Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Obstetreg a Gynaecoleg
Gradd
Meddyg Ymgynghorol
Contract
Parhaol: Llawfeddygaeth Laparoscopig
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos (Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at rota ar alwad arfaethedig (1 mewn 8) yn cwmpasu obstetreg a gynaecoleg. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cyfrannu at ddarpar ofal clinigol yn ystod y dydd ar ward gynaecoleg (1:12) ac ystafell genedigaeth (1:8).)
Cyfeirnod y swydd
130-NPTSSG10011S
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Singleton
Tref
Abertawe
Cyflog
£106,000 - £154,760 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
24/06/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
08/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe logo

Obstetregydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol (Laparoscopig)

Meddyg Ymgynghorol

EIN GWERTHOEDD A’N HYMDDYGIADAU

Rydym yn disgwyl fod pawb sy’n gweithio ar gyfer y Bwrdd Iechyd, beth bynnag yw eu rôl, yn rhannu ac yn ategu ein gwerthoedd ym mhopeth maent yn ei wneud:

  • Gofalu am ein gilydd – ym mhob cyswllt dynol ym mhob un o’n cymunedau ac ym mhob un o’n ysbytai.
  • Gweithio gyda’n gilydd - fel cleifion, teuluoedd, gofalwyr, staff a chymunedau fel ein bod yn rhoi cleifion yn gyntaf bob amser
  • Gwella bob amser – fel ein bod ar ein gorau i bob claf ac ein gilydd 

 

 

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at rota ar alwad arfaethedig (1 mewn 8) yn cwmpasu obstetreg a gynaecoleg. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cyfrannu at ddarpar ofal clinigol yn ystod y dydd ar ward gynaecoleg (1:12) ac ystafell genedigaeth (1:8).

Gofynnir i chi gydymffurfio ag egwyddorion arfer meddygol da fel y'u nodir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Bydd gofyn i chi gymryd rhan ym mhroses rheoli risg y Bwrdd Iechyd, llywodraethu clinigol ac unrhyw weithgareddau llywodraethu gofal iechyd eraill yn yr adran, y gyfarwyddiaeth a’r Bwrdd Iechyd. Mae cadw at Egwyddorion Caldicott ar gyfer llywodraethu gwybodaeth yn orfodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu, ynghyd â chydweithwyr ymgynghorol eraill (fel y bo'n briodol), wasanaeth yn yr arbenigedd i'r ysbytai a ddynodwyd felly, gyda chyfrifoldeb am atal, canfod a thrin salwch a hybu iechyd.

Bod â chyfrifoldeb parhaus am ofal cleifion yn eich gofal (fel y bo'n briodol) mewn cysylltiad â chydweithwyr ymgynghorol ac am weithrediad priodol yr adran yn unol â'r Polisi Gweithredol a'r Cynllun Strategol (fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd).

Wrth weithio gyda chydweithwyr ymgynghorol a'r tîm aml-broffesiynol, bydd gennych gyfrifoldeb parhaus am les yr holl gleifion dan eich gofal; caniatáu ar gyfer dirprwyo priodol i, a hyfforddi staff. Mewn partneriaeth â chydweithwyr clinigol a rheolaethol, bydd gennych hefyd gyfrifoldeb am weithrediad diogel, effeithlon ac effeithiol y gwasanaethau rydych chi'n gweithio ynddynt yn unol â gwerthoedd, polisïau gweithredol a Chynllun Blynyddol y Bwrdd Iechyd. Fe'ch anogir i ystyried sut y gellir gwella gwasanaethau ac i roi gwybod am unrhyw bryderon am ddiogelwch trwy fethodoleg gwella ansawdd.

Gweithio i'n sefydliad

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyfrifoldeb dros iechyd oddeutu 390,000 o bobl yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, gyda chyllideb o tua £1 biliwn ac mae’n cyflogi 14 000 o bobl.    Rydym yn Fwrdd Iechyd Prifysgol sy’n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Ysgol Meddygaeth Abertawe, yr Ysgol Gwyddor Iechyd a’r Sefydliad Gwyddor Bywyd. Mae gan y Bwrdd Iechyd dri phrif ysbyty sy’n darparu ystod o wasanaethau: Ysbytai Treforys a Singleton yn Abertawe ac ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Maglan, Port Talbot.

 

Darperir gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu mewn ysbytai (Ysbyty Cefn Coed, clinig Caswell Abertawe a Taith Newydd yng Nglanrhyd Pen-y-bont ar Ogwr) a lleoliadau cymunedol eraill.

Abertawe yw’r ail ddinas fwyaf yng Nghymru ac mae wedi’i lleoli ar lain pum milltir Bae Abertawe. Mae’n ganolfan ddelfrydol ar gyfer archwilio De-orllewin Cymru, mae llawer ar gael hefyd i ymwelwyr yn Abertawe ei hun. Mae gan Abertawe amrywiaeth o siopau, caffis clyd, bwytai gwych, orielau celf yn ogystal â’r gallu i gynnig ffordd dda o fyw yn yr awyr agored gyda’i harfordir hardd a’i thraethau ar Benrhyn Gŵyr. Mae gan Abertawe hefyd gyfleusterau chwaraeon rhagorol gan gynnwys pwll Cenedlaethol Cymru a stadiwm Abertawe.com sy’n gartref i’r Gweilch a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

I gael rhagor o fanylion am y swydd hon, cliciwch ar yr adran dogfennau ategol i gael y swydd ddisgrifiad llawn a manyleb y person. Mae’r rhain ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Wedi'i gofrestru'n llawn gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ac wedi'i drwyddedu i ymarfer
  • MRCOG (neu gymhwyster arbenigol priodol mewn OBGYN)
  • Ar y Gofrestr Arbenigol neu o fewn 6 mis ar ôl derbyn CCT (neu gyfwerth) ar adeg y cyfweliad
Meini prawf dymunol
  • Gradd Uwch (MD neu PHD)
  • Cymhwyster addysgu / Cymhwyster uwch mewn addysg feddygol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o’r gallu i ddatblygu perthynas waith effeithiol, ar sail unigol ac amlddisgyblaethol gyda staff ar bob lefel (“Cydweithio”)
  • Tystiolaeth eich bod wedi gweithio gyda rheolwyr a chydweithwyr clinigol i wella rhyw wasanaeth (“Gwella bob Amser”)
  • Yn gwerthfawrogi partneriaeth gydag asiantaethau eraill (“Cydweithio”)
  • Tystiolaeth o addysgu a hyfforddi staff clinigol ôl-raddedig/israddedig
  • Tystiolaeth o gychwyn, symud ymlaen a chwblhau archwiliad
  • Tystiolaeth o gyfranogiad gweithredol mewn ymchwil gan gynnwys cyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid

Skills & Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Arweinyddiaeth effeithiol; y gallu i gymryd cyfrifoldeb a dangos arweiniad pan fo'n briodol
  • Yn deall pwysigrwydd Gweithio mewn Tîm effeithiol gyda staff ar bob lefel, cymryd amser i wrando, deall a chynnwys pobl; agored i newid priodol (”Cydweithio”)
  • Deall a chymhwyso egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus (“Gofalu am ein Gilydd”)
  • Sgiliau rhyngbersonol ardderchog - y gallu i gyfathrebu'n effeithiol (yn ysgrifenedig ac ar lafar) gyda chleifion, cydweithwyr, perthnasau a staff; cyfathrebu'n agored ac yn onest ac egluro pethau'n glir ("Gofalu am ein gilydd")
  • Deall technoleg a systemau gwybodaeth
Meini prawf dymunol
  • Arddangos dysgu mewn gwyddor a methodoleg Gwella, y gallu a’r cymhelliant i ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad i wella’r gwasanaeth (“Gwella Bob Amser”)
  • Sgiliau TG uwch gan gynnwys rheoli cronfa ddata a thrin data at ddibenion archwilio ac ymholiadau clinigol

Priodoleddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Hyblyg ac addasadwy i ofynion cystadleuol a gallu gweithio'n effeithiol o dan bwysau ac ymdopi â rhwystrau
  • Y gallu i wneud gwaith ar alwad
  • Mae ymrwymiad i welliant parhaus, gydag agwedd gadarnhaol, yn chwilio am ddysgu, ac yn datblygu sgiliau a'r gwasanaeth yn barhaus ("Gwella bob amser")
  • Brwdfrydedd i gymryd rôl arweiniol mewn datblygiad clinigol
  • Empathi a sensitifrwydd: y gallu i wrando, deall a chynnwys pobl; gweld pobl fel unigolion
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i arloesi a pharodrwydd i roi cynnig ar rywbeth newydd, gyda'r nod o wella'r gwasanaeth i gleifion
  • Y gallu i ystyried, datblygu a gweithredu datblygiad gwasanaeth ym mhob agwedd ar lwybr y cleifion, gan gynnwys sgrinio, atal a mentrau gofal sylfaenol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoStonewall Health ChampionsStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident employerEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Madhuchanda Dey
Teitl y swydd
Clinical Director Women's Health
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01792 205666
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Gwahoddir ac anogir ymgeiswyr a allai ddymuno cael rhagor o wybodaeth neu a hoffai drefnu i ymweld â’r Bwrdd Iechyd gysylltu â'r bobl ganlynol:

Mrs. Madhuchanda Dey

Cyfarwyddwr Clinigol Iechyd Menywod

Ysbyty Singleton,

Abertawe, SA2 8QA

E-bost: [email protected]

 

Mr. Nagindra Das

Arweinydd clinigol ar gyfer Gynae Oncoleg ac Oncolegydd Gynaecolegol

Ysbyty Singleton,

Abertawe, SA2 8QA

Rhif ffôn: 01792 286146

E-bost: [email protected]

 

Mrs. Najiya Ali

Arweinydd Clinigol ar gyfer Obstetreg

Ysbyty Singleton

Abertawe SA2 8QA

E-bost: [email protected]

 

Abigail Morris

Rheolwr y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Iechyd Menywod

Ysbyty Singleton

Abertawe SA2 8QA

E-bost: [email protected]

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Medical HR
SA6 6NL
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg