Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapies
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener 08:30-16:30 / 09:00-17:00)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AC068-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty'r Drenewydd
- Tref
- Y Drenewydd
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 12/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cydlynydd Hwb Therapïau
Gradd 3
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am ddau unigolyn brwdfrydig i ymuno â'n tîm i ymgymryd â rôl y Cydlynydd Hwb Therapïau, sydd wedi'i leoli yn yr Hyb Therapïau yn Ysbyty'r Drenewydd.
Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol ar ddeiliad y swydd, gan gysylltu â chleifion a chlinigwyr dros sawl sianel hy ffôn, e-bost.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n gadarnhaol ac yn hyblyg i gefnogi anghenion y gwasanaeth, yn llawn cymhelliant, yn barod ar gyfer yr her nesaf ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm prysur iawn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth weinyddol o fewn yr Hyb Therapïau, gan reoli rhestrau aros, archebu ac anfon apwyntiadau ar gyfer clinigau, marcio cleifion fel rhai sy'n mynychu / nad ydynt yn mynychu, mynd ar drywydd canlyniadau ac ymgymryd â chlywdeipio ar gyfer clinigau arbenigol. Bydd deilydd y swydd hefyd yn darparu ystod o ddyletswyddau clerigol yn ôl y cyfarwyddyd, yn darparu cefnogaeth a thraws-lenwi o fewn yr adran. Mae gwybodaeth am WPAS yn ddymunol ac mae profiad sain/cyffwrdd-deipio blaenorol yn hanfodol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Educated to at least GCSE level, NVQ3 or equivalent
- RSA 3 or equivalent
- Audio typing
Experience
Meini prawf hanfodol
- Computer literate demonstrated by a working knowledge of computer skills, and Microsoft Office, with the ability to master new applications
- Experienced in touch typing
- Experience in audio typing
Aptitudes and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Articulate with well-developed interpersonal skills
- Able to maintain confidentiality
- Ability to work both autonomously and as part of a team
- Excellent IT skills
- Ability to understand complex situations and information
- Knowledge of range of secretarial procedures
- Knowledge of software programmes
- Ability to work to deadlines within minimal supervision
- Effective interpersonal and communication skills
- Ability to prioritise and time manage own workload
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Values
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate PTHB Values
Other
Meini prawf hanfodol
- Continuing further development and a commitment to education / training
- Enthusiastic, motivated, and willing to be flexible
- Ability to work in a team
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Julie Evans
- Teitl y swydd
- Therapies Hub Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01686 617266
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector