Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddol
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 18 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
130-AC163-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Treforys
Tref
Abertawe
Cyflog
£24,833 y flwyddyn ar gyfran
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/09/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe logo

Clerc Cofnodion Iechyd

Gradd 2

Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.

Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.


Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno â'n tîm.  Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol ar ddeiliad y swydd, yn meddu ar ddull cadarnhaol a hyblyg iawn o weithio, yn frwdfrydig ac yn barod ar gyfer yr her nesaf a hefyd yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm bach ond prysur iawn.

Mae gwybodaeth am WPAS/IFIT a phrofiad blaenorol o Gofnodion Iechyd yn ddymunol, fodd bynnag, darperir hyfforddiant mewnol llawn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Ar hyn o bryd mae gan yr Adran Cofnodion Iechyd yn Nhŷ Samlet, Abertawe, y swyddi canlynol ar gael:

Swydd un: Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher 5pm - 9pm & Dydd Sadwrn & Dydd Sul 9am - 12pm  swydd 18 awr

Swydd dau: Dydd Mawrth, Dydd Iau, Dydd Gwener 5pm -9pm & Dydd Sadwrn & Dydd Sul swydd 18 awr

Efallai y bydd gofyniad i gymryd rhan yn y gwasanaeth cofnodion iechyd ar alwad ynghyd â chefnogi'r gwasanaeth ar draws ysbytai Ty Samlet/Singleton a Chastell-nedd pan fo angen yn unol â phatrymau gwaith

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwr Cymraeg a/neu Saesneg i geisio am y swydd.

 

Gweithio i'n sefydliad

Credwn mai staff yw ein hased gorau ac rydym am ichi fod yn hapus ac yn hyderus ynglyn a dechrau eich gyrfa yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Fel un o'r grwpiau gofal iechyd mwyaf yn y DU, gallwn gynnig cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol mewn sefydliad arloesol, blaengar.

Efallai eich bod yn nyrs neu'n feddyg, efallai eich bod yn arbenigo mewn gwyddor iechyd / therapi neu'n gallu cynnig sgiliau yn un o'n gwasanaethau cymorth - mae gennym swydd i chi.

Mae yna hefyd brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddoli ar gael.

Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u rhyw; crefydd neu gred; ras; oed; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, p'un a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar, yn briod neu mewn partneriaeth sifil; neu, os ydyn nhw'n anabl.

Mae ein gwerthoedd – Gofalu am ein gilydd, Cydweithio a Yn gwella bob amser, yn dangos bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.

Os ydych chi eisiau cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant rhagorol wrth fyw ar stepen drws rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Ewrop, gyda holl fanteision dinas sy'n ffynnu a chosmopolitaidd - edrychwch ymhellach.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad llawn a Manyleb y person ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch 'Gwneud Cais' i'w weld ar Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at NVQ lefel 2 neu'n gallu dangos lefel gyfatebol o wybodaeth, sgiliau a phrofiad
  • Addysg hyd at TGAU Graddau A-C neu lefel 2 neu gyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth neu brofiad o WPAS/ IFIT neu systemau tebyg GIG

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad i ddefnyddio pecyn Microsoft gan gynnwys platfformau rhithwir

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Cadw at a gallu dangos Gwerthoedd ac Ymddygiadau BIPBA
  • Gallu i ddangos gweithio fel tîm
  • Yn gallu dangos tact a diplomyddiaeth wrth weithio gydag eraill
  • Gallu i weithio mewn amgylchedd brysur, weithau straenus, ac yn gallu deilio ag ymyriadau
  • Gallu i gyfathrebu gyda chleifion a staff, wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu'n rhithwir
  • Gallu i wneud penderfyniadau yn unol â protocolau adrannol y cytunwyd arnynt
  • Gallu i gynllunio a threfnu amser eich hun i hwyluso'r rheolaeth diogel o nodiadau achosion
Meini prawf dymunol
  • Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefel 1 i 5 o ran, deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg

Eraill

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio o fewn ardal ddaearyddol. Yn gallu gweithio oriau hyblyg
  • Ymrwymiad i hunanddatblygiad ac i geisio dysgu a diwallu anghenion y gwasanaeth
  • Gallu i ymgymryd â dyletswyddau codi a chario ysgafn wrth nôl, cludo a ffeilio nodiadau/ dogfennau achosio neu wybodaeth berthnasol arall; defnyddio offer i gydymffurfio â gweithdrefnau a pholisïau PBA.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoStonewall Health ChampionsStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident employerEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel Reardon
Teitl y swydd
Deputy Service Manager/Dirprwy Reolwr Gwasanaeth
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01792 703071
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

[email protected]

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg