in a multi-agency arena
Other
Meini prawf hanfodol
- Able to work hours flexibly
- Can demonstrate an understanding of Health and Safety issues
- Ability to travel
Meini prawf dymunol
- Ability to speak or learn Welsh
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Liz Harte
- Teitl y swydd
- Occupational Therapist Team Lead Mid Powys
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01597 828762
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sian Young
Arweinydd Tim-Ffisiotherapydd
01874615724
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector