Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio Iechyd a Phlant – Nyrsio Ysgol
Gradd
6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-NMR063-0424
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais
Tref
Ystradgynlais
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Nyrs Ysgol

6

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb proffesiynol am boblogaeth/llwyth achosion diffiniedig ac yn arwain y gwaith o ddarparu 'r rhaglen iechyd cyhoeddus i mi.

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd SCPHN neu gymhwyster cyfatebol mewn Nyrsio Ysgol gyda chofrestriad cyfredol yr NMC. Gall myfyrwyr SCPHN a fydd yn gymwys ym mis Medi 2023 wneud cais.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn edrych am unigolyn deinamig gyda ffocws iechyd cyhoeddus cryf i ymuno â’r tîm Nyrsys Ysgol a gweithio yn ardal Ystradgynlais. Mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i wella iechyd a llesiant y boblogaeth oedran ysgol trwy ddarparu gwasanaeth rhagweithiol, sy’n canolbwyntio ar y plentyn a fydd o fewn cyrraedd rhwydd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Bydd y llwyth achosion yn cynnwys Ysgolion Uwchradd a chymunedau’r ysgolion cynradd yn eu dalgylch. Byddai tîm o nyrsys ysgol profiadol yn cefnogi’r ymgeisydd llwyddiannus. Telir treuliau teithio’n unol â pholisi lleol ac ar gyfer unrhyw deithio a wneir at ddiben dyletswyddau clinigol.

Bydd angen i ddeiliad y swydd Band 6 fod wedi cwblhau cymhwyster Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol, neu fod wrthi’n ei gwblhau.

Mae’n hollbwysig gallu gweithio’n annibynnol ond hefyd fel rhan o dîm mwy o nyrsys ysgol. Bydd angen i ddeiliad y swydd allu delio â llwyth achosion amrywiol a heriol, â’r nod o wella deilliannau a lleihau anghydraddoldebau. Mae’n ofynnol bod â phrofiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaeth, amlasiantaeth ar draws amrywiaeth o leoliadau, yn ogystal â bod â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.

Bydd gofyn bod â gwybodaeth gadarn o faterion yn ymwneud â diogelu yn ogystal â dull arloesol o weithredu o ran hybu iechyd a diogelu iechyd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

 

Manyleb y person

Qualifications and/or Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Registered Nurse – currently registered with NMC
  • Specialist Community Public Health Nurse (School Nurse) Qualification
  • Demonstrates accurate knowledge of current policy and developments regarding children and young people at local and national level
  • Knowledge and understanding of the legal and ethical issues that affect children and young people.
  • Knowledge of the collaborative working within health and other agencies
  • Understanding of clinical governance and the implications for children and family services
Meini prawf dymunol
  • Teaching and Assessing
  • Clinical Leadership Management
  • Modular study pertaining to the following: Teaching & Assessing Sexual Health Child and Adolescence Mental Health, Substance Misuse and other relevant topics

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Evidence of continuous professional development
  • Experience of Child Protection and Safeguarding
  • Experience of collaborative working
  • Experience of working with children and young people
Meini prawf dymunol
  • Experience of co-ordinating and delivering immunisation programmes.
  • Experience of working in a multi-disciplinary multi-agency team

Aptitude & Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Competent and confident to work autonomously
  • Ability to lead work in a team
  • Excellent interpersonal skills including good negotiation and conflict management skills Reflective practitioner
  • Good organisational and time management skills
  • Ability to communicate effectively, verbally, electronically and in writing
  • Ability to implement learning in practice and to teach others
  • Good presentation skills
  • Physical skills to include manual dexterity as required for screening children and immunisations
  • Enthusiastic and innovative
  • Proactive and Perceptive to change
Meini prawf dymunol
  • Ability to speak Welsh

Values

Meini prawf hanfodol
  • Can demonstrate PTHB Values

Other

Meini prawf hanfodol
  • Ability to travel throughout Powys

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Louise Hughes
Teitl y swydd
School Nurse Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07907681268
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg