Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapydd
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Fixed term)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AHP083-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gogledd Powys
- Tref
- TBC
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn Pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ffisiotherapydd Arbenigol - Anadlol
Band 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL AM 12 MIS OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH.
Gweithredu fel ffynhonnell arbenigedd ym maes rheoli gofalwyr/teuluoedd cleifion yn gyfannol a darparu gwasanaeth cynghori arbenigol ac addysg i gleifion, eu gofalwyr/teuluoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, meddygon teulu, ymgynghorwyr, y sectorau gofal cymdeithasol, asiantaethau gwirfoddol ac eraill yn ôl yr angen.
Addysgu, hyfforddi a goruchwylio ffisiotherapyddion, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, cynorthwywyr adsefydlu, gweithwyr cymorth gofal cymdeithasol, staff nyrsio, ffisiotherapyddion dan hyfforddiant a/neu fyfyrwyr sy'n m
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i Ffisiotherapydd Band 6 rhan-amser ymuno â'n tîm yn y Bwrdd Iechyd. Mae'r tîm Anadlol yn darparu rheolaeth a gofal amlddisgyblaethol i gleifion sy'n oedolion, sydd ag ystod o gyflyrau anadlol, Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (sef COPD) yn bennaf, bronciectasis a chlefyd rhyng-gysylltiedig yr ysgyfaint a'r rhai sydd angen ocsigen yn y cartref a'r clinig.
Bydd y Ffisiotherapydd Anadlol yn darparu gwasanaethau adsefydlu ysgyfeiniol sy'n seiliedig ar ansawdd yn y gymuned a/neu'n ddigidol, gan ddarparu asesiad ffisiotherapi, diagnosis a chynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion sydd â chyflwr anadlol sydd wedi cael diagnosis.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli ei lwyth achosion ei hun a bydd disgwyl iddo/iddi gyfathrebu ag ystod eang o bobl, gan gynnwys cleifion a'u teuluoedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac asiantaethau allanol, gan gynnwys darparwyr acíwt y tu allan i'r sir a bydd yn ymwneud â datblygu a chynnal perthynas waith agos â'r holl randdeiliaid perthnasol.
Am fanylion pellach neu drafodaeth / ymweliad anffurfiol, cysylltwch â: [email protected], Pennaeth Proffesiynol Ffisiotherapi neu [email protected], Arweinydd Clinigol Anadlol.
Gweithio i'n sefydliad
Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch a thim y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]
Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG a phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ymdrin ag ystod o ddyletswyddau, gan gynnwys:
Gweithredu fel cynghorydd trwy ddefnyddio gwybodaeth glinigol i ddylanwadu ar y penderfyniadau yn ymwneud â gofal claf.
Cefnogi mentrau lleol i gael gwared ar rwystrau rhyngasiantaethol a chynnal cysylltiadau proffesiynol rhagorol gyda darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i hyrwyddo cyfathrebiad effeithlon ac arferion cydweithio.
I weithio o fewn a chynnal y cod ymddygiad Proffesiynol; safonau a chanllawiau ar bob adeg, gan sicrhau bod pryderon yn cael eu codi’n briodol.
I weithredu fel model rôl, yn meithrin ymagwedd broffesiynol a sicrhau bod safonau proffesiynoldeb yn cael eu gosod a’u bodloni o fewn y tîm
Cymryd camau priodol i sicrhau bod unrhyw risgiau clinigol yn cael eu nodi a'u lleihau.
I gynrychioli’r tîm ar weithgorau a phwyllgorau.
Bod yn gyfrifol ac yn atebol ar gyfer llwyth gwaith penodol, gan weithio gyda’r claf a’r Tîm Amlddisgyblaethol i leihau eu cyfnod aros a chydlynu gofal ar hyd holl leoliadau’r llwybr gofal i hwyluso rhyddhad
I gefnogi Arweinydd y Tîm wrth ddefnyddio adnoddau’n effeithlon o fewn y cyllid a daranwyd, gan gynnwys cadarnhau gwariant
Cymryd rhan yn y gwaith o recriwtio staff a chynllunio ar gyfer olyniaeth.
Bod yn hyblyg o ran patrymau gwaith, gan ddarparu cymorth i ardaloedd cyfagos fel sy'n ofynnol i gefnogi cydweithwyr a chynnal safonau gofal cleifion.
Sicrhau bod cysylltiadau cyfathrebu yn cael eu cynnal gyda’r perthnasoedd gweithio
allweddol i arddangos cwrteisi, tosturi a sensitifrwydd, gan hyrwyddo delwedd gadarnhaol o'r Bwrdd Iechyd.
Cynnig gwybodaeth, cymorth a hyfforddiant arbenigol ar ystod eang o gyflyrau gofal, opsiynau triniaeth a chanlyniadau, gan gadw mewn cof y gallai hyn fod yn annymunol, yn ofidus ac mewn rhai achosion, yn newid bywyd cleifion, a gofalwyr. Cefnogi cleifion er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud dewisiadau gwybodus.
Gweithredu fel eiriolwr dros gleifion wrth drafod gyda chydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, o ran y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer darparu gofal, cael gafael ar wasanaethau fel y bo'n briodol a rhoi ystyriaeth i ddewisiadau eraill eraill ar daith y claf.
Sicrhau bod systemau electronig ac ar bapur yn cael eu defnyddio’n addas i wella gofal cleifion.
Cyfrifoldeb i gynnal y gwaith ar gam cyntaf archwiliadau cwynion, pryderon, digwyddiadau o fewn meysydd cyfrifoldeb, gan sicrhau bod adroddiad clir ar y canlyniadau a chynlluniau gweithredu yn cael eu datblygu a’u gweithredu. Trafod cwynion a phryderon gyda chleifion, teuluoedd ac eraill er mwyn darganfod datrysiad yn lleol.
Sefydlu llwybr cyfathrebu effeithiol i sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol yn ymwybodol o'u rolau yn y cynllun gofal, mae hyn yn cynnwys y claf a gofalwyr.
Gweithredu gwelliannau i wasanaethau cleifion wrth ystyried canlyniadau’r broses monitro, archwiliad, adborth gan gleifion, arolygon cleifion, cwynion ac adroddiadau Cyngor Iechyd Cymuned, o fewn y terfyn amser y cytunwyd arno.
Datblygu'r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer systemau sy’n diogelu'r cyhoedd, gan gynnwys meysydd Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed, Trais Domestig, cysylltiadau gyda Diogelu Plant, Amddifadu o Ryddid a’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Cefnogi’r gwaith o ymchwilio i bryderon dan y polisïau penodol hyn, gan godi unrhyw bryderon gyda'r Arweinydd Tîm.
Dynodi elfennau o’r llwyth achosion i aelodau o’r Tîm Adnoddau Cymunedol, gan ystyried eu cymwyseddau a’u sgiliau.
Cefnogi'r broses o drosglwyddo gofal cleifion yn effeithiol i'r llwyth achosion a sicrhau bod gwaith asesu, cyfathrebu a chyswllt priodol i hwyluso’r broses derbyn a rhyddhau cleifion yn ddiogel.
Addysgu a grymuso cleifion a gofalwyr i nodi arwyddion cynnar o newid yn eu cyflwr a rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol iddynt i fabwysiadu dull annibynnol a gwneud dewisiadau gwybodus i reoli eu cyflwr.
Gweithio gyda chleifion a’u gofalwyr i benderfynu ac asesu anghenion y claf.
Cefnogi’r gwaith o ddatblygu cydgynlluniau gofal ysgrifenedig gydag aelodau eraill o’r tîm rhyngasiantaethol lle bo’n briodol i fodloni anghenion gofal unigol y claf.
Gwella profiad y claf trwy gefnogi’r broses o weithredu fframweithiau allweddol megis, maeth a hydradu, parch ac urddas, hanfodion gofal, amgylchedd gofal ac ati, gan sicrhau bod camau gwella wedi'u cymryd a bod modd dangos tystiolaeth ohonynt.
Cynllunio gyda'r claf/tîm gynllun rhyddhau ar gyfer pob claf, gan gynnwys gofalwyr, gwasanaethau cymunedol ac asiantaethau eraill pan fo'n briodol.
Cyfrannu at greu amgylchedd gofalgar trwy barchu preifatrwydd, urddas a chredoau ysbrydol cleifion a sicrhau bod barn y claf a'r gofalwyr yn cael ei chynnwys ym mhob rhan.
Cynnal a monitro asesiadau cleifion, cynlluniau gofal, ymyrryd a gwerthuso mewn partneriaeth â'r cleifion a'u gofalwyr, gan gydweithio gyda’r tîm amlddisgyblaeth / amlasiantaeth.
Helpu i ddatblygu asesiad o anghenion poblogaeth y practis er mwyn llywio'r broses o ddarparu gwasanaethau.
Gweithredu fel presgripsiynydd anfeddygol, yn presgripsiynu yn unol â’r Fformiwlâu Rhagnodi, polisïau a chanllawiau’r Bwrdd Iechyd/ Cymru Gyfan/ y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth/ Y Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd, gan wneud penderfyniadau presgripsiynu clinigol a chost-effeithiol.
Cynghori cleifion a gofalwyr ar bob cyfle i hybu iechyd ac atal salwch. Cefnogi mentrau datblygu perthnasol Iechyd y Cyhoedd a’r gymuned.
Cymryd rhan yn y gwaith o lunio polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan sicrhau bod y tîm yn glynu wrthynt ynghyd â'r ddeddfwriaeth bresennol.
Sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal a’u monitro o fewn y rhaglen archwilio arweiniol yr amgylchedd clinigol e.e. archwiliad dogfennaeth genedlaethol.
Meithrin a chynnal cyswllt effeithlon a pherthnasoedd gweithio gyda chydweithwyr, cysylltiadau gwaith allweddol a chydweithwyr mewnol/allanol eraill, hyrwyddo gweithio’n integredig ac archwilio dulliau newydd o fodloni anghenion therapiwtig eich grŵp o gleientiaid.
Cefnogi'r gwaith o gasglu, cwblhau, cyflwyno a chofnodi gwybodaeth berthnasol yn amserol ar gyfer gofal cleifion, datblygu gwasanaethau, archwilio a rheoli gweithredol (Metrigau Gofal Iechyd, dangosfwrdd, FOC, Datix)
Cymryd rhan yn y gwaith ymchwil a datblygu agenda, gan ganolbwyntio ar y gwelliannau i’r gwasanaeth.
Hyrwyddo datblygiad prosiectau archwilio ac ymchwil yn yr ardal leol e.e. Hanfodion Gofal, Prosiectau Gwella Ansawdd Gyda'n Gilydd.
Bod yn gyfrifol am eich cymhwysedd eich hun, gan nodi anghenion dysgu personol a datblygiad proffesiynol/personol trwy gwblhau cynllun datblygu personol, cymryd rhan yn system arfarnu'r Bwrdd Iechyd a dangos ymwybyddiaeth o gymwyseddau a galluoedd.
Cynnal sgiliau gwybodaeth broffesiynol trwy gwblhau cyrsiau achrededig perthnasol, mynychu cyrsiau/cynadleddau allanol, hyfforddiant gorfodol, datblygu cynllun datblygu unigol a thrwy ddatblygu a chynnal rhwydweithiau cymorth.
Datblygu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd yn gyson i ddarparu gofal a gwybodaeth briodol i gleifion yn unol â'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau a darparu gwasanaethau cyfredol ar draws darparwyr iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector.
Darparu amgylchedd dysgu cynhwysfawr i ddysgwyr gan annog yr holl staff i ddatblygu eu rolau fel mentoriaid ac aseswyr.
Sicrhau bod yr holl staff dirprwyedig yn derbyn Adolygiadau Perfformiad Unigol rheolaidd a bod ganddynt Gynlluniau Datblygu Personol ar waith sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau sy'n cadw anghenion cleifion/gwasanaethau wrth wraidd.
Cynorthwyo, goruchwylio, mentora a hyfforddi aelodau eraill o'r tîm a'r myfyrwyr a neilltuwyd i'r tîm.
Cynorthwyo a hyfforddi staff iau a myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol drwy gyflawni amcanion gwerthuso a chynlluniau datblygu personol, gan ddefnyddio eu cyflawniadau i fod yn fodel rôl.
Nodi cynllun datblygu personol sy'n ymgorffori mesurau drwy hyfforddiant ac astudiaethau/profiadau hunangyfeiriedig, gan sicrhau bod ymyriadau ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu darparu.
Sicrhau bod trefniadau mentora ar waith ar gyfer myfyrwyr a staff ôl-raddedig o fewn lleoliadau clinigol, gan ddarparu amgylchedd dysgu ysgogol.
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Degree or recognised equivalent in Physiotherapy
- HCPC registration
- Evidence of relevant post graduate study and personal development appropriate to the specialist clinical area – CPD portfolio
- Broad working knowledge of Physiotherapy techniques across all aspects of treatment
- A high level of knowledge and skills appropriate to the specialist clinical area
- Ability to keep legible, clear and concise notes
Meini prawf dymunol
- Evidence of involvement with relevant Clinical Interest group(s)
- Membership of CSP
Experience
Meini prawf hanfodol
- Significant experience working within the specialist clinical area
- Previous senior experience
- Experience of working with junior staff/ assistants/ students and to develop other staff both formally and informally
- Evidence of involvement in research/ audit
- Good presentation/ teaching skills
Meini prawf dymunol
- Experience of working in the NHS as a Physiotherapist
Aptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Ability to work independently
- Able to work collaboratively within the physiotherapy team and with the wider MDT
- Able to cope with moderate physical exertion throughout the working day
- Ability to work under pressure
- Autonomous decision maker
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Values
Meini prawf hanfodol
- Excellent interpersonal skills
- Self-motivated
- Committed to personal and team development
- Active professional involvement eg: H&S, Branch network
Other
Meini prawf hanfodol
- Flexible working e.g. weekend rotas
- Ability to travel
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Antony Roberts
- Teitl y swydd
- Advanced Practitioner Team Lead - Respiratory
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07791 334079
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Joanne Allen- Respiratory Clinical Lead
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector