Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nursing
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Cyfnod Penodol: 2 flynedd (Mae'r cyllid ar gyfer contract 2 flynedd)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 070-NMR075-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Sir Drefaldwyn
- Tref
- Y Drenewydd
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Lead Frailty Nurse Practitioner in Primary and Community Care
Gradd 8a
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 2 MIS OHERWYDD CYLLIDO.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae gennym gyfle newydd cyffrous i Uwch Ymarferydd Nyrsio (Band 8a) sydd â phrofiad ac angerdd gwirioneddol am ofal eiddilwch ymuno â'n tîm ar gontract tymor penodol 2 flynedd.
Uchafbwyntiau’r Rôl:
Arwain tîm bach wrth asesu a chynllunio gofal sy'n canolbwyntio ar y person yn gyfannol ac yn gynhwysfawr.
Cydlynu a darparu cymorth hanfodol i rai o'n poblogaethau mwyaf eiddil.
Cefnogi cleifion i aros gartref yn ddiogel am gyfnod hirach, a lleihau derbyniadau diangen i'r ysbyty.
Chwarae rôl allweddol wrth gefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau eiddilwch.
Fel clinigydd ymreolaethol, gyda sgiliau clinigol a chyfathrebu rhagorol y gellir eu profi, gan ddefnyddio eich profiad o weithio gyda phoblogaethau eiddil ar draws lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, byddwch yn arwain tîm bach wrth lywio a chydlynu gofal i'r rhai sydd ag anghenion meddygol cymhleth eiddil.
Tra'n gweithio'n agos gydag uwch gydweithwyr ar draws gofal sylfaenol a chymunedol, byddwch yn cefnogi datblygiad a llunio'r gwasanaethau eiddilwch, adeiladu rhwydwaith o gymorth cymunedol mewn partneriaeth â'r timau amlddisgyblaethol cymunedol, meddygfeydd, y Trydydd Sector, Gofal Cymdeithasol, y tu allan i oriau a darparwyr gwasanaethau brys.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynorthwyo'r gwasanaeth Gofal Sylfaenol a Chymunedol i ddatblygu a sicrhau darpariaeth gadarn a chynaliadwy o wasanaethau Nyrsio Eiddilwch Gofal Sylfaenol a Chymunedol. Gweithredu fel arweinydd clinigol gweladwy cryf a fydd yn cefnogi ac yn llywio darpariaeth y gwasanaeth Nyrsio Eiddilwch ar draws sawl tîm clinigol, gan gynnwys Nyrsys, Gweithwyr Gofal Iechyd anghofrestredig a staff Gweinyddol. Gweithio gyda gwasanaethau Nyrsio Gofal Sylfaenol a Chymunedol i arwain ar ddarparu arweiniad clinigol a chyfeiriad i wasanaethau Nyrsio Eiddilwch trwy oruchwylio a datblygu gwasanaethau clinigol.
Bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau teg Nyrsio Eiddilwch i gleifion ar draws BIAP Gogledd Powys. Cychwyn cynllunio, gwerthuso ac archwilio ymarfer, llwybrau clinigol a phrotocolau ar gyfer Gwasanaethau Nyrsio Eiddilwch Gofal Sylfaenol a Chymunedol. Darparu arweinyddiaeth a chymorth arbenigol wrth asesu a thrin cleifion cymhleth, gan ddarparu cyngor, arweiniad ac addysgu ar gyfer staff llai profiadol ar draws clwstwr gogledd BIAP. Sicrhau bod safon gwasanaethau Nyrsio Eiddilwch yn bodloni gofynion Llywodraethu Clinigol fel y nodir gan BIAP a safonau lleol a chenedlaethol cydnabyddedig eraill. Monitro gweithredu Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Nyrsio Eiddilwch ar draws Clwstwr Gogledd Powys ac i sicrhau bod pob tîm gweithredol yn ymwybodol o ddatblygu camau gweithredu lleol a chenedlaethol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Lleoliad: Lleoliadau cymunedol gwledig a threfol sy'n cwmpasu’r Trallwng, Trefaldwyn, Y Drenewydd a Llanfair Caereinion.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Evidence of specialist knowledge and application of current best practice
- Resolution of professional/ethical issues
- Ability to work under pressure and set priorities
- Understands current policy and practice and implications for Community Frailty Nursing Service
Meini prawf dymunol
- Ability to coordinate intra and inter professional projects
- Research skills
- Experience of critical appraisal of research and best practice guidelines, with appropriate application to clinical work
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Master’s level qualification or demonstratable equivalent experience
Experience
Meini prawf hanfodol
- Master’s level qualification or demonstratable equivalent experience
- Evidence of advanced level study and advanced level practice (including Level 7 clinical examination, clinical diagnostics and v300 independent nurse prescriber qualifications)
- Expert knowledge/previous experience working with frailty
- Live registration with the NMC as Registered Nurse/degree in Nursing or other health related subject or equivalent degree level relevant experience
- Management / Leadership qualification or equivalent preparation
- Knowledge of current Nursing issues within NHS care systems
- High level of knowledge of NMC code of conduct and professional standards / guidance
- Experience of taking a clinical lead role within an appropriate setting
- Evidence of planning and decision making
Meini prawf dymunol
- To have managed complex patient situations where negotiation and clinical reasoning were necessary to result in an appropriate outcome
- Experience of critical appraisal of research and best practice guidelines, with appropriate application to clinical work
- Ability to speak Welsh
- Ability to coordinate intra and inter professional projects
- To have acted as a Mentor / coach for other person within the profession
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Linzi Shone
- Teitl y swydd
- Professional Head of Nursing
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07970 257069
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector