Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 3
Contract
Cyfnod Penodol: 6 mis (yn gontract tymor penodol/secondiad sy'n rhedeg tan 31/03/2026 oherwydd cyllido)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Bydd y patrwm gwaith yn cael ei gytuno cyn dechrau)
Cyfeirnod y swydd
050-AC637-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Maelor Wrecsam
Tref
Wrecsam
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/09/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gweinyddwr Arloesedd

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae hwn yn gontract/secondiad cyfnod penodol tan 31/03/2026 oherwydd cyllido.

Mae posibilrwydd bydd y contract yn cael ei ymestyn, yn dibynnu ar gyllido llwyddiannus. 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON. 
 

Ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth, a hoffech chi fod yn rhan o raglen gyffrous sy’n sbarduno arloesedd ym maes iechyd a’r sector cyhoeddus? Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI yn dymuno penodi Swyddog Cymorth y Ganolfan i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r Timau Datblygu Busnes a Rheoli Prosiectau. Mae’r swydd ddiddorol ac amrywiol hon yn hanfodol i gefnogi datblygiad, darpariaeth a gwerthusiad llwyddiannus prosiectau yn unol â strategaethau Llywodraeth Cymru. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, anfonwch neges at naill ai anya.palmer@wales.nhs.uk  neu  Ffion.owen@wales.nhs.uk i gael sgwrs anffurfiol er mwyn gwybod mwy. 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Felly, beth mae Canolfan Ragoriaeth SBRI yn ei wneud: 

Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru ac wedi’n lleoli ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i helpu i ysgogi datrysiadau arloesol i heriau ar draws y sector gofal iechyd a’r sector cyhoeddus ehangach. Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr i nodi’r anghenion nad ydynt wedi eu bodloni hyd yma, lle nad oes ateb parod ar gael, ac yn fframio’r her honno fel cystadleuaeth sy’n gwahodd busnesau, y trydydd sector a’r byd academaidd i gynnig eu syniadau ar gyfer dod o hyd i ddatrysiadau. Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cyllid ac mae’r Ganolfan yn rheoli'r prosiect datblygu ac yn manteisio ar y datrysiadau arloesol. 

Bydd y rôl hon yn cefnogi hyrwyddo, datblygu a gweithredu prosiectau sy’n canfod a’n datrys anghenion/heriau o fewn y sector iechyd a’r sector cyhoeddus ehangach, gan weithio gyda staff clinigol, gweinyddol a thechnegol o Fyrddau Iechyd Cymru, Ymddiriedolaethau GIG, Awdurdodau Lleol, busnesau, y trydydd sector a’r byd academaidd. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gan weithio fel rhan o dîm Canolfan Ragoriaeth SBRI, bydd deilydd y swydd yn rhoi cymorth gweinyddol cynhwysfawr i'r Tîm.

Bydd gofyn i ddeilydd y swydd reoli dyddiaduron ac aildrefnu apwyntiadau sy'n gwrthdaro, trefnu cyfarfodydd, paratoi papurau cyfarfodydd a chymryd cofnodion. Bydd deilydd y swydd yn canfod ac yn darparu gwybodaeth pan fo'i hangen, gan gynnwys coladu adroddiadau.

Gan weithio fel rhan o'r tîm, bydd deilydd y swydd yn bwynt cyswllt cyntaf i'r tîm, a gall hyn ymestyn i randdeiliaid mewnol ac allanol eraill. Bydd deilydd y swydd hefyd yn derbyn a chroesawu ymwelwyr i'r adran.

. Diweddaru a chynnal system rheoli gwybodaeth effeithiol ac effeithlon i gynnwys yr holl ddata crai a gesglir, gwaith papur perthnasol y prosiect, deunyddiau hyfforddi, dogfennaeth brofi, gwireddu buddion, adrodd ar wersi a ddysgwyd, gwerthusiadau i greu gwybodaeth i gefnogi'r prosiect a gwella gwasanaethau ar draws Portffolio SBRI.

· Rheoli fersiynau dogfennau.

· Cwblhau tasgau gweinyddol hanfodol gan sicrhau bod holl dempledi dogfennau yn gyfredol.

· Gweithio gydag uwch aelodau'r tîm i sicrhau bod yr holl brosesau/adnoddau gan gynnwys achosion busnes, manylebau, cynlluniau prosiect, cynlluniau profi a hyfforddi, dadansoddi buddion, a logiau risg a phroblemau, a chamau dilynol yn cael eu cwblhau ac yn gyfredol trwy gysylltu ag aelodau'r tîm i sicrhau eu bod yn cyfrannu atynt.

· Cyflawni holl agweddau’r gwaith mewn modd darbodus ac effeithlon a thrwy hynny, gyfrannu at reoli adnoddau cyfyngedig.

· Trefnu gweithdai a digwyddiadau gan gydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol, paratoi agenda a chymryd cofnodion gan sicrhau y gwneir yr holl drefniadau h.y. gosod yr ystafell, fideo-gynadledda/cyfleusterau sain a lluniaeth.

· Croesawu ymwelwyr â'r adran drwy eu hebrwng i’r man aros a chynnig lluniaeth.

· Canfod lleoliadau ar gyfer digwyddiadau a’u trefnu, ac adnoddau priodol a'u harchebu.

· Trefnu teithio a llety ar gyfer y tîm fel bo angen.

· Archebu a derbyn nwyddau swyddfa a chodi archebion sy'n ymwneud â Phrosiectau gan ddefnyddio system Oracle.

· Defnyddio ystod eang o sgiliau prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data a PowerPoint.

· Cynhyrchu adroddiadau, llythyrau, papurau a chofnodion cyfarfodydd megis cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd bwrdd prosiectau/rhaglenni, yn gywir.

· Dehongli gwybodaeth a cheisiadau arferol a'u gweithredu'n briodol.

· Yn absenoldeb y rheolwr llinell, gwneud penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau llwyth gwaith a defnyddio barn bersonol i sicrhau bod unrhyw broblemau sy'n codi yn cael eu trin yn briodol.

· Ymgymryd â chamau gweithredu a'u cychwyn yn unol â'r hyn a ddirprwywyd gan y rheolwr llinell

Manyleb y person

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Llunio adroddiadau a chymryd cofnodion
  • Uwch sgiliau bysellfwrdd
  • Profiad o gynllunio, trefnu a blaenoriaethu ei lwyth gwaith ei hun
Meini prawf dymunol
  • Yn gallu siarad Cymraeg

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ 3 mewn Gweinyddiaeth/RSA III neu lefel gyfwerth o wybodaeth/profiad.
Meini prawf dymunol
  • Cwrs Sylfaen PRINCE II
  • ECDL neu gymhwyster cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office yn fedrus
  • Gallu defnyddio ei fenter a'i farn i ddadansoddi a datrys problemau
  • Y gallu i gynorthwyo a chyflawni gwaith o fewn terfynau amser ystod eang o brosesau gweinyddol
  • Profiad o gyfathrebu'n uniongyrchol ar bob lefel yn y sefydliad
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weinyddu prosiectau
  • Profiad o weithio yn y GIG

GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am y GIG
Meini prawf dymunol
  • Rhywfaint o wybodaeth a dealltwriaeth am fethodoleg prosiectau

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kate Williams
Teitl y swydd
Innovation Programme Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07977708649
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg