Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweithiwr Cefnogaeth Gofal Iechyd
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 070-ACS057-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Maldwyn Ward - Welshpool Hospital
- Tref
- Welshpool
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/08/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweithiwr Cefnogaeth Gofal Iechyd - Maldwyn Ward - Welshpool
Gradd 2
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm o staff nyrsio yn y ward a bydd gofyn iddo gyflawni ystod o dasgau penodedig sy'n cynnwys gofal uniongyrchol ac anuniongyrchol er budd y claf, a bydd yn cefnogi ac yn cael ei oruchwylio gan Nyrs Gofrestredig.
Gweithio o fewn fframwaith cymhwysedd craidd a disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni ystod o ddyletswyddau nyrsio sylfaenol i gleifion sydd wedi'u cysylltu'n glir â gofynion hyfforddiant gofynnol sy'n darparu cymhwysedd i ymarfer.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gyflawni ystod o dasgau penodedig, gan fod yn rhan o gyflawni dyletswyddau nyrsio sylfaenol o dan oruchwyliaeth nyrs gofrestredig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio fel rhan o dîm ward sy'n cynorthwyo i ddarparu gofal nyrsio o safon uchel, gan weithredu mewn dull proffesiynol bob amser.
Cynorthwyo i faethu a hydradu cleifion yn ddigonol yn unol â chyfarwyddyd y Nyrs Gofrestredig. Cymryd rhan mewn monitro bwyd a chwblhau dogfennaeth yn gywir.
Cynorthwyo i sicrhau bod ardal y ward yn cael ei chadw'n lân ac yn daclus, e.e. cymryd rhan yn gyffredinol mewn cynnal a chadw, cadw at ganllawiau wrth waredu llieiniau budr yn unol â Pholisïau’r Bwrdd Iechyd.
Cyfathrebu'n ddyddiol â chleifion a pherthnasau, staff y ward ac ymwelwyr â’r ward, gan sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd gwrtais.
Cyfathrebu'n effeithiol â chleifion, trafod gofal gan ddefnyddio doethineb a sgiliau perswadiol, a goresgyn unrhyw rwystrau i ddeall, e.e. cleifion dall neu fyddar a chleifion ag anawsterau llefaru.
Defnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol yn y ward / adran a gyda phob aelod o'r tîm, cleifion, perthnasau a phersonél o adrannau eraill.
Bydd disgwyl i chi fynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd ward.
Cyflawni dyletswyddau nyrsio sylfaenol dan oruchwyliaeth Nyrs Gofrestredig, yn dilyn cyfnod o hyfforddiant ac ar ôl cwblhau cymwyseddau craidd.
Ymgymryd â gofal yn unol â'r safonau gofal a nodir yn yr Hanfodion Gofal.
Cynorthwyo i symud a throsglwyddo cleifion, gan ddefnyddio cymhorthion codi a chario fel y bo'n briodol i sicrhau bod staff a chleifion y mwyaf diogel posibl, yn unol â chynllun gofal unigol y claf.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Can demonstrate clear transferable skills valid to the health care setting equivalent to NVQ / QCF level 2
- Good level of general education
Meini prawf dymunol
- Possess or working towards NVQ Level II Award
- GCSEs or similar qualifications
- Previous hospital experience
Experience
Meini prawf hanfodol
- Experience of working as part of a team
Meini prawf dymunol
- Previous experience in working in a caring setting
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Ability to communicate with a range of people in both a verbal and written capacity
- Ability to keep calm in stressful situations
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Values
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate PTHB Values
- Demonstrate core caring Values
- Have a caring, kind and sympathetic attitude in line with PTHB Values
- Ability to work well as part of a team
- Ability to prioritise competing demands on time
Other
Meini prawf hanfodol
- Flexible approach to meet service needs
- Ability to adapt to different situations
- Amenable to change as required
- Ability to assist with the safe handling of patients
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Donna Jarman
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector