Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Deintyddol
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (7.5 awr y dydd)
Cyfeirnod y swydd
070-ACS054-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Llandrindod Wells
Tref
Llandrindod Wells
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/09/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Nyrs Ddeintyddol (Gofal Cartref)

Gradd 4

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Nyrs Ddeintyddol frwdfrydig a thosturiol ymuno â'r tîm gofal cartref o fewn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol. Mae'r swydd amser llawn Band 4 hon yn cynnig y cyfle i gefnogi'r ddarpariaeth o ofal deintyddol i ystod eang o gleifion ledled Powys, gan gynnwys y rhai a allai wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at wasanaethau traddodiadol mewn clinigau.

Gan weithio fel rhan o dîm deintyddol ymroddedig a chefnogol, bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth ac yn cyfrannu at ddarparu gofal yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil a fydd yn addas i rywun sy'n mwynhau gweithio'n hyblyg, meithrin perthnasoedd cadarnhaol, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion a chymunedau ledled Powys.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n bennaf o glinig yn Llandrindod, a bydd disgwyl iddo weithio'n hyblyg ar draws gwahanol leoliadau lle darperir triniaeth ddeintyddol. 

Bydd deiliad y swydd yn datblygu perthnasoedd gwaith cryf gyda chydweithwyr ar draws y tîm deintyddol, yn ogystal â chleifion, rhieni, gwarcheidwaid, darparwyr addysg, canolfannau dydd, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau deintyddol eraill, Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol, ysbytai, ymarferwyr meddygol, gofalwyr, cartrefi gofal, cartrefi nyrsio a chyflenwyr deunyddiau deintyddol.

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio fel rhan o’r tîm Deintyddol, yn paratoi a monitro cleifion ar gyfer, ac yn ystod eu triniaeth, gan ddarparu cyfarwyddiadau cyn ac ar ôl y llawdriniaeth.

Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn gyfrifol am greu a chynnal amgylchedd er mwyn darparu ansawdd uchel o ofal i gleifion. 

Fel rhan o’r rôl wobrwyol hon, bydd gofyn am weithio'n annibynnol wrth ragweld offerynnau sy'n ofynnol yn ystod triniaethau a gyflawnir gan y clinigydd, cymysgu deunyddiau, a dal offerynnau yn eu lle.

Byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig; ond hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad unrhyw Gymraeg, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau, peidiwch â phoeni: bydd y bwrdd iechyd yn eich cefnogi gyda hyfforddiant.

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

 

 

Manyleb y person

Qualification / Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • National certificate for DN's or equivalent
  • Registered with GDC
  • Evidence of continued professional development
Meini prawf dymunol
  • Post basic certificate in any of the following Sedation, SC, Radiography, Oral Health, Orthodontics
  • Knowledge of the role of the CDS

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Experience of being competent in Dental Administration, prioritising tasks and managing deadlines
  • Keyboard skills, outlook, word, Excel
Meini prawf dymunol
  • Experience of working with the public, special care pts and the elderly
  • Experience of working in an environment where tact, diplomacy and confidentiality required

Aptitude and abilities

Meini prawf hanfodol
  • Ability to work and relate to children and special needs
  • Ability to use initiative in emergency situations
  • Ability to develop good working relationships
  • Ability to prioritise and organise clinc/surgery
  • Self motivated and able to motivate patients
  • Team player
Meini prawf dymunol
  • Some ability to speak, read and/or write Welsh, or an eagerness to learn.
  • Self management and planning skills
  • Experience of commitment to QA and Audit

Values

Meini prawf hanfodol
  • Good written and verbal communication skills, with people from a variety of backgrounds
  • Support and demonstarte PTHB values
  • Able to work autonomously

Other

Meini prawf hanfodol
  • Ability to travel in a timely manner to other locations

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jacqui Bennett
Teitl y swydd
Senior Dental Nurse
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07754452313
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg