Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddol
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-AC002-0226
Cyflogwr
Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Gwaed Cymru
Tref
Pontyclun
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/03/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan logo

Cydlynydd Data Llywodraethu

Gradd 4

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn falch dros ben o’r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru gyfan yn ein Canolfan Ganser Felindre flaengar a’n Gwasanaeth Gwaed Cymru arobryn, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy’n dod â’r ddwy isadran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus iawn i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.  

Fel isadran o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) yn le anhygoel i weithio ynddo a datblygu eich gyrfa.  Mae ein staff gofalgar a brwdfrydig yn dylunio, yn datblygu ac yn cyflawni gwelliannau trwy fenter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i anelu at ei weledigaeth o weithio gyda’n staff a phobl Cymru i ddarparu gwasanaeth diogel, hawdd ei ddefnyddio a chynaliadwy ar gyfer rhoi gwaed a bôn-gelloedd.

Fel darparwr gofal iechyd dibynadwy, rydym yn gweithio'n galed dros ben i gynnal y safonau uchaf o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad rhoddwyr.

 

Ar hyn o bryd, rydym yn cychwyn ar strategaeth 5 mlynedd uchelgeisiol o’r enw “WBS Futures”, lle rydym wedi gosod ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau yng Nghymru ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’n nodi ein sefyllfa ar hyn o bryd, lle’r ydym eisiau bod yn 2028, a’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd yno.

 

Gallwch ddarllen mwy am ein strategaeth yma: www.welsh-blood.org.uk/welsh-blood-service-strategy-2023-2028

Mae GGC yn gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig.

Cymerwch olwg ar ein gwaith. Gallwch weld ein tudalennau gyrfa pwrpasol yn https://welsh-blood.org.uk/careers/ 

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg.  Ni chaiff ceisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar y ffurflen gais.

 

Trosolwg o'r swydd

·         Gweithio fel rhan o'r Tîm Gwasanaethau Clinigol ym Mhencadlys GGC, Tonysguboriau, gan ddarparu cymorth ar gyfer casglu data a rheoli digwyddiadau niweidiol i roddwyr a digwyddiadau risg isel. Cofnodi, dilysu a dadansoddi data sy'n ymwneud â swyddogaeth a gwybodaeth  perfformiad ac ansawdd Gwasanaethau Clinigol a Chasglu Gwaed at ddibenion archwilio clinigol a sicrhau ansawdd er mwyn cyfrannu at ofal rhoddwyr a'i wella.

·    

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

     

Cynorthwyo’n effeithlon ac effeithiol i gydlynu gwybodaeth ar gyfer y tîm amlddisgyblaethol arbenigol i sicrhau bod cydweithio effeithiol rhwng adrannau ar draws llwybr rhoddwyr gwaed y rhai sy’n ymwneud â darparu gofal rhoddwyr.

Cynorthwyo’r Adran Casglu Gwaed a Chlinigol, yn benodol ynghylch gwybodaeth archwilio sy’n ymwneud â gofal rhoddwyr ac Atal a Rheoli Heintiau gan gynnwys coladu data a gweinyddu swyddfa.

Mae'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r cydlynydd ymgysylltu â'r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff gweinyddol a gweithio ochr yn ochr â hwy drwy gydol taith y rhoddwr

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1994, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth  drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person wedi'u hatodi o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud Cais nawr" i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • TGAU Saesneg, Mathemateg gradd A – C neu gymhwyster cyfatebol
  • NVQ Lefel 2/3 mewn Gweinyddu Busnes neu gymhwyster/profiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • RSA/OCR neu brofiad cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rheoli data a gweinyddol amlwg
  • Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd rheoledig
  • Profiad o weithio o fewn Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a chanllawiau diffiniedig
  • Gwybodaeth gadarn o gymwysiadau Windows neu gyfwerth
  • Profiad o ymdrin â materion cymhleth a sensitif
  • Cymryd rhan mewn archwiliadau clinigol a chyfrannu at wella gwasanaethau
  • Dealltwriaeth o Lywodraethu Clinigol a sut i'w gymhwyso'n ymarferol
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o Lywodraethu Clinigol a sut i'w gymhwyso'n ymarferol
  • Profiad yn ymwneud â datblygu a gweithredu Polisïau a Gweithdrefnau
  • Profiad o archwilio a gwella gwasanaethau

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
  • Sgiliau gwrando effeithiol, a'r gallu i ystyried syniadau ac awgrymiadau
  • Yn llawn cymhelliant ac yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun
  • Sgiliau dadansoddi a datrys problemau
  • Yn gallu ffurfio barn gytbwys a chadarn
  • Yn gallu addasu i amgylchiadau sy'n newid a chymhwyso cynlluniau'n gyfrifol
  • Dealltwriaeth glir o gyfrifoldebau sy'n ymwneud ag agweddau perthnasol ar y Ddeddf Diogelu Data a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ysgrifennu adroddiadau ac ymatebion ffurfiol
  • Sgiliau Cymraeg Lefel 1.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Core principlesDisability Confident Leader - Welsh

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sharon Porter
Teitl y swydd
Clinical & Quality Governance Lead Nurse
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01443 622305
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Julie Curry, Pennaeth Nyrsio Dros Dro Ffon: 01443 622359

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg