Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddwr
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC705-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Wrexham Maelor
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Gweinyddol Uned Triniaeth Seren Saethu
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd ag amrediad o ddyletswyddau gan gynnwys ffeilio, casglu nodiadau achos cleifion, ateb y ffôn, cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau a chefnogi'r tîm fel sydd angen. Rydym yn gweithio mewn amgylchedd prysur a chyflym sy'n gofyn am unigolyn sydd â'r gallu i addasu a gweithio ar ei liwt ei hun.
Rhaid i ddeilydd y swydd feddu'r gallu i weithio fel rhan o dîm er mwyn sicrhau bod yr holl gyfathrebu perthnasol yn cael ei wneud mewn modd amserol a chywir. Byddai disgwyl i chi drin â cheisiadau ac ymholiadau gan gleifion, gofalwyr a chydweithwyr mewn modd cyfrinachol a sensitif, wyneb yn wyneb a thros y ffôn.
Rhaid meddu ar safon dda o addysg, sgiliau trefnu da a'r gallu i weithio fel rhan o'r tîm.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Derbyn ymwelwyr a pherthnasau a'u cyfarwyddo yn broffesiynol ac yn gwrtais bob amser.
- Ateb y ffôn, cyfleu negeseuon a delio ag ymholiadau.
- Delio ag ymholiadau gan staff meddygol a'r cyhoedd ynglŷn â derbyn, trosglwyddo a rhyddhau cleifion.
- Hysbysu staff nyrsio wrth i gleifion gyrraedd a sicrhau bod nodiadau achos y claf ar gael ac yn gyfan.
- Mewnbynnu gwybodaeth gywir a defnyddio’r System Gweinyddu Cleifion yn cynnwys:
- Sgrin gofrestru i wneud yn siŵr bod manylion cleifion yn gywir. Diwygio hwn pan fo angen a gwneud yn siŵr bod y system PAS yn cyd-fynd â nodiadau achos cleifion. Gwneud cais am daflenni a labeli.
- Sgrin Olrhain Cofnodion Meddygol i helpu i symud nodiadau cleifion o amgylch yr ysbyty.
- Sgrin chwilio a chrynhoi i edrych ar hanes apwyntiadau cleifion.
- Defnyddio'r sgrin adroddiad cleifion allanol i argraffu rhestrau clinigau sydd i ddod er mwyn cael gafael ar nodiadau cleifion o'r adran cofnodion meddygol.
- Defnyddio’r sgrin mynediad rhestrau aros i gofrestru claf ar y rhestr aros.
- Defnyddio'r sgrin apwyntiadau cleifion allanol i wneud apwyntiadau i gleifion mewn clinigau neu i ddangos eu bod wedi cyrraedd.
- Sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei rhoi ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol sydd i'w gwneud.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn amgylchedd swyddfa yn ymwneud â gofal cwsmer.
- Profiad o ystod eang o arddulliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd prysur/pwysedd uchel
Meini prawf dymunol
- Ability to use a variety of computer databases.
- Previous medical records or hospital based clerical experience
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Gallu bodloni amserlenni tynn a blaenoriaethu baich gwaith
- Defnydd aml a hirfaith o offer VDU
- Defnydd aml a hirfaith o'r ffôn
- Sgiliau threfnu ardderchog a’r gallu weithio ar liwt eich hun mewn ymateb i alwadau'r baich gwaith.
- Sgiliau i’w gallu amltask tra’n gweithio dan bwysau.
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am Ddeddf Diogelu Data.
- Ymwybyddiaeth o Gyfrinachedd Cleifion
Meini prawf dymunol
- Deall nodau ac amcanion yr Agenda Moderneiddio.
- Ymwybyddiaeth o Bolisi lleol/cenedlaethol Rheoli Rhestrau Aros/Targedau Canser, a gwybodaeth am amseroedd aros.
RHINWEDDAU PERSONOL
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol.
- Y gallu i barhau i fod yn dawel mewn sefyllfaoedd sy'n peri straen neu'n ofidus.
- Gallu goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu
- Gallu gweithio'n dda mewn amgylchedd prysur sy'n cael ei lywio gan dargedau
- Gallu blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun
- Hunan gymhelliant
GOFYNION PERTHNASOL ERAILL
Meini prawf hanfodol
- Gallu neu gwaith shifft ag gweithio rhwng 9am a 6pm & ac rhai penwythnosau
- Gallu i siarad Cymraeg (lefel 3)
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg o safon dda. Yn gallu dangos cymhwyster Saesneg a Mathemateg hyd at lefel TGAU neu gyfwerth.
- Cymhwyster Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd, gweithio tuag at ei hennill, neu cyfwerth profiad.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am PAS
- Cymwysterau Ffurfiol i ddefnyddio prosesu geiriau, taenlenni a/neu gronfeydd data.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mark Hunter-Dowsing
- Teitl y swydd
- Admin Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 581401
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector