Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-HMP-AC004-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- CEM Berwyn
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 Y ffwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/01/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Personol - CEM Berwyn
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Prif rôl deilydd y swydd yw gweithredu fel Cynorthwyydd Personol i'r Pennaeth Gofal Iechyd a'r Dirprwy Bennaeth Gofal Iechyd.
Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i'r Pennaeth Gofal Iechyd a'r Dirprwy Bennaeth Gofal Iechyd dros y ffôn, e-bost a gohebiaeth neu i ymwelwyr.
Paratoi agendau, adroddiadau a dogfennau yn defnyddio pecyn Microsoft Office. Mae angen defnydd lefel uwch o becynnau IT yn cynnwys Word, Excel, Outlook, PowerPoint a Publisher.
Rheoli'r holl ymholiadau ffôn/galwadau ac e-byst yn gwrtais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol, cyfrinachol a chynhwysfawr i'r Pennaeth Gofal Iechyd a chefnogi aelodau eraill o'r uwch dîm rheoli iechyd lle bo angen.
Bydd gennych sgiliau trefnu a rhyngbersonol ardderchog a byddwch yn gallu gweithio dan bwysau i ddiwallu anghenion newidiol y gwasanaeth. Mae'r gallu i weithio'n annibynnol a heb oruchwyliaeth yn agwedd bwysig ar y rôl hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Sylwch y bydd unrhyw gynnig o gyflogaeth yn amodol ar dderbyn cliriad manwl DBS a gwiriad carchar yn llwyddiannus.
Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Diploma mewn gweinyddu swyddfa neu brofiad at lefel diploma
- Gwybodaeth fanwl a thrylwyr a dealltwriaeth o weithdrefnau ysgrifenyddol, y strwythur, polisiau, cynlluniau, rheoliadau, gweithdrefnau rheoli a gweithredol y Sefydliad.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth gynhwysfawr am Windows, Word, Excel, PowerPoint.
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad ar lefel uchel o ddarparu gwasanaeth gweinyddol cynhwysfawr neu o fod yn Gynorthwyydd Personol.
- Yn gallu ymdrin ag aelodau staff / y cyhoedd a chyrff allanol yn broffesiynol ac yn sensitif a chynnal safon uchel o gyfrinachedd
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio fel Gweinyddwr / Cynorthwyydd Personol i Gyfarwyddwr Gweithredol neu gyfwerth.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Robert Lightburn
- Teitl y swydd
- Head of Healthcare
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01978 523132
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
