Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Awdioleg
- Gradd
- Band 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-ACS052-0826-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- LLandrindod Wells War Memorial Hospital
- Tref
- Llandrindod Wells
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Cyswllt Mewn Awdioleg- MEWNOL
Band 4
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Bydd yr Ymarferydd Cyswllt mewn Awdioleg yn darparu ymyriadau ag
anableddau/ patholegau clyw cyffredin / anghymleth. Bydd hyn yn cynnwys datblygu cynllun gofal / cynllun rheoli unigol gydag atebolrwydd priodol i’r Awdiolegydd. NID yw’r Awdiolegydd Cyswllt yn ymarferydd annibynnol a rhagwelir y bydd rhywfaint o oruchwyliaeth glinigol a mentora wedi’i gynllunio yn ystod amserlen arferol y diwrnod gwaith. Gall y rôl gynnwys rhai dyletswyddau gweinyddol yn amodol ar anghenion y gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu a chynorthwyo ag adsefydlu cymhorthion clyw sylfaenol i oedolion a chyflawni cynllun rheoli personol y claf (dan oruchwyliaeth anuniongyrchol).
Bydd disgwyl ichi berfformio archwiliadau awdioleg arferol fel awdiometreg Puretone ar gyfer ailasesu/ adolygu cymhorthion clyw, tympanometreg, argraffiadau o’r glust a rhaglennu a gwerthuso systemau cymhorthion clyw a fyddai’n cynnwys gwir fesuriadau’r glust dan raglenni mentora.
Efallai y bydd gofyn cymryd rhan mewn asesu awdioleg bediatrig a chynorthwyo â hyn, a chynnal sgrinio mewn ysgolion pan fo angen a darparu gwasanaeth cartref ar gyfer cleifion sy’n gaeth i’r tŷ.
Cydnabod cyfyngiadau’ch cymhwysedd a’ch lefelau cyfrifoldeb ac annibyniaeth bob amser o fewn cwmpas cymeradwy yr arfer.
Cynnal eich cymhwysedd personol eich hun a gweithio fel ymarferydd myfyrgar i gyflawni gofal cleientiaid o ansawdd uchel.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig; ond hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad unrhyw Gymraeg, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau, peidiwch â phoeni: bydd y bwrdd iechyd yn eich cefnogi gyda hyfforddiant.
Manyleb y person
Cymwysterau a / neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg ar lefel gyffredinol dda
- Cymhwyster BTEC/ NVQ3 neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
- Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd neu gyfwerth
- Bod â Gradd Sylfaenol mewn Awdioleg neu’n gweithio tuag at un neu gymhwyster cyfwerth
- Gwybodaeth o system rheoli cleifion Awdioleg, sef Auditbase
- Gwybodaeth o safonau awdioleg bediatrig ac awdioleg oedolion
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfathrebu â phobl o bob oedran sydd â nam ar eu clyw a’u teuluoedd
- Hyddysg mewn cyfrifiadura
- Gallu amsugno a defnyddio gwybodaeth newydd
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
- Gallu dangos sgiliau trefnu da a sgiliau blaenoriaethu ar gyfer eich llwyth gwaith eich hun a llwyth gwaith pobl eraill
Sgiliau a rhinweddau
Meini prawf hanfodol
- Dangos Gwerthoedd BIAP
- Computer literate
- Absorb and apply new information
- Flexible and able to adapt to changing circumstances
- Prioritise own workload
- Resilient
Meini prawf dymunol
- Some ability to speak, read and/or write Welsh, or an eagerness to learn
- Good organisational skills
- Deaf awareness
Arall
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg at waith
- Gallu blaenoriaethu’ch tasgau a’ch llwyth gwaith eich hun
- Gallu teithio rhwng safleoedd
- Bydd gofyn gweithio mewn ystafelloedd neu fythod gwrthsain
Meini prawf dymunol
- Gallu addasu i amgylchiadau newidiol
- Cydnerth
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Damion Duggan
- Teitl y swydd
- Advanced Audiology Practitioner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874615691
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







