Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gradd 3
Contract
Banc: 0 diwrnod (Bank- Ad hoc when required to include evenings, weekends & Bank Holidays)
Oriau
Arall - 0 awr yr wythnos (3 diwrnod un wythnos)
Cyfeirnod y swydd
070-BRHCSW-0926
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Coffa Fictoria
Tref
Y Trallwng
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/09/2026 08:00

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Radiograffeg

Gradd 3

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


 

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag ar y banc ar gyfer Cynorthwywyr Gofal Iechyd Cymorth Radiograffeg i ymuno â'n timau prysur a chyfeillgar ledled Powys.
 
Bydd deiliaid y swydd yn gweithio yn adrannau Radiograffeg ysbytai'r Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais. Mae oriau agor pob safle rhwng 8.30am a 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
 
Mae'r gwasanaeth Radioleg ar hyn o bryd yn darparu ymchwiliadau delweddu, gan gynnwys pelydr-X ac uwchsain, gyda'r posibilrwydd o ddatblygu profiad mewn dulliau delweddu eraill yn y dyfodol.
 
Byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig; ond hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad unrhyw Gymraeg, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau, peidiwch â phoeni: bydd y bwrdd iechyd yn eich cefnogi gyda hyfforddiant.
 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio o fewn tîm amlddisgyblaethol, gan ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion yn ystod ymchwiliadau delweddu. Mae dyletswyddau'r swydd hon yn cynnwys cefnogi Radiograffwyr, Radiolegwyr, Sonograffwyr a chyflawni dyletswyddau clerigol, tra'n cylchdroi trwy bob maes yn yr adran Radioleg.

Yn ddelfrydol, dylech feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a llythrennedd cyfrifiadurol llawn. Mae profiad clinigol blaenorol mewn lleoliad gofal iechyd gyda phrofiad o gronfeydd data cleifion yn ddymunol.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Sylwch y gallai'r swydd wag hon gau'n gynnar yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a dderbynnir.
Sicrhewch eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl er mwyn peidio â cholli'r cyfle i wneud cais.

Manyleb y person

Qualifications and Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Level 3 qualification in relevant healthcare subject, or possess the equivalent skills, knowledge and experience • Understanding of the role of Radiographic Support Workers
Meini prawf dymunol
  • Basic knowledge of anatomy and physiology • Knowledge of clinical work

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Previous experience of working with the public in paid or voluntary roles • Experience of using computers
Meini prawf dymunol
  • Experience in supportive/assistant role such as Radiology Support Worker/HCSW/experience working within a hospital/caring • environment • Experience in a range of clinical skills including aseptic techniques

Skills and Attributes

Meini prawf hanfodol
  • Good verbal and written communication skills • Demonstrate a positive, caring and compassionate attitude • Ability to deal with distressing situations • Works well both as an individual and as part of a team with good organisational and time management skills • Motivated and possess a non-judgemental attitude towards others • Willing to seek out learning, accept instruction and give/receive constructive feedback
  • Ability to move and handle equipment and assist with manual handling of patients
Meini prawf dymunol
  • Welsh Language skills level 1-4 in understanding, speaking, reading, and writing in Welsh

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Michelle Kirkham
Teitl y swydd
Professional Head of Radiography
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01686 613279
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg