Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapydd
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (To include 7 day working)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AHP082-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Aberhonddu
- Tref
- Aberhonddu
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ffisiotherapydd
Band 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n chwilio am her newydd? Gallwch fod yn rhan allweddol o Fwrdd Iechyd arloesol cyffrous sydd â'r nod o ddarparu "Gofal integredig sy'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn". Mae cyfle cyffrous wedi codi i ffisiotherapydd niwrolegol ymuno â'n gwasanaeth ffisiotherapi gan weithio ar draws de Powys.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â’r awydd i weithio o fewn tîm ysgogol a brwdfrydig sy’n blaenoriaethu darparu gwasanaeth adferiad arbenigol strôc a niwroleg i gleifion mewnol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Ffisiotherapydd Niwrolegol Arbenigol Clinigol De Powys. Bydd hefyd cyfle i ymgysylltu o fewn rhwydwaith o ffisiotherapyddion arbenigol ym maes strôc a niwro ledled Powys. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn rhan o dîm amlddisgyblaethol sy’n arbenigo yn niwro ledled Powys, gan gynnwys Therapydd Ymgynghorol ar gyfer Strôc a Niwroadsefydlu, sy'n gyfrifol am nodi, datblygu a chyflawni gwelliannau parhaus i wasanaethau yn y Cynlluniau Cyflawni ar gyfer Strôc a Chyflyrau niwrolegol. Bydd yr ymgeisydd yn rhan o'r gwasanaethau Ysgogi Trydanol Hwylusedig (FES) a Gwasanaethau Spasticity.
Bydd angen arnoch sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, dull gweithio hyblyg a sgiliau trafod er mwyn ysgogi cleifion a staff i ddarparu ansawdd uchel o ofal.
Byddwch yn gweithio’n agos fel rhan o Dîm Amlddisgyblaethol o fewn BIAP a Gwasanaethau cymdeithasol, y ward rithwir llwyddiannus a chefnogi integreiddio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyffredinol
Gweithio fel rhan annatod a gweithgar o'r tîm therapi ac amlddisgyblaethol. Bydd yr ymgeisydd lwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi'r tîm therapi i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y claf yn effeithlon.
Yn benodol i’r rôl
Mae prif gyfrifoldebau’r rol yn cynnwys darparu adsefydlu cleifion mewnol fel rhan o fodel mewn-gymorth i Ysbyty Machynlleth, yn ogystal a dal llwyth o achosion cymunedol yn annibynnol. Seilid y swydd yn Ysbyty'r Drenewydd.
Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, bod ag agwedd hyblyg at waith a sgiliau cyd-drafod i gymell cleifion a staff i ddarparu safonau uchel o ofal. Cyfrannu at ddatblygu gwasanaeth, mentora staff iau, ffisiotherapyddion dan hyfforddiant a dirprwyo cynlluniau adsefydlu i alluogi adsefydlu gweithredol. Mae'r tîm yn darparu gwasanaeth 7 diwrnod a disgwylir i'r holl staffi weithio rhai penwythnosau. . Byddwch yn hyblyg ar adegau o alw cynyddol am y gwasanaeth. Cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio, datblygu a gwerthuso gwasanaeth therapi cymunedol, gan fod yn gyfrifol am brosiectau diffiniedig. Rydym yn cefnogi DPP, hyfforddiant o fewn y swydd, goruchwyliaeth glinigol a datblygiad gyrfa. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg wneud cais
Gweithio i'n sefydliad
Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch a thim y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]
Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG a phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweler yng nghlwm y Disgrifiad swydd a manyleb y person i gael rhagor o wybodaeth am y rôl a'r meini prawf hanfodol a dymunol y mae'n ofynnol i ymgeiswyr eu bodloni.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio yn y gymuned ac felly bydd angen trwydded gyrru a mynediad i gerbyd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Saesneg a Chymraeg wneud cais.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon ac angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â Sian Young ar 01874 615724.
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- BSc (Hons) Physiotherapy
- HPC registration
- Evidence of relevant post graduate study and personal development – CPD portfolio Membership of CSP
- Broad working knowledge of Physiotherapy techniques across all aspects of treatment
- Specialised knowledge in care of elderly and neurological conditions and general rehabilitation
- Ability to keep legible, clear and concise notes
Meini prawf dymunol
- Post graduate courses
- Evidence of involvement with relevant Clinical Interest group(s)
Experience
Meini prawf hanfodol
- Broad range of band 5 experience
- Experience working with elderly
- Experience of working with Junior staff/ assistants/ students and to develop other staff both formally and informally
- Evidence of Involvement in research/ audit Good presentation/ teaching skills
Meini prawf dymunol
- Experience of working in a community setting
Skills
Meini prawf hanfodol
- IT
- Team Work
- Communication
Meini prawf dymunol
- Service Development
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mair Jones
- Teitl y swydd
- Team Lead Occupational Therapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01686 617220
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sian Young
01874615724
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector