Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddol
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AC022-0725
- Cyflogwr
- Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Gwaed Cymru
- Tref
- Pontyclun
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 per annum pro rota
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Gweinyddol Rhaglen Anemia
Band 3
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn falch dros ben o’r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru gyfan yn ein Canolfan Ganser Felindre flaengar a’n Gwasanaeth Gwaed Cymru arobryn, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy’n dod â’r ddwy isadran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus iawn i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Fel isadran o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) yn le anhygoel i weithio ynddo a datblygu eich gyrfa. Mae ein staff gofalgar a brwdfrydig yn dylunio, yn datblygu ac yn cyflawni gwelliannau trwy fenter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i anelu at ei weledigaeth o weithio gyda’n staff a phobl Cymru i ddarparu gwasanaeth diogel, hawdd ei ddefnyddio a chynaliadwy ar gyfer rhoi gwaed a bôn-gelloedd.
Fel darparwr gofal iechyd dibynadwy, rydym yn gweithio'n galed dros ben i gynnal y safonau uchaf o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad rhoddwyr.
Ar hyn o bryd, rydym yn cychwyn ar strategaeth 5 mlynedd uchelgeisiol o’r enw “WBS Futures”, lle rydym wedi gosod ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau yng Nghymru ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’n nodi ein sefyllfa ar hyn o bryd, lle’r ydym eisiau bod yn 2028, a’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd yno.
Gallwch ddarllen mwy am ein strategaeth yma: www.welsh-blood.org.uk/welsh-blood-service-strategy-2023-2028
Mae GGC yn gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig.
Cymerwch olwg ar ein gwaith. Gallwch weld ein tudalennau gyrfa pwrpasol yn https://welsh-blood.org.uk/careers/
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar y ffurflen gais.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) yn falch dros ben o’r rôl hanfodol mae’n ei chwarae wrth ymdrechu i achub a thrawsnewid bywydau trwy haelioni ei roddwyr gwaed. Rydym yn darparu gwasanaeth hanfodol i GIG Cymru drwy ddarparu gwasanaeth gwaed a thrawsblannu diogel o ansawdd uchel i gefnogi trin cleifion ar draws Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r Tîm Iechyd Gwaed i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Cynllun Iechyd Gwaed, drwy ddarparu cymorth gweinyddol o ddydd i ddydd a thrwy gydlynu i helpu i gyflwyno’r cynllun yn llwyddiannus.
Rydym yn chwilio am weinyddwr profiadol gyda sgiliau trefnu rhagorol. Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd drefnu cyfarfodydd a chymryd nodiadau/cofnodion mewn cyfarfodydd. Bydd yn rhaid iddynt gael profiad o reoli taenlenni a gofynion mewnbynnu data cymhleth, a gallu trefnu a blaenoriaethu eu llwyth gwaith eu hunain i gwrdd â therfynau amser.
Mae'r swydd yn swydd barhaol amser llawn (37.5 awr yr wythnos) sydd wedi'i lleoli ar safle Tanysguboriau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais amdani.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr, effeithlon ac effeithiol i alluogi cyflawni swyddogaethau Craidd yr Adran Gwasanaethau Clinigol e.e. hybu rheolaeth gwaed cleifion y Tîm Iechyd Gwaed (BHT), rheolaeth glinigol a chefnogaeth feddygol, gan gyfeirio'n benodol at waith parhaus ar gyfer y rhaglen rheoli anemia Cyn Llawdriniaeth o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru (WBS).
- Cyhoeddi amrywiaeth o ohebiaeth ysgrifenedig ar ran y Tîm Iechyd Gwaed a'r Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol (BHNOG). Cyfathrebu gyda chydweithwyr perthnasol ynghylch y Rhaglen Anemia Cyn Llawdriniaeth.
- Darparu cymorth gweinyddol llawn ac effeithiol i'r Tîm Iechyd Gwaed i gefnogi'r gwaith o reoli'r rhaglen Anemia Cyn Llawdriniaeth. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys - cymryd cofnodion, trefnu cyfarfodydd, teipio adroddiadau, diweddaru a chynnal taenlenni a chronfeydd data.
- Cefnogi’r rhaglen anemia Cyn Llawdriniaeth a Thîm Iechyd Gwaed ehangach wrth lunio a lledaenu gohebiaeth glinigol berthnasol, gan gynnwys archwilio clinigol a systemau adborth.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi. Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu gliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster TGAU neu gymhwyster cyfatebol mewn Mathemateg a Saesneg.
- ECDL neu wybodaeth a sgiliau TG cyfatebol
- NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol e.e. gweinyddu.
- Deall cyfrinachedd
- Deall cyfrinachedd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad gweinyddol/ysgrifenyddol.
- Cynnal systemau cadw cofnodion ar gyfrifiadur ac ar bapur
Meini prawf dymunol
- Rôl weinyddol o fewn amgylchedd gofal iechyd.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
- Gallu blaenoriaethu gwaith mewn amgylchedd datblygol o flaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd.
- Yn barod i ddysgu sgiliau newydd.
- Cymryd cofnodion ffurfiol
- Sgiliau bysellfwrdd uwch Brwdfrydig/cymhellol.
- Sylw i fanylion.
- Sgiliau trefnu da.
- Yn gallu blaenoriaethu.
- Hyblyg wrth ail-flaenoriaethu eich gwaith eich hun oherwydd digwyddiadau heb eu cynllunio a/neu geisiadau brys am waith.
- Gweithio’n dda mewn tîm.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gwedd broffesiynol
- Gallu uniaethu'n dda gyda staff ar bob lefel
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu’n barod i weithio tuag at hynny
Gofynion ymgeisio
Bydd y swydd hon yn gofyn am gyflwyno Datgeliad i wirio am unrhyw gollfarnau troseddol sydd heb ddarfod.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Stephanie Ditcham
- Teitl y swydd
- Blood Health Team lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector