Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Administration
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Secondiad: 12 mis
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AC029-1025
- Cyflogwr
- Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Gwaed Cymru
- Tref
- Pontyclun
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flywddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Cymorth Gwaesanaeth
Gradd 5
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn falch dros ben o’r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru gyfan yn ein Canolfan Ganser Felindre flaengar a’n Gwasanaeth Gwaed Cymru arobryn, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy’n dod â’r ddwy isadran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus iawn i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Fel isadran o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) yn le anhygoel i weithio ynddo a datblygu eich gyrfa. Mae ein staff gofalgar a brwdfrydig yn dylunio, yn datblygu ac yn cyflawni gwelliannau trwy fenter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i anelu at ei weledigaeth o weithio gyda’n staff a phobl Cymru i ddarparu gwasanaeth diogel, hawdd ei ddefnyddio a chynaliadwy ar gyfer rhoi gwaed a bôn-gelloedd.
Fel darparwr gofal iechyd dibynadwy, rydym yn gweithio'n galed dros ben i gynnal y safonau uchaf o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad rhoddwyr.
Ar hyn o bryd, rydym yn cychwyn ar strategaeth 5 mlynedd uchelgeisiol o’r enw “WBS Futures”, lle rydym wedi gosod ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau yng Nghymru ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’n nodi ein sefyllfa ar hyn o bryd, lle’r ydym eisiau bod yn 2028, a’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd yno.
Gallwch ddarllen mwy am ein strategaeth yma: www.welsh-blood.org.uk/welsh-blood-service-strategy-2023-2028
Mae GGC yn gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig.
Cymerwch olwg ar ein gwaith. Gallwch weld ein tudalennau gyrfa pwrpasol yn https://welsh-blood.org.uk/careers/
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar y ffurflen gais.
Trosolwg o'r swydd
Bydd y Rheolwr Cymorth Gwaesanaeth yn rheolwr llinell ac yn cefnogi’r tîm gweinyddol i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr, cyfrinachol ac arbenigol i’r tîm clinigol dan arweiniad y Cyfarwyddwr Meddygol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli, goruchwylio cyffredinol, cychwyn a gwreiddio prosesau busnes effeithiol. Mae angen sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda phrofiad o reoli perthnasoedd mewnol ac allanol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio'n rhagweithiol mewn amgylchedd prysur, heriol a chymhleth lle gall ddatblygu a sefydlu perthnasoedd gwaith effeithiol gydag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol, gan gefnogi'r gwaith o weithredu a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn datblygu gwasanaeth ysgrifenyddol a gweinyddol cynhwysfawr i gefnogi'r Adran Gwasanaethau Clinigol (CS) gan sicrhau bod gweithrediadau effeithiol yn cael eu cynnal. Disgwylir i ddeiliad y swydd reoli ei amser yn effeithiol, gan gwrdd â therfynau amser tynn a gweithio heb oruchwyliaeth i raddau helaeth i gefnogi darpariaeth gwasanaeth o fewn YGPF. Bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth weinyddol effeithlon ac effeithiol ar gyfer yr uwch staff yn y Gwasanaethau Clinigol ac, yn ôl yr angen, i fodloni gofynion y gwasanaeth. Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cymorth hyblyg i'r tîm Gwasanaeth a Datblygu, y Tîm Iechyd Gwaed, y Labordy Datblygu Cydrannau a'r tîm Datblygu Ymchwil ac Arloesi (RD&I) lle mae llwyth gwaith a therfynau amser yn gofyn am hynny.
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 12 miseodd oherwydd cyllido. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth:https://velindre.nhs.wales/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd-Ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person wedi eu hatodi yn y dogfennau ategol, neu cliciwch ar "Apply now " i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at safon gradd neu brofiad cyfatebol mewn rôl rheoli busnes
- Addysg hyd at safon gradd neu brofiad cyfatebol mewn rôl rheoli busnes
- Addysg hyd at safon gradd neu brofiad cyfatebol mewn rôl rheoli busnes
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli prosiectau
- Cymhwyster llaw-fer
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gefnogi uwch reolwyr.
- Profiad o weithio ar ei fenter ei hun heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
- Profiad amlwg o weithio fel Cynorthwyydd Gweithredol/Cynorthwyydd Personol ar gyfer uwch reolwr neu reolwr lefel gweithredol.
- Bod yn gyfarwydd â phrosesau cadw cofnodion ac archwilio.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio o fewn diwydiant sydd wedi'i reoleiddio'n helaeth e.e. iechyd, peirianneg, y gyfraith, gwasanaethau ariannol.
- Gwybodaeth am y GIG a sut mae'n gweithredu
- Defnyddio systemau rheoli ansawdd electronig a/neu reoli dogfennau.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o hyfedredd wrth reoli a chynnal systemau lluosog (h.y. MS Office, Datix, Oracle, Q-Pulse, Teams, Trac Recruitment, SharePoint ac ati)
- Y gallu i ddangos lefel uchel o flaengaredd i ddadansoddi sefyllfaoedd yn feirniadol wrth ymdrin ag ymholiadau/problemau cymhleth gan gyrff mewnol ac allanol, gan geisio cyngor neu gymorth lle bo'n briodol.
- Sgiliau cyfathrebu da - ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf.
- Yn gallu cyflawni o fewn terfynau amser
- Sgiliau cymryd cofnodion ffurfiol
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Edwin Massey
- Teitl y swydd
- Medical Director
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01443 622126
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Louise Evans
01443 622126
Rhestr swyddi gyda Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector