Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dietegydd
Gradd
Gradd 7 (Atodiad 21)
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
130-AHP082-0925-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Treforys
Tref
Abertawe
Cyflog
£48,527 - £55,532 Pro rata y flwyddyn * Atodiad 21
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
03/11/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe logo

Dietegydd Arbenigol Iawn - Atodiad 21

Gradd 7 (Atodiad 21)

Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.

Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.


Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn cyffrous i gynnig y cyfle i rywun sydd ag angerdd am deieteg pediatreg i ymuno â'n tîm!  Bydd y swydd yn parhau i ddatblygu'r gwasanaeth wrth gefnogi'r tîm newyddenedigol.  Byddwch hefyd yn gweithio fel rhan o'r tîm i gefnogi plant sy'n cael eu bwydo a thiwb, pallu tyfu, cymorth maetheg trwy'r ceg, gastroenteroleg a chyflyrau clinigol arall sy'n effeithio ar statws maetheg person ifanc.

Mae hyn yn rôl parhaol, llawn amser (yn gweithio 37.5 awr yr wythnos). Bydd y swydd hon yn Ysbyty Treforys ond bydd angen gwethio ar draws y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys yn yr uned newyddenedigol yn Ysbyty Singleton ac ymweliadau cymunedol yn ôl yr angen.

Rydym yn edrych am ddeietegydd brwdfrydig gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol. Mae gan ein tîm perthynas waith agos gyda phediatregwyr, nyrsys cymunedol plant, ymwelwyr iechyd, nyrsys arbenigol, therapyddion iaith a lleferydd pediatreg, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol. 


Cynigir y swydd fel swydd Atodiad 21 i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau llawn a byddant yn cael eu hystyried ar gyfer swydd hyfforddai a byddant yn ddarostyngedig i Atodiad 21 GIG Cymru fel y nodir yn Nhelerau ac Amodau Cyflogaeth GIG Cymru.

O dan drefniadau Agenda ar gyfer Newid ar gyfer Cyflog a Bandio Hyfforddeion, byddwch yn cael eich talu 75% o uchafswm presennol graddfa gyflog Band 7

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn tynnu ar eich profiad o weithio gyda phlant/ babanod sy'n derbyn bwydo trwy diwb a bwydo trwy'r ceg i reoli'n awtonoaidd eich llwyth achosion, yn darparu asesiad a rheolaeth o safon uchel. Mae profiad o weithio gyda babanod cynamserol yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu darparu. 

Byddwch yn cefngoi'r goruchwyliaeth a mentora o staff iau, Lleoliad Gwaith 1,2 a 3 myfyrwyr deieteg a gweithwyr cymorth ac ymarferwyr cynorthwyol, yn dyrannu dyletswyddau yn ôl yr angen ac yn darparu lefel addas o gymorth ar bob adeg. 

Rydym yn cynnig amser DPP adrannol a phersonol i gefnogi eich datblygiad a rhannu arferion gorau. Mae ein Hadran wedi ymrwymo i ddatblygiad o ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymchwil ac archwiliad clinigol a byddwch yn cael eich cefnogi wrth fynychu cyfarfodydd rhwydweithio proffesiynol perthnasol, grwpiau diddordeb a chyfleoedd DPP, yn ogystal â chael gwerthusiad blynyddol. 

Mae gennym gefnogaeth dda gan Gynorthwywyr Gweinyddol a Deietig. Mae gan y Bwrdd Iechyd statws Prifysgol gyda Cholegau Meddygaeth ar y safle. 

Er bod hon yn swydd llawn amser, bydd ymgeiswyr sy'n dymuno gweithio llai o oriau/rhan amser yn cael eu hystyried ac rydym yn hapus i drafod y sefyllfa hon gydag ymgeiswyr sydd â diddordeb. Cysylltwch â [email protected] am fwy o wybodaeth.

Gallwch ein dilyn ar X @SBUHBDietetics ac Instagram @sbuhb_dietetics

Gweithio i'n sefydliad

Credwn mai staff yw ein hased gorau ac rydym am ichi fod yn hapus ac yn hyderus ynglyn a dechrau eich gyrfa yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Fel un o'r grwpiau gofal iechyd mwyaf yn y DU, gallwn gynnig cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol mewn sefydliad arloesol, blaengar.

Efallai eich bod yn nyrs neu'n feddyg, efallai eich bod yn arbenigo mewn gwyddor iechyd / therapi neu'n gallu cynnig sgiliau yn un o'n gwasanaethau cymorth - mae gennym swydd i chi.

Mae yna hefyd brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddoli ar gael.

Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u rhyw; crefydd neu gred; ras; oed; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, p'un a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar, yn briod neu mewn partneriaeth sifil; neu, os ydyn nhw'n anabl.

Mae ein gwerthoedd – Gofalu am ein gilydd, Cydweithio a Yn gwella bob amser, yn dangos bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.

Os ydych chi eisiau cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant rhagorol wrth fyw ar stepen drws rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Ewrop, gyda holl fanteision dinas sy'n ffynnu a chosmopolitaidd - edrychwch ymhellach.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol am y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg yr un mor falch i ymgeisio

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • B.Sc. Maeth a Dieteteg neu gyfwerth
  • HCPC Cofrestredig
  • Hyfforddiant ôl-gofrestru e.e. yn y maes perthnasol
  • MSc neu lefel gyfatebol o wybodaeth + hyfforddiant/profiad ôl-raddedig uwch mewn meysydd perthnasol.
  • Tystiolaeth o amrywiaeth eang o wybodaeth glinigol
Meini prawf dymunol
  • Cwrs addysgwyr clinigol myfyrwyr
  • Cymhwyster rheoli/arweinyddiaeth cydnabyddedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gweithio fel Deietegydd Arbenigol mewn Maeth a Dieteg o fewn maes arbenigol.
  • Gwybodaeth arbenigol lefel uchel am gyflwyno gwasanaethau mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau.
  • Goruchwylio/mentora staff
  • Methodoleg Archwilio a Gwella Ansawdd.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o brosesau cynllunio strategol
  • Profiad o ddatblygu polisi/gwasanaeth

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhyngbersonol datblygedig iawn gan gynnwys sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig datblygedig gyda phobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd
  • Meddu ar sgiliau trefnu tra datblygedig i allu gosod blaenoriaethau a bodloni terfynau amser dyddiol
  • Gallu gweithio ar eich menter eich hun mewn modd proffesiynol dan bwysau yn ogystal â meddu ar sgiliau gwaith tîm effeithiol

Eraill

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio o fewn ardal ddaearyddol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoStonewall Health ChampionsStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident employerEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Leanne John
Teitl y swydd
Children & Young People's Lead Dietitian
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01792 703239
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg