Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deintyddol
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (7.5 awr y dydd)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-ACS057-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Strydd y Parc, Y Drenewydd
- Tref
- Y Drenewydd
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nrys Ddeintyddol
Gradd 4
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Mae yna gyfle cyffrous newydd i Nyrs Ddeintyddol gofrestredig ymuno â’r tîm gwasanaeth deintyddol cymunedol, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ansawdd y gofal. Mae’r tîm yn cynnwys pobl brofiadol sy’n Ddeintyddion, Nyrsys Deintyddol, Therapyddion Deintyddol a staff gweinyddol, lle anogir cymysgu sgiliau. Bydd angen ichi fod yn frwdfrydig a llawn cymhelliant, a meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol. Bydd prif ddeintyddfa deiliad y swydd ym Drenewydd, 15 awr yr wythnos, a bydd disgwyl iddo/iddi deithio i leoliadau clinigau eraill o leiaf unwaith yr wythnos.
Mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn cynnwys ystod eang o leoliadau, arbenigeddau a gwasanaethau, gan gynnwys gofal deintyddol sylfaenol, gofal eilaidd dan arweiniad ymgynghorwyr, anghenion arbennig a chleifion grwpiau blaenoriaeth yn y clinig a lleoliad y cartref. Mae hyn yn cynnwys Ysgolion, cartrefi nyrsio a phreswylio, arolygon epidemiolegol, a hybu/addysgu iechyd y geg.
Anogir a chefnogir hyfforddiant, datblygiad a chymysgu sgiliau'r gweithlu deintyddol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Nyrs Ddeintyddol yn gweithio fel rhan o’r tîm, yn cynorthwyo clinigwyr yn y Gwasanaeth Deintyddol, yn ogystal â threfnu a chefnogi’r clinigydd ag unrhyw ymweliadau â’r cartref, sgrinio, epidemioleg a rhaglenni ymchwil. Bydd disgwyl iddo/ iddi weithio’n annibynnol, gan geisio cyngor lle bo angen. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd wneud yr holl ddyletswyddau clercaidd a gweinyddol cysylltiedig i sicrhau bod y clinig/ yr adran yn gweithredu’n effeithlon.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig; ond hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad unrhyw Gymraeg, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau, peidiwch â phoeni: bydd y bwrdd iechyd yn eich cefnogi gyda hyfforddiant.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Aptitude and abilities
Meini prawf hanfodol
- Ability to work and relate to children and apecial needs
- Ability to use initiativein emergency situations
- Ability to develop good working relationships
- Ability to prioritise and organise clinc/surgery
- Self motivated and able to motivate patients
- Team player
Meini prawf dymunol
- Some ability to speak, read and/or write Welsh, or an eagerness to learn.
- Self management and planning skills
- Experience of commitment to QA and Audit
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel in a timely manner to other locations
Values
Meini prawf hanfodol
- Good written and verbal communication skills, with people from a variety of backgrounds
- Support and demonstarte PTHB values
- Able to work autonomously
Experience
Meini prawf hanfodol
- Experience of being competent in Dental Administration, prioritising tasks and managing deadlines
- Keyboard skills, outlook, word, Excel
Meini prawf dymunol
- Experience of working with the public, special care pts and the elderly
- Experience of working in an environment where tact, diplomacy and confidentiality required
Qualification / Knowledge
Meini prawf hanfodol
- National certificate for DN's or equivalent
- Registered with GDC
- Evidence of continued professional development
Meini prawf dymunol
- Post basic certificate in any of the following Sedation, SC, Radiography, Oral Health, Orthodontics
- Knowledge of the role of the CDS
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jacqui Bennett
- Teitl y swydd
- Senior Dental Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754452313
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector







