Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Administration
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AC045-0426
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Plant Ynys-y-Plant.
- Tref
- Y Drenewydd
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/04/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Gweinyddu Gwasanaethau Plant
Gradd 2
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fel Cynorthwyydd Gweinyddol o fewn ein tîm Gwasanaethau Plant.
Bydd y rôl hon yn bennaf yn cefnogi'r Gwasanaeth Pediatreg Cymunedol, sy'n darparu asesiad, diagnosis a rheolaeth barhaus i blant a phobl ifanc ledled Powys. Darperir y gwasanaeth gan dîm o Bediatregwyr Cymunedol o fewn y Gyfarwyddiaeth Bydwreigiaeth, Iechyd Menywod a Theuluoedd, gan weithio fel rhan o ddull system gyfan i ddiwallu anghenion iechyd plant a phobl ifanc.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth trwy ddarparu cefnogaeth weinyddol o ansawdd uchel, effeithlon a chyfrinachol i dimau clinigol.
Yn ogystal â chefnogi Pediatreg Cymunedol, byddwch hefyd yn darparu cefnogaeth weinyddol i Wasanaethau Plant ehangach, yn ôl yr angen.
Mae hwn yn gyfle ardderchog i unigolyn brwdfrydig a threfnus ymuno â thîm cyfeillgar a chefnogol, gan gyfrannu at ddarparu gofal o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ledled Powys.
Prif ddyletswyddau'r swydd
• Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr adran. Ateb galwadau ffôn, cymryd negeseuon yn gywir.
• Ymdrin ag ymholiadau arferol ac arbenigol mewn modd dymunol a chymwynasgar, cyfleu gwybodaeth berthnasol i'r adrannau/person perthnasol, cyfeirio at eraill yn ôl yr angen.
• Diweddaru systemau electronig a phapur fel WCCIS (System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru) a WPAS (System Gweinyddu Cleifion Cymru), casglu gwybodaeth, dosbarthu a chofnodi post ac ati.
• Llungopïo a phrosesu geiriau dogfennau, llythyrau, e-byst, cofnodion ac adroddiadau pan fo angen.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://pthb.nhs.wales/working-for-us/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Qualifications and Experience
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel TGAU neu lythrennedd/rhifedd ar Lefel 1 neu gyfwerth
- Cymhwyster RSA/OCR II neu sgiliau dangosadwy cyfatebol
Meini prawf dymunol
- NVQ Gweinyddu Busnes Lefel 2
- Gwybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gynhyrchu gohebiaeth
- Profiad o wasanaeth cwsmeriaid / cymorth pwynt cyswllt cyntaf
- Hyfedredd profedig wrth ddefnyddio meddalwedd TG
- gwybodaeth am arferion swyddfa a'r gallu i sefydlu prosesau newydd
Meini prawf dymunol
- profiad blaenorol mewn amgylchedd swyddfa
Skills and Attributes
Meini prawf hanfodol
- Dangos gwerthoedd PTHB
- Gweithio fel rhan o dîm neu fel unigolyn
- Agwedd gadarnhaol a'r gallu i weithredu ar adborth
- Cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol
- Y gallu i fod yn gwrtais wrth ddelio â phobl anodd, ddiamynedd neu ofidus
Meini prawf dymunol
- Lefel 1 Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rebecca James
- Teitl y swydd
- Service Improvement and Business Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







